Gemau Yn Y Cyfryngau: Hacio’r Drafodaeth

gan Elidir Jones

Fel rhywun sydd wedi bod yn chwarae gemau ar hyd ei oes, dwi wedi hen arfer gweld prif ffrwd y cyfryngau yn trafod gemau mewn ffordd anwybodus a nawddoglyd. Os nad ydi’r cyflwynwyr yn chwaraewyr eu hunain, mae eitemau ar gemau yn tueddu i fod yn restr o bopeth sy’n bod efo nhw. Mae gemau, yn ôl 90% o’r stwff ar y teledu, yn blentynnaidd, yn dreisgar, yn arwain at ddibyniaeth, ac yn wast llwyr o amser. Yn anffodus, mae’r tueddiad yma yr un mor wir heddiw ag erioed. Er enghraifft, dyma Charlie Brooker yn trio – a methu – esbonio gemau i’r darllenwr newyddion Jon Snow, ac yn trio cadw ei cŵl yng ngwyneb anwybodaeth llwyr.

Yn ddiweddar, fe wnaeth y rhaglen Hacio eitem ar y diwydiant gemau yng Nghymru. Dwi ddim isio pigo arnyn nhw’r ormodol, ond mae’n enghraifft berffaith o sut mae unrhyw sôn am gemau yn cael ei wyro er mwyn creu pwnc trafod, er mwyn gwthio’r ratings i fyny, neu jyst er mwyn gwneud pobol yn flin.

Mae hynny wedi gweithio, o leia.

Wna i redeg drwy’r eitem cyn gwneud chydig o bwyntiau i orffen. Er mwyn dilyn y drafodaeth, dyma’r rhaglen. Mae’r eitem yn cychwyn ddeuddeg munud i mewn.

Ac mae’n dechrau’n addawol, gan roi cyflwyniad syml i gemau, cyn ymweld ag un o’r sawl digwyddiad retro sy’n cael eu cynnal yng Nghaerdydd erbyn hyn. Mae datblygwr ifanc, Jack Bevan Davies, yn cael ei gyfweld am ei yrfa ac am gemau yn gyffredinol, a ‘da ni’n cael mwy o sylwadau cadarnhaol gan chwaraewr brwd o’r enw Tom Pritchard. Digon teg. Neis iawn.

Ond yna mae pethau’n dechrau mynd yn negyddol. Cawn wybod mai “bechgyn ifanc sy’n gemo fwya, yn enwedig rheini rhwng 15 a 24 mlwydd oed”, sy’n gamarweiniol iawn. Ar gyfartaledd, mae’r chwaraewr tebygol yn tua 31 oed, ac mae tua hanner chwaraewyr yn ferched. Ac mae’r sgwrs wastad yn cael ei lywio tuag at pa mor gaethiwus ydi gemau, a faint o amser mae’r cyfranwyr yn eu treulio arnyn nhw. Dyma fydd prif bwyslais yr eitem o hyn ymlaen.

Cawn gyfarfod â Jamie Callis o’r Barri, sydd wedi cael ei drin yn feddygol oherwydd ei gaethiwed i gemau. Dwi ddim yn amau bod hyn yn broblem, a dwi ddim yn bwriadu trin y trafferthion mae o ac eraill wedi eu cael yn ysgafn, ond dwi ddim yn gwybod pa mor eang ydi’r cyflwr yma mewn gwirionedd. Oes ‘na ddigon ohono i gyfiawnhau’r holl godi bwganod yn yr eitem yma? Dwi ddim yn siŵr – yn enwedig gan bod y cynhyrchwyr yn amlwg ddim wedi medru ffeindio siaradwr Cymraeg oedd yn dioddef o’r cyflwr.

Ta waeth, tro Wynford Ellis Owen ydi hi nesa i roi ei farn o ar y mater. Mae gen i lot fawr iawn o barch tuag ato fo. Mae’n sicr yn gwybod lot mwy am seicoleg dibyniaeth nag ydw i, ac wedi treulio ei fywyd yn ymladd dibyniaeth yn ei holl ffurfiau. Ond dydw i ddim yn meddwl ei fod o cweit yn deall gemau o’r clip bach ohono sy’n cael ei ddangos yma. Mae’n honni, er enghraifft, bod gemau ar ffonau yn fwy tebyg o achosi dibyniaeth achos eu bod nhw’n fwy cyfleus. Dydi hyn yn bendant ddim yn wir. Mae gemau symudol, ar y cyfan, wedi eu cynllunio i’w chwarae dros gyfnodau byr, ac mae’r union bwynt yma yn cael ei wneud yn nes ymlaen yn y rhaglen!

Diolch byth, mae cyfaill f8, Gav Murphy, yn troi fyny i roi dipyn o synnwyr cyffredin – yn pwyntio allan (yn gywir, yn ei barn ni) bod dim byd mewn gemau sy’n waeth na theledu na ffilmiau, ac yn mynnu bod dim pwynt beio cyfrwng gemau yn ei gyfanrwydd am broblem sy’n amlwg yn seicolegol. Mae’n gwneud ei orau i droi’r sgwrs at gwmnïau o Gymru fel Wales Interactive, ond ychydig iawn o hyn sydd wedi ei gadw yn y rhaglen.

Yr un ydi’r stori pan mae ein cohort Osian Llew yn rhoi ei farn o. Mae Fideo Wyth yn cael mensh – hwre! – ac mae Osian yn gwneud job dda o lywio’r sgwrs i gyfeiriad hollol newydd, yn cynnig ffyrdd y gall y diwydiant ddod yn fwy Cymreig. Mae’n rhywbeth ‘da ni wedi ei drafod ar y teli o’r blaen.

Eto, dydi Osian ddim yn cael digon o amser i drafod pwnc fysa wedi medru cynnal eitem – neu raglen – gyfan.

Yn ôl at Jack a Tom yn y digwyddiad retro i orffen yr eitem. Ac er eu bod nhw eto yn trio aros yn bositif, at ddibyniaeth mae’r sgwrs yn troi o hyd. Mae Jack y datblygwr hyd yn oed yn cael ei holi ar un pwynt ydi o’n “targedu pobol all fynd yn gaeth”. Gwneud gemau mae o, cofiwch, dim gwerthu heroin.

Ac eto, drwy’r eitem mae ‘na sawl ffaith cadarnhaol yn cael eu cynnig. Bod 57% o’r boblogaeth yn chwarae gemau, bod 61 o gwmnïau yn eu datblygu nhw yng Nghymru, bod y diwydiant werth £4.2 biliwn bob blwyddyn ym Mhrydain, ac yn dal i dyfu. Mae ‘na sôn hefyd bod yr arian sy’n cael ei roi tuag at ddatblygu gemau o gronfa ddigidol y llywodraeth dan fygythiad. Fyddai hi ddim yn well, felly, i’r cyfryngau gefnogi’r diwydiant yn hytrach na’i farnu o hyd? Fysech chi’n disgwyl i raglen ar S4C fod yn fwy cefnogol, o leia, gan bod y sianel ar hyn o bryd yn ariannu’r holl gynnyrch Cymraeg sydd ar gael.

Unwaith eto, dwi isio pwysleisio ‘mod i ddim yn bwriadu pigo ar Hacio fan hyn. Mae’n broblem lot mwy eang, wedi ei yrru gan ysfa’r cyfryngau i greu ymateb – unrhyw ymateb – yn hytrach na rhoi’r ffeithiau i ni’n syml. Ond mae gweld eitemau negyddol fel hyn hefyd yn rhwystredig yn benodol oherwydd eu bod nhw yn y Gymraeg.

Yn un peth, mae Hacio wedi ei anelu at bobol ifanc yn bennaf. Pa mor debygol, sgwn i, y bydd eitemau fel hyn – eu hagweddau yn gyfangwbwl hen-ffasiwn – yn gwthio chwaraewyr gemau ifanc oddi wrth S4C? Dwi’n hoff iawn o sôn am y rhaglen Slaymaker yn y 90au, a sut roedd hwnnw’n denu fy ffrindiau ysgol o gefndiroedd di-Gymraeg, yn benodol oherwydd ei fod o’n cyflwyno gemau yn bositif ac yn aeddfed. Wel… aeddfed-ish, beth bynnag. Mae gen i ofn mai effaith cwbwl wahanol mae eitemau fel hyn yn ei gael.

Mae’n siomedig ar lefel bersonol hefyd. Rydym ni yn Fideo Wyth wedi cynnig, drwy’r sianelau cywir, bod S4C yn cynhyrchu rhaglen yn trafod diwydiant gemau Cymru yn fanwl ac yn gadarnhaol. ‘Da ni wedi cael ein gwrthod neu’n hanwybyddu bob tro.

A heb swnio’n rhy ddramatig, mae’n anodd peidio meddwl bod ein gwaith yn cael ei danseilio fymryn fan hyn. ‘Da ni’n falch iawn o’r stwff sydd wedi bod ar Y Lle dros y ddwy flynedd diwethaf, ac yn gobeithio bod ein heitemau ni’n apelio at chwaraewyr brwd ac at bobol sy’n newydd i gemau ar yr un pryd. ‘Da ni’n meddwl bod lot o’r stwff yna’n sefyll ochr-yn-ochr ag unrhywbeth am gemau sydd wedi bod ar y teledu, mewn unrhyw iaith. Ar ben hynny, ‘da ni (wel… Daf, gan amla) yn gwneud lot o waith y tu ôl i’r llenni yn hybu’r diwydiant gemau yng Nghymru ac yn trio gwneud yr iaith Gymraeg yn fwy canolog i’r holl beth. Petasai’r cyfryngau yn medru symud ymlaen o’r un dadleuon nawddoglyd sydd wedi eu poeri allan ers y 70au, fe fyddai hynny’n gam mawr i’r cyfeiriad iawn, ac yn gwneud i ni deimlo fel ein bod ni ddim yn gwthio’n erbyn y llanw o hyd.

Croeso i chi adael sylw am yr eitem, wrth gwrs, neu am y tueddiad cyffredinol yn y cyfryngau i farnu gemau a’r rhai sy’n eu chwarae nhw. A peidiwch â phoeni – fyddwn ni’n ôl i wneud stwff hurt a ffwrdd-a-hi yn ddigon buan.

 

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s