Ar Yr Olwg Gynta: Nintendo Switch

gan Elidir Jones

Nodyn byr heddiw i dynnu’ch sylw at y ffaith bod NINTENDO WEDI CYHOEDDI CONSOL NEWYDD DDOE!

Ahem. Dyma ni’r trelyr (hynod o slic), os ‘da chi ddim wedi ei weld yn barod.

Felly: mae’n gonsol allwch chi chwarae ar deledu yn eich cartref, cyn newid yn llyfn i fod yn gonsol symudol, yn uno platfforms traddodiadol Nintendo mewn un ymgais fawr i reoli’r byd.

Mae ‘na sawl ffordd o’i chwarae – o ddefnyddio rheolydd “pro” traddodiadol sy’n debyg i’r rhai ar y Wii a’r Wii U, i ddefnyddio cyfuniadau gwahanol o’r rheolyddion sy’n dod efo’r system. Gan gynnwys un ffordd o chwarae sydd i’w weld yn siwtio hobbits, Donald Trump, a neb arall…

screen_shot_2016-10-20_at_10-11-20_am-0

Pa mor fach ydi rheini? Rargol.

A sôn am fach, mae’r consol wedi taflu disgiau o’r neilltu, ac yn defnyddio “cartridges”, neu gardiau yn hytrach, yn debyg i’r rhai sy’n cael eu defnyddio ar y 3DS heddiw. Fe wnaeth y penderfyniad yna achosi lot o broblemau i’r N64 nôl yn y dydd – y tro diwetha i gonsol cartref ddefnyddio’r cartridge – ond gobeithio bod technoleg ac agweddau wedi newid dipyn erbyn hyn.

O ran gemau, mae’r trelyr yn dangos The Legend Of Zelda: Breath Of The Wild, fersiynau gydag elfennau cosmetig newydd o Mario Kart 8 SplatoonSkyrim (y fersiwn newydd sydd allan yn fuan, dwi’n cymryd), gêm pêl-fasged, a gêm Mario newydd sbon.

Wir, Nintendo. ‘Da chi’n rhoi tua 5 eiliad o gêm Mario newydd i ni, a dim gwybodaeth arall? Rhag eich cywilydd chi. O’n i’n meddwl bod ni’n ffrindiau.

Oni bai am hynny, ‘da ni’n gwybod yn barod bod Dragon Quest XI wedi ei gadarnhau… ac ydi’r trydariad yma gan Blizzard yn cynnig bod Hearthstone ar ei ffordd? Plis plis plis plis…

Fel arall, does ‘na ddim lot allwn ni ddweud ar hyn o bryd. Mae’r trelyr ei hun yn sicr yn taro’r nodyn cywir. Mae o’n glosi, ydi, ond ddim mor gyfoglyd o saff â hysbysebion y Wii. Mae’n crynhoi prif apêl y consol yn berffaith. Ac er pa mor hoff ydi pawb o ddarlediadau nyts Nintendo Direct, efo gweithwyr Nintendo yn bod yn waci mewn Saesneg gwael (weithiau ar ffurf pypedau), fyddai’r dacteg yna ddim wedi gweithio fan hyn, dwi’m yn meddwl.

Mae ‘na gymaint o gwestiynau ar ôl, wrth gwrs. ‘Da ni ddim eto’n gwybod be ydi pris yr uned, na bron i ddim o’r manylion technegol, na sut yn y byd mae nhw wedi llwyddo ffitio Skyrim ar gartridge. Gobeithio wir fydd Nintendo ddim yn cadw ni’n disgwyl yn rhy hir eto, ac y byddwn ni’n cael lot mwy o wybodaeth cyn i’r Switch gyrraedd ein dwylo chwyslyd fis Mawrth nesa. Ond o’r ychydig ‘da ni wedi ei gael yn barod, mae’n rhaid i mi ddweud ‘mod i wedi cyffroi.

Rŵan wnewch chi fynd ati a chadarnhau Hearthstone? Ac Animal Crossing, tra ‘da chi wrthi. Ac os allwch chi olchi llestri a sgubo’r dreif hefyd? Diolch, yncl Nintendo.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s