Fideo: Adolygiad Thumper

gan Elidir Jones

Amser fideo arall! Dyma olwg ar Thumper, sef yr uchafbwynt pendant i fi ar ôl treulio wythnos a hanner efo’r Playstation VR. Er ei bod hi’n ddigon hawdd chwarae’r gêm ar deledu arferol, yn y ffordd hen-ffasiwn ‘na.

Hefyd, wnewch chi sylweddoli bod y fideo yma yn cynnwys is-deitlau Saesneg dewisol. Mae Fideo Wyth yn denu mwy a mwy o ddilynwyr di-Gymraeg a dysgwyr, ac mae o wastad yn neis cael portffolio amlieithog rhag ofn bod rhywun o wefan / gyhoeddiad arall isio ein talu ni i wneud stwff. Am ryw reswm.

Mae’n syml iawn cael gwared ar yr isdeitlau – hofrwch dros y fideo a cliciwch y botwm ‘CC’ ar y gwaelod. Neu i’w stopio nhw rhag ymddangos yn awtomatig, ewch i Account Settings > Playback, clicwch y bocs ‘Always Show Captions’, ac yna ‘Save’.

‘Na ni’r gwaith tŷ drosodd. Mwynhewch y fideo!

Ac fel arfer, dyma’r sgript i chi ei edmygu yn eich amser chi’ch hun.

Roedd gen i lot o ddisgwyliadau cyn prynu Playstation VR. Ro’n i’n edrych mlaen at y blocbystyrs mawr swmpus fel Battlezone, yn gwthio’r system i’r eithaf. Mae profiadau mwy sidêt wastad yn grêt hefyd, fel George W. Bush’s Beach Vacation 2017.

[Clipiau ddim ar gael]

OK, ella ‘mod i ‘di gwneud yr un yna fyny.

Ond un gêm oedd yn sicr ddim ar fy radar i oedd Thumper: gêm lle ‘da chi’n rheoli ryw fath o chwilen o’r gofod sy’n gwneud ei ffordd o amgylch un rollercoaster ar ôl y llall er mwyn trechu pen mawr dychrynllyd o’r enw ‘Crakhed’. Ond goeliwch chi mai dyma fy hoff brofiad hyd yn hyn ar y PSVR? Mae’n siŵr gen i, hyd yn oed, mai dyma’r peth gorau mewn diwylliant poblogaidd i chwilod fod yn ran ohono fo erioed.

Oni bai am… ‘da chi’n gwbod. Y Beatles.

Felly mae’n cael ei ddisgrifio gan y datblygwyr, Drool, fel gêm “rhythm violence”. Term eithriadol o amwys, sydd rhywsut yn cyfleu’r profiad chwarae yn berffaith. Does ‘na ddim gwaed na thrais yn agos at y peth. Ond drwy set VR yn enwedig, mae’r gêm yn teimlo fel ei bod yn ysgwyd eich corff a’ch enaid at y byw wrth i chi lywio’r chwilen ar hyd y trac, yn neidio ac yn troi ac yn hamro botymau i gyfeiliant soundtrack techno gwych.

Neu… hard house. Neu acid… house. Dwi allan o ‘nyfnder fan hyn, folks.

Mae o fel cyfuniad gwallgo o Guitar Hero a Wipeout. Sydd rhywsut yn well na mae’n swnio.

Ac ella bod hyn i gyd yn swnio braidd yn ormod i’r rhai ohonoch chi sydd ddim wedi profi VR o’r blaen. Mae’n cymryd eich hanadl, yn sicr. Mae o hefyd yn bosib chwarae heb VR, ond mae’n llawer, llawer haws efo’r headset ‘na ar eich pen – rhywbeth wnes i ddim sylweddoli tan i fi recordio clipiau ar gyfer y fideo ‘ma. ‘Da chi’n teimlo fel eich bod chi’n ran o’r byd abswrd yma, pob cornel o’ch blaen yn fwy ac yn amlycach, pob nodwedd o’r trac yn rwystr mae’n rhaid i chi ei feistroli’n bersonol, yn hytrach na golau bach ar sgrîn hanner ffordd ar draws yr ystafell. Mae’n teimlo fel bod ‘na jyst fwy yn y fantol.

Mae ‘na broblemau yma, serch hynny. Mae’r gêm yn cynnig tiwtorial ar rai pethau, ond yn gadael pethau eraill yn ddirgelwch llwyr. Dwi dal ddim yn siŵr sut i fownsio oddi ar y waliau a hedfan yn urddasol drwy gylchoedd golau hyd yn oed rŵan, a dwi ‘di gorffen y gêm. Wna i fynd i’r bedd ddim yn gwybod, debyg. Adiwch hwnna at y rhestr o bethau dwi’n eu dyfaru.

Es i drwy hanner y gêm yn benderfynol o gael sgôr berffaith ym mhob lefel, a chael y troffi platinwm ‘na. Wel, mae’r plan yna ‘di mynd allan o’r ffenest. Erbyn y diwedd, mae Thumper jyst rhy anodd. Sbiwch, mewn difri calon. Ond dwi’n meddwl bod hyn yn wendid ar gemau rhythm yn gyffredinol. Dwi ‘di teimlo ‘run peth am bob un dwi ‘di chwarae. Fy mai i ydi o. Fy mai i ydi bob dim.

OK. Cyn i fi gael nervous breakdown, mae’n rhaid i fi wneud yn glir bod Thumper yn hanfodol os ‘da chi’n berchen ar declyn VR, a ddim yn ffôl heb un chwaith. Mae’n amlygu be mae VR yn ei wneud ora – profiadau syml, ond yn wefreiddiol ar yr un pryd, sy’n troi’r cloc yn ôl ac yn berwi gemau lawr i’w hanfodion. Ella dydi o ddim i bawb, ond ychydig iawn o gemau sydd yn apelio at bawb wedi’r cwbwl. Super Mario Bros, Tetris… ac wrth gwrs, Super Mari Lovgreen Simulator 2.

[Clipiau ddim ar gael]

Mae Thumper allan rŵan ar y PS4 a’r PC. Cofiwch hoffi, rhannu, a thanysgrifio. Am fwy o drafod gemau – yn Gymraeg – sticiwch efo ni yma ar fideowyth.com.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s