gan f8
Barod am yr eitem hir-ddisgwyliedig cynta ganddon ni ar y gyfres yma o Y Lle? Dyma fi a Daf (ac Osian Llew) wrthi’n chwarae gemau bwrdd mewn un o’r sawl digwyddiad cŵl sy’n cael eu cynnal gan siop Rules Of Play yng Nghaerdydd. Eitha sicr mai dyma’r eitem cynta am gemau bwrdd ar S4C i wneud jôc am yr albym Christmas In The Heart gan Bob Dylan.
Ac fel arfer, os ‘da chi ddim isio’r isdeitlau Saesneg bondigrybwyll ‘na, tarwch y botwm ‘CC’ i gael gwared ohonyn nhw.
Tra ‘da chi yma, dwi’n ychwanegu llwyth o fideos byr o Y Lle hefyd, efo ni’n mwydro am gemau newydd. Efo lluniau hyfryd o’r gemau ‘na yn gefndir i bob dim. Cadwch lygad fan hyn neu fan hyn.