Pod Wyth #4: “Pyrfyn Digidol”

gan f8

Oes wir, mae gan bodlediad f8 enw newydd. Croeso i bennod 4 o “Pod Wyth”. A sôn am deitlau, mae teitl y bennod yma’n eitha sbeshal hefyd.

Wythnos yma:

– Trafodaeth ddwys am y Playstation VR a’r holl gemau mae’r hogia wedi bod yn eu profi. Ac mae ‘na lot ohonyn nhw. Hefyd mymryn bach o stwff am gemau hen-ffasiwn diflas fel Shu, Duke Nukem 3D, a Battlefield 1.

– Cynnwrf anferth dros ddatgeliad hir-ddisgwyliedig y Nintendo Switch, sy’n cael ei drin a’i drafod hyd ebargofiant. Hefyd, mwy fyth o gyffro wedi ei anelu i gyfeiriad Red Dead Redemption 2, Civilization 6, a mwy.

– Daf yn trio jingls newydd allan, er mawr ddryswch i bawb, ac mae o’n adrodd stori hyfryd amdano fo’n rhannu moment arbennig efo’r bois trwsio internet ddaeth i’w gartref.

A dyma hysbyseb cyntaf y Nintendo Switch, sy’n cael ei thrafod yn y bennod:

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s