Ffilmiau Arswyd 2016, Rhan 2

gan Elidir Jones

Mae Calan Gaeaf yma o’r diwedd. Amser i bawb call gloi eu drysau, aros i mewn efo llyfr neu ffilm neu gêm sbwci, a dechra chwilota am anrhegion Dolig ar y we.

Ac os ‘da chi isio argymhelliad o ran ffilm, dyma fi wedi gorffen mynd drwy’r holl stwff arswyd sydd wedi pentyrru i fyny dros y flwyddyn, ac yn reportio’n ôl mewn un darn. Mae rhan cynta fy antur arswydus fan hyn, ac os does dim gormod o ofn arnoch chi, fe awn ni ‘mlaen efo’n gilydd. Gwyliwch y sgerbydau o dan draed. Dwi angen hwfro.

Attack The Block

maxresdefault

Yn dilyn What We Do In The Shadows, dyma gomedi arswydus arall ro’n i wedi llwyddo ei osgoi rhywsut. Wedi ei gyfarwyddo gan y digrifwr Joe Cornish, fe wnaeth Attack The Block dipyn o sblash pan ddaeth o allan bum mlynedd yn ôl, y cymhariaethau i Shaun Of The Dead yn fflio rownd y lle wili-nili.

Ac er dydi ATB ddim mor eiconig â chlasur Simon Pegg & co, mae’n sicr yn taro’r nodau cywir. I fi, mae’r ffilm – am haid o aliens yn ymosod ar floc o fflatiau yn ne Llundain, os doeddech chi ddim yn gwybod – yn fwy o reid difyr na chomedi sy’n debyg o’ch gwneud i chi wlychu’ch trôns yn chwerthin, a dydi’r agweddau arswydus ddim yn rhy debyg o fynd o dan eich croen gormod chwaith. Ond mae’n gweithio, serch hynny, efo’r perfformiadau canolog yn hoelio’r holl beth i lawr. Mae’n hawdd iawn gweld sut y gwnaeth John Boyega lanio ei rôl yn Star Wars: The Force Awakens ar sail ei berfformiad fan hyn. Os ‘da chi isio ffilm ysgafn, solet, i fwynhau efo’ch ffrindiau heno ‘ma, dyma’r un.

The Fog [1980]

Ganrif ar ôl i long gael ei ddryllio ar bwrpas gan drigolion tref gysglyd ar arfordir Califfornia, mae ysbrydion y criw anffodus yn dychwelyd i ddial ar y dref, wedi eu cuddio gan niwl sbwci sy’n symud yn erbyn y gwynt…

O’r synopsis, mae The Fog yn swnio fel nofel goll gan Stephen King (fyddai’n sicr wedi ei lleoli yn Maine, dim Califfornia), ac mae’r naws yma’n parhau drwy’r ffilm ei hun. Mae’n ffeindio balans neis rhwng caws yr 80au a gwir ddychryn, ac yn un arall da i wylio efo ffrindiau efo’r goleuadau i ffwrdd. Dydi hwn ddim yn ddarn o gelfyddyd cain, yn sicr, efo’r rhan fwyaf o gymeriadau heb unrhyw ddyfnder o gwbwl. Ond does neb isio ffilm arti-ffarti ar noson Calan Gaeaf, nag oes? A beth bynnag am ffaeleddau’r ffilm, mae’n sicr yn lot gwell na’r remake.

A na. Dwi ddim am wylio hwnna flwyddyn nesa. Mae gen i rai safonau.

Kill List

1-feature-pic8

Do’n i ddim yn gwybod unrhywbeth am Kill List cyn mynd i mewn, oni bai am y ffaith mai Ben Wheatley (Sightseers, A Field In England, High-Rise) oedd y cyfarwyddwr. Mae hynny’n ddigon da i fi.

Ac, os ‘da chi am roi go i’r ffilm, mae’n well i chi fynd i mewn yn weddol blanc hefyd, dwi’n meddwl. I roi’r plot cychwynnol yn fras, mae’n dilyn cyn-hitman, yn byw yng nghanol suburbia Lloegr, sy’n cael ei lusgo’n ôl i mewn i’r busnes er mwyn cefnogi ei deulu. Ychydig o bethau eraill wna i ddweud: bod hon yn ffilm arswyd o’r iawn ryw, er bod y cychwyn yn gwneud iddi edrych fel pennod o Tipyn O Stâd. Mae hefyd yn bwysig nodi bod Kill List ddim yn un hwyl i wylio efo ffrindiau, am unwaith, a bod y trais yma ar lefel arall. Dwi ddim yn un nerfus am drais mewn ffilmiau, a wnes i dal sbio ar y peth rhwng fy mysedd ar adegau. Ffilm wych, sy’n mynd o dan eich croen, ond un – fel holl stwff Ben Wheatley, am wn i – sy’n sicr ddim i bawb.

The Witch

Ac ymlaen i ffilm ola’r tymor, ac un mwya newydd, wedi ei rhyddhau flwyddyn diwetha. Mae The Witch yn dilyn teulu o Loegr, wedi mudo i ganol nunlle yng ngogledd-orllewin America yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg, ac yn dod wyneb-i-wyneb efo… wel, mae’r cliw yn y teitl.

Dwi ddim yn siŵr iawn be i wneud o’r un yma. Yn weledol, mae’n wych, efo lot o’r delweddau yn aros efo chi ymhell ar ôl i’r credydau rowlio. Mae’r deialog – lot ohono fo wedi ei gymryd yn syth o gofnodion o’r cyfnod – yn taro deuddeg. Mae ‘na berfformiad canolog gwych gan Anya Taylor-Joy, efo rhai o’r rhai eraill braidd yn or-theatrig i ‘nhâst i. Eto, a fedra i ddim cweit esbonio pam, doedd yr holl beth ddim cweit yn hongian efo’i gilydd i fi. Ella mai’r gair ‘theatrig’ ydi’r peth: ro’n i’n teimlo fel y byddai hwn ella yn gweithio’n well fel drama anhygoel o creepy, yn hytrach na ffilm. Dydi o’n sicr ddim yn cymharu efo’r trelyrs gwych.

Dwi’m yn gwbod. Gormod o arswyd wedi pydru’r meddwl, yn amlwg. Unrhywun arall wedi gweld The Witch sy’n gallu cynnig gwell dadansoddiad?

Dyna ni am flwyddyn arall. Rhowch wybod be sydd wedi rhoi iâs i fyny eich asgwrn cefn chi flwyddyn yma, da chithau. Gewch chi ddod allan o dan y cwilt rŵan.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s