gan f8
Dyma ni ar Y Lle unwaith eto – a ‘da ni ‘di taro’r big-time go-iawn erbyn hyn, yn cael teithio i EGX, sef sioe gemau fideo mwya Prydain.
Wythnos yma, wele ni’n bod yn newyddiadurwyr go-iawn wrth edrych ar rai o gemau mwya 2017. Wythnos nesa: hijinx.
Ac fel arfer, os ‘da chi ddim isio isdeitlau, cliciwch ar y botwm ‘CC’. Da chitha.
Da iawn bois. Mae’r sioe yn edrych yn grêt. Gaethoch chi gyfle i chwarae Sonic Mania?
Diolch! Wnaethon ni saethu darn byr am Sonic Mania ar gyfer y rhaglen, digwydd bod, ond gafodd o ei dorri. Dim amser i chwarae bron dim byd ar y dydd – rhy brysur yn ffilmio!
Digon teg! falle wnewch chi adolygiad pan mae’n dod mas…
Deal.