Nôl I Animal Crossing

gan Elidir Jones

Wnes i baratoi’r darn ysgafn, dihangol yma rai dyddiau’n ôl, prin yn sylweddoli faint fyddwn ni angen y math yma o beth. Darllenwch, mwynhewch, chwaraewch mwy o gemau… a rhwng hynny i gyd, dechreuwch ymladd yn ôl. Diolch.

Ers eitha dipyn bellach, mae fy 3DS wedi bod yn eistedd yn amyneddgar wrth ymyl fy ngwely, yn casglu llwch. Ond dim bellach. Dwi wedi cymryd trip yn ôl i fyd Animal Crossing.

eurogamer-ev6sng_1

Mae’r gyfres yn bymtheg oed bellach, wedi glanio’n wreiddiol ar y Nintendo 64 yn y flwyddyn 2001… yn Siapan, o leia. Roedd hi’n dair mlynedd – tair mlynedd! – arall cyn i ni yn Ewrop gael profi’r gêm Animal Crossing cynta, a hynny ar y Gamecube. Dwi’n eich caru chi, Nintendo, ond peidiwch byth â gwneud hynny i fi eto.

Mae’r prif syniad tu ôl i’r peth yn… wel, dydi o ddim yn syml. Mae’n eitha boncyrs, deud y gwir. Ond ta waeth. ‘Da chi’n chwarae bachgen neu ferch ifanc sy’n symud i mewn i bentre bach gwledig, yn llawn anifeiliaid cydli. Eich job chi ydi jyst byw – ewch i bysgota, ac i hel ffrwythau, ac i ddal trychfilod, a darganfod ffosils, a’u gwerthu nhw er mwyn prynu dodfrefn a gwella eich cartref. A tra ‘da chi wrthi, gwnewch yn siŵr bod y lle yn edrych yn deche, a bod yr holl bentrefwyr yn aros yn hapus. Simples.

Y syniad mawr arall ydi bod amser yn pasio yn y gêm fel mae o yn y byd go-iawn. Pan mae’n dywyll tu allan, fydd hi’n dywyll yn y gêm. Fydd hi’n ddiwrnod Nadolig yn Animal Crossing pan mae’r byd go-iawn yn mwynhau twrci ac yn anwybyddu’r Queen’s Speech. A do. Dwi wedi chwarae Animal Crossing ar ddiwrnod Dolig. Achos dwi’n cŵl.

Ers y dechrau, dwi wedi dilyn Animal Crossing ar draws sawl platfform. Y gwreiddiol, wrth gwrs, yna Wild World (2005) ar y DS, Let’s Go To The City (2008) ar y Wii, a New Leaf (2012) ar y 3DS. Hyn i gyd er bod y gemau ddim yn newid lot. Wnaeth y gêm ar y Wii gyflwyno ardal fach drefol y tu ôl i’r pentre ei hun, ac mae ‘na eitha dipyn wedi newid ar y 3DS wrth i chi ddod yn faer y lle yn hytrach na phentrefwr bach di-nod. Ond yn gyffredinol, dydi pymtheg mlynedd ddim wedi newid y math o brofiad gewch chi.

Ac yn yr wythnos diwethaf, mae Nintendo wedi rhyddhau patsh eitha sylweddol i Animal Crossing: New Leaf, bedair mlynedd ar ôl i’r gêm ddod allan. Mae’n ychwanegu llond trol o stwff allwch chi ddatgloi efo ffigyrau a chardiau Amiibo, ond i’r rhai (fel fi) sydd wedi methu magu diddordeb ynddyn nhw, mae ‘na lot mwy o stwff hefyd: cwpwl o gemau byrion newydd, cyfle i symud data ar draws o’r sbin-off Happy Home Designer ar y Wii U, stwff dibwys i wneud efo’r camera ar y 3DS, tasgau dyddiol a wythnosol, ac ardal newydd o’r pentre lle mae anifeiliaid dieithr yn dod ar eu gwyliau. Mewn camper van.

Ac felly, dwi ‘di cael gwared ar fy hen bentref yn llwyr, gwerthu fy holl eiddo, a chychwyn gêm newydd efo cyfri banc llawn. Bob bore ers rhyddhau’r patsh, dwi wedi bod yn crwydro yn hapus braf yn gwneud yr holl stwff arferol ac yn codi’r lle ar ei draed. Mae ‘na faes gwersylla, ffynnon, a phont newydd yn barod. Dydi’r anifeiliaid ddim yn gwbod be sy ‘di hitio nhw. Yn enwedig Curlos. Ond mae Curlos wastad ‘di drysu. Druan ohono fo.

curlos_newleaf_official

Prin iawn dwi’n ail-ymweld â gemau dyddiau yma. Felly pam bod Animal Crossing yn fy llusgo i ‘nôl, dro ar ôl tro, hyd yn oes pan does ‘na ddim gêm newydd allan? A pham fy mod i, dyn yn ei oed a’i amser, mor hapus i chwarae ac ailchwarae cyfres sydd mor amlwg wedi ei hanelu at blant?

Wel, debyg iawn bod nostalgia yn ran eitha mawr o’r peth. A dim jyst nostalgia ar gyfer y gemau eraill yn y gyfres, chwaith. Mae byd Animal Crossing ei hun fel cymryd trip yn ôl mewn amser i fyd symlach – a dim mewn ffordd UKIPaidd, Trumpaidd, dodgy. Mae pethau mor hawdd yno. Mae ‘na routine, does ‘na ddim byd gwirioneddol ddrwg yn digwydd, ac er nad ydi’r haul wastad yn sgleinio, dydi’r anifeiliaid ddim yn meindio llawer pan mae’n bwrw glaw. Am tua hanner awr bob bore, dwi’n mynd ar wyliau i fyd arall.

Mae ‘na gymaint mwy ar ben hynny, wrth gwrs. Mae gweld eich casgliad o bysgod, ffosiliau ac ati yn llenwi, gweld eich tŷ’n tyfu’n fwy, a gweld eich pentref yn datblygu wastad yn plesio, wrth gwrs. Mae’r graffeg, y cynllunio, y gerddoriaeth a’r deialog yn dod at ei gilydd i greu profiad sy’n od, yn sicr, ond yn hoffus yr un pryd. Dydych chi byth yn siŵr be fydd wedi newid bob diwrnod, sy’n eich llusgo’n ôl – a hefyd, dydi Animal Crossing ddim yn gêm allwch chi ei orffen, i ddweud y gwir. Wnewch chi byth gasglu pob un darn o ddodrefn, a fyddwch chi byth yn berffaith hapus efo’ch cartref. Ac os dydi hynny ddim yn ddigon i’ch caethiwo i’r profiad, wnewch chi hefyd deimlo euogrwydd anferthol os ‘da chi’n anwybyddu’r pentref a’ch ffrindiau newydd, hyd yn oed os ‘da chi ‘mond i ffwrdd am ddiwrnod. Dwi’n disgwyl y bydda i yno – eto – am wythnosau i ddod.

Be amdanoch chi? Oes unrhywun arall wedi codi New Leaf eto ar ôl y patsh newydd? A be ydi’ch atgofion o’r gyfres yn gyffredinol? Rhowch wybod yn yr adran sylwadau… neu gyrrwch lythyr yn y swyddfa bost, a sticiwch afal yn yr amlen. Jyst fel yn y gêm.

2 comments

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s