gan Elidir Jones
Fydd dilynwyr selog f8 yn gwybod ‘mod i’n dueddol o fynd fymryn yn boncyrs bob mis Hydref yn gwylio llwyth o ffilmiau arswyd. Gewch chi holl hanes y ddwy flynedd diwethaf fan hyn, fan hyn, a fan hyn. A fan hyn.
Ddywedais i, do?
A dydi 2016 ddim gwahanol. Ar ddechrau’r mis, roedd gen i wyth Blu-Ray sbwci sgleiniog yn disgwyl ar fy silff i. Mae eu hanner nhw wedi eu gwylio erbyn hyn, felly dyma adroddiad bach. Disgwyliwch un arall pan dwi’n gorffen efo’r gweddill. A gobeithio fydda i’n gallu osgoi adio unrhyw rai eraill at y peil, achos wnaeth y Playstation VR gyrraedd wythnos diwetha, ac i fod yn berffaith onest, dwi ‘di dechra diflasu ar y byd diflas ‘go-iawn’ ‘ma.
Beth bynnag. Ymlaen at y ffilmiau.
Birth Of The Living Dead
OK, felly ddim yn ffilm arswyd per se. Ond fedra i wylio ffilm ddogfen am ffilm arswyd. Dydi hynny ddim yn erbyn y rheolau. Gadewch fi lonydd.
Fel mae’r teitl yn ei awgrymu, mae Birth Of The Living Dead yn adrodd hanes y ffilm zombie eiconig Night Of The Living Dead, o ddechreuadau cynnar ei gyfarwyddwr, George Romero, i’w effaith ar ddiwylliant heddiw yn gyffredinol. Swnio’n wych, ond gefais i fy siomi fymryn ar ôl eistedd drwy hwn. Yn un peth, dwi’n gwybod lot am ddatblygiad y ffilm yn barod. A dwi ddim yn siŵr iawn sut. Mae’r wybodaeth jyst ‘di suddo mewn drwy sbio ar yr IMDB drosodd a throsodd, debyg.
Ond fyswn i ddim yn llwyr argymell y ffilm i’r rhai ohonoch sydd ddim yn gwybod lot am NOTLD (fel mae’r kidz yn ei alw) chwaith. Mae o fymryn yn sych, ac ar yr un pryd, ddim yn mynd i lot fawr iawn o ddyfnder am y ffilm – oni bai am un darn bach ella, yn trafod yr ymateb cynnar. Mae ‘na, dwi’n meddwl, ffilm ddogfen llawer gwell am y pwnc yn cuddio yn rhywle. ‘Da ni jyst angen bod yn amyneddgar (fel zombies Romero) yn hytrach na brysio i mewn i’r peth (fel zombies Zack Snyder).
10 Cloverfield Lane
Dyma welliant.
Dwi wedi bod isio gweld 10 Cloverfield Lane ers i’r ffilm gael ei rhyddhau allan o nunlle yn gynharach flwyddyn yma. A hynny jyst oherwydd y trelyr. Achos doedd ‘na ddim gwybodaeth arall ar gael.
A bellach, ar ôl gweld y ffilm a chael atebion i’r holl gwestiynau, roedd o werth y disgwyl. Alla i ddim sôn am y peth mewn dyfnder, wrth gwrs, achos bod pob un manylyn, fwy neu lai, yn spoiler. Yn fras, mae cymeriad Mary Elizabeth Winstead (un o fy hoff actorion, gyda llaw) yn deffro ar ôl damwain gar mewn byncyr tanddearol sy’n perthyn i ddieithryn (John Goodman) sy’n honni bod rhyw fath o apocalyps wedi dod. Ond ydi o’n dweud y gwir? Ta ydi o’n honco bost?
Ta’r ddau?
Dwi’n dweud dim mwy. Ffilm sy’n ddirdynnol o’r dechrau i’r diwedd, y perfformiadau gwych gan y prif actorion yn ganolbwynt i’r holl beth. Rŵan, os ellith J.J. Abrams esbonio be yn union ydi’r cysylltiad i’r Cloverfield gwreiddiol (os rhywbeth), fysa hynny’n neis.
What We Do In The Shadows
Ydi comedi yn cyfri fel ffilm arswyd ta?
Ydi, os ydi hi’n gomedi am vampires. Fy ngwefan, fy rheolau.
Dwi’n ffan mawr o’r cyfarwyddwyr Taiki Waititi. Mae ei ffilm Eagle vs Shark yn un o fy hoff gomedïau erioed, a dwi’n edrych ymlaen yn fawr at ei ffilm ddiweddara, Hunt For The Wilderpeople. Yr eiliad mae’n glanio yng ngogledd Cymru. Ahem.
Mae ‘na lot fawr iawn o bobol yn hoff iawn o What We Do In The Shadows – ffilm ddogfen ffug am griw o vampires yn byw mewn fflat yn Wellington, Seland Newydd. Mae’n amhosib peidio cael eich swyno gan garisma’r cast, sy’n cynnwys Jemaine Clement a Rhys Darby o Flight Of The Conchords. A wnes i chwerthin eitha dipyn. Ond ydi’r holl gags yn graff ac yn taro deuddeg? Dwi ddim yn meddwl. Roedd ‘na un neu ddau oedd hyd yn oed yn teimlo fymryn yn ddiog.
Fi sy’n bod yn rhy bartiwclar, debyg, ar ôl gwychder Eagle vs Shark. Wnes i fwynhau’r ffilm ar y cyfan, a gafodd fy obsesiwn efo Seland Newydd – sydd wedi mynd yn waeth ac yn waeth ers i fi fynd yno dair mlynedd yn ôl – ei fwydo ymhellach. Sef, ar ddiwedd y dydd, i gyd ‘da chi isio o ffilm fel hyn.
Neu ella jyst fi ‘di hynny.
Creepshow 2
Wyliais i’r Creepshow cynta – casgliad o ffilmiau byrion wedi ei ysbrydoli gan gomics arswyd y 50au – rai blynyddoedd yn ôl, ac eitha mwynhau y profiad. Roedd o’n gwbwl hurt, ond lot o hwyl ar yr un pryd. Dyma glip o Stephen King. Yn actio.
Mae ‘na ddau ddilyniant i’r ffilm – sydd wrth gwrs, yn ôl yr IMDB, yn gwaethygu wrth iddyn nhw fynd ymlaen. Fel unrhyw gyfres arswyd dda.
Felly. Creepshow 2. Tair ffilm fer unwaith eto, wedi eu gwahanu gan yr animeiddio gwaetha dwi ‘di ei weld mewn oes pys.
Yn y cynta, mae criw o hwdlyms yn dod i ddiwedd stici pan mae cerflun pren y siop mae nhw’n dwyn ohoni yn dod yn fyw. Yn yr ail, gawn ni hanes criw o arddegwyr (wedi eu chwarae gan actorion yn eu 30au, ‘thgwrs) yn styc yng nghanol llyn sy’n gartref i fwystfil rheibus. Ac yn ola, mae dynes fusnes snwti yn lladd dyn sy’n bodio’i ffordd ar ochr lôn ac yna’n dreifio off… ond dydi’r corff ddim yn fodlon aros yn farw, ac yn dod ar ei hôl fel y T-1000. Ond yn lot llai brawychus.
Dydi Creepshow 2 ddim yn dda. O gwbwl. Mae’r bwystfil ar y llyn yn edrych fel darn mawr o tarpaulin (achos dyna be ydi o, dwi’n meddwl), yr eitem cynta yn eithriadol o ddiflas, yr actio yn chwerthinllyd, efo’r holl stwff arswydus yn digwydd yn y pum munud ola, a’r ffilm ola jyst abowt yn gweithio. Ella. Os ‘da chi’n sgwintio.
Ond dim dyna’r pwynt. Mae’n ffilm wael dda. Un i wylio efo ffrindiau ar noson lawiog o Hydref, pawb yn chwerthin yn eironig dros bowlen o bopcorn. Os ydi profiad felly yn swnio’n hwyl, ewch amdani.
A dyna ni am y tro. Tro nesa: gwrachod! Ysbrydion! Aliens! A be bynnag sydd yn y ffilm Kill List gan Ben Wheatley! Dwi’m yn gwbod lot am yr un yna.
Wela i chi wap. Os byw ac iach. Bwa ha ha.
[…] i fyny dros y flwyddyn, ac yn reportio’n ôl mewn un darn. Mae rhan cynta fy antur arswydus fan hyn, ac os does dim gormod o ofn arnoch chi, fe awn ni ‘mlaen efo’n gilydd. Gwyliwch y […]