Unwaith eto i mewn i’r adwy, ffrindiau annwyl. Dyma’r casgliad ola o ffilmiau arswyd i fi wylio flwyddyn yma – gan gynnwys rhai ffilmiau y dylwn i wir wedi eu gweld cyn hyn. Steddwch nôl, mwynhewch… a triwch anwybyddu’r cysgod mawr ‘na sy’n sefyll tu ôl i chi…
The Innocents
Yn seiliedig ar efallai’r stori ysbryd erioed i gael ei sgwennu, The Turn Of The Screw gan M.R. James, mae The Innocents fwy neu lai yn byw i fyny i enw da’r llyfr yna. Dwi’n deud hynny, ond dwi ddim yn arbenigwr ar y llyfr o bell ffordd, wedi ei ddarllen ryw chwe mlynedd yn ôl mewn un sesiwn hir yn llyfrgell Hugh Owen, Aberystwyth. Sbwwwwwwci.
Mae athrawes ifanc yn cael ei gyrru i dŷ mawr yn ganol nunlle er mwyn dysgu dau o blant sy’n byw yno, gyda dim ond gwraig cadw tŷ ac un neu ddau o weision yn gwmni iddi. Ond mae’r hen athrawes a’i chariad wedi marw’n ddiweddar mewn amgylchiadau rhyfedd. Ac mae eu hysbrydion nhw yn dal i aflonyddu ar y lle…
… ta ydyn nhw?
Dyma’r stori ysbryd glasurol – ffigyrau tywyll yn cerdded y coridorau, gwynebau meirw yn y ffenestri, canhwyllau yn chwythu yn y gwynt – ac mae hynny’n olreit. Achos er nad The Turn Of The Screw ddyfeisiodd y confensiynau yma i gyd, dyna’r llyfr wnaeth nhw’n “barchus” ac yn ddyfeisiau “llenyddol” derbyniol. OK, mae’r actio gan y plant dipyn bach yn rybish. A’r acenion RP gan bawb (oni bai am y gweision, thgwrs) yn annifyr ar ôl dipyn. Ond ar y cyfan, mae’n anodd dod o hyd i well ffordd o yrru iâs lawr eich cefn chi ar noson stormus o Hydref.
Sgôr: pedwar gwyneb yn y ffenest allan o bump
Willow Creek
Mae Willow Creek yn rip-off llwyr o The Blair Witch Project, ond am Bigfoot… ac wedi ei gyfarwyddo gan Bobcat Goldthwait. Zed o Police Academy.
Ym.
Y peth ydi, dwi’n dipyn o ffan o Bobcat Goldthwait. Mae o’n foi digri iawn, ac o’n i’n dipyn o ffan o’i ffilm flaenorol, God Bless America. Ond mae hwn… dipyn bach yn crap. Wnes i sbio ar ffilm wedi ei ddylanwadu’n gryf gan Blair Witch yn gynharach yn y mis, sef Troll Hunter. Ond roedd hwnna’n gwneud rwbath gwahanol. Roedd ‘na elfen o gomedi, elfen o action, doedd o ddim yn dilyn yr un patrymau… mae hwn jyst fel Blair Witch, ond yn cael bron bob dim yn anghywir. Mae hanner cynta’r ffilm yn setio pethau i fyny, wrth i gwpwl ifanc deithio o gwmpas efo camera, yn gwneud ffilm ddogfen am y boi mawr ei hun. Tra bod Blair Witch wedi gosod seiliau’r chwedl yna mewn cwta ddeng munud, mae hwn yn cymryd tair gwaith gymaint o amser, ac yn gwneud lot, lot llai efo fo. Ac yna mae’r cwpwl yn mynd i mewn i’r goedwig, wrth gwrs, mae pethau dychrynllyd yn digwydd… ond yn hytrach na thensiwn gweddol gynnil Blair Witch, mae hwn jyst yn dibynnu ar sioc rhad. Ac yna mae’r ffilm jyst yn gorffen… ac roedd rhaid i fi gŵglo’r peth i drio dallt be ddiawl aeth ymlaen. Mae’n troi allan bod y diweddglo yn dibynnu ar fyths am Bigfoot sydd ddim yn cael eu hesbonio yn y ffilm. O gwbwl. Ac mae ‘na gymeriadau jyst yn diflannu am ddim rheswm, a…
Diar mi. O’n i wir isio mwynhau hwn. Ond dyma’r ffilm waetha i fi weld mis yma, o bell ffordd. Peidiwch a boddran.
Sgôr: un troed mawr a hanner allan o bump
Invasion Of The Body Snatchers (1978)
Unwaith eto, dwi ‘di sgipio’r fersiwn gwreiddiol o 1956 ac wedi mynd yn syth ar y fersiwn mwy diweddar. Unwaith eto mae Jeff Goldblum yn popio fyny, ac unwaith eto dyma ffilm – fel They Live – sy’n delio efo’r ddynol ryw yn cael ei gymryd drosodd gan rym dieflig o blaned neu ddeimensiwn arall. Mae’n ffitio’n neis i mewn i’r rhediad o ffilmiau dwi ‘di gwatshiad mis yma.
A dwi’n gwbod bod Body Snatchers yn ffilm dda, a bod y diwedd yn eiconig, i fyny efo diwedd Don’t Look Now (be ydi o am ffilmiau Donald Sutherland?), a bod ‘na ddim byd mawr yn bod efo hwn… ond ar ddiwedd y peth, o’n i jyst yn teimlo dipyn bach yn wag. Dwi’n meddwl achos ‘mod i wedi gweld y math yma o beth sawl gwaith o’r blaen, a’r ffaith ‘mod i’n gwybod be oedd yn dod oherwydd bod ‘na gymaint o stwff mewn diwylliant poblogaidd wedi cyfeirio at y ffilm yma dros y blynyddoedd. Ac mae Jeff Goldblum wastad dipyn bach yn annifyr.
Ond dyna ni. Dwi ddim am weld bai ar glasur o’r genre. Tyswn i ‘di gweld hwn pan ddaeth o allan, fyswn i’n teimlo’n wahanol, debyg. Ond fel mae pethau…
Sgôr: tri Jeff Goldblum a hanner allan o bump
Jaws
Do’n i erioed ‘di gweld Jaws o’r blaen.
Dwi’n gwbod. Wna i nôl fy nghôt.
Wnes i drio ei watshiad o pan o’n i’n fach, i fod yn deg, ond ges i fy nychryn gormod gan y dechrau. Ac felly, er nad ydi rhannau helaeth o’r ffilm yn dilyn fformiwla ffilmiau arswyd yn union, fydd Jaws wastad yn ffilm arswyd i fi. A dyna ddiwedd ar y drafodaeth yna.
Dwi’n anghofio weithia pa mor dda ydi Spielberg. Ac oes ‘na ffilm mwy Spielberg-aidd na Jaws? Dyma, yn fwy na dim byd arall, wnaeth ei enw… a dyfeisio blockbusters yr Haf ar yr un pryd, diolch yn fawr iawn. Does ‘na ddim lot o bethau drwg alla i ei ddweud am Jaws, nag oes? Mae’r sgript, y cymeriadu, yr actio, y sinematograffi… bob dim fwy neu lai yn berffaith. Os ‘da chi mor dwp a fi, ac erioed wedi gweld Jaws o’r blaen, mae’n hen bryd newid hwnna, dydi? Neu gewch chi jyst chwarae’r hen gêm oedd gen i ar yr Amstrad CPC 464. Yr un profiad gewch chi’n union.
Sgôr: pum cwch dim digon mawr allan o bump
The Shining (1980)
Dwi ddim yn hollol iwsles. Dwi wedi gweld The Shining o’r blaen. Neu’n hytrach, dwi ‘di gweld rhannau gwahanol o’r ffilm, bob hyn a hyn… gan gynnwys dechrau’r ffilm ryw ddeg o weithiau. Mae ffilmiau’n cael eu dangos ar y teledu yn lot rhy hwyr yn y wlad yma, bois bach. Felly, i orffen fy marathon o ffilmiau arswyd, wnes i benderfynu ista i lawr a gwylio’r holl beth, o’r dechrau i’r diwedd, am y tro cynta.
Dyma, o bosib, y ffilm arswyd gorau erioed. Dim dyma fy hoff un – mae’n well gen i The Omen, diolch yn fawr – ond mae’n anodd dychmygu un sy’n wrthrychol well. Ac eto, dwi’n cytuno efo Stephen King bod ‘na broblemau efo’r ffilm. Er bod Jack Nicholson yn rhoi perfformiad bythgofiadwy, dydi o jyst ddim yn iawn ar gyfer rhan Jack Torrance – dyn normal sy’n troi’n wallgo wrth i’r ffilm fynd yn ei flaen. Dydi’r boi yma byth cweit yn taro deuddeg yn chwarae “dyn normal”. A dwi ddim chwaith yn meddwl bod Shelley Duvall yn ffitio cymeriad Wendy, yn enwedig sut y cafodd hi ei disgrifio yn y nofel.
Ond mae popeth arall – y setiau, yr awyrgylch, gweddill y cast, y deialog, y delweddau – fwy neu lai yn berffaith. Mae’r awyrgylch o ofn yn cael ei adeiladu yn y ffilm yma, yn ara bach, yn well nag unrhyw ffilm arswyd arall, dwi’n meddwl – yn grescendo perffaith.
Dwi’n mwynhau’r ffilm yma gymaint, dwi bron isio mynd i watshiad y fersiwn arall o The Shining. Yr un oedd Stephen King yn licio.
Bron.
Sgôr: pum bwyell i ddrws allan o bump
A dyna ni. Calan Gaeaf hapus i chi i gyd. Cofiwch ddychryn eich hun yn wirion bost flwyddyn yma. Roedd eich ymdrech flwyddyn diwetha yn siomedig. Siomedig iawn.
Dwi’n eich gwatshiad chi…
– Elidir
[…] Fydd dilynwyr selog f8 yn gwybod ein bod ni wedi mynd dipyn bach dros ben llestri flwyddyn diwetha. Wnaethon ni drafod The Walking Dead, cyfweld trefnydd gŵyl arswyd Abertoir, gwneud adolygiad fideo o Alien Isolation, a gwylio ac adolygu 13 o ffilmiau arswyd. Fan hyn, fan hyn, a fan hyn. […]
[…] fydda i’n gwneud fy ngorau i wylio llwyth o ffilmiau arswyd, fel dwi’n ei wneud bob mis Hydref, ac yn dal i frwydro drwy The Witcher 3, sydd wedi para drwy fis Medi i mi’n […]
[…] gwylio llwyth o ffilmiau arswyd. Gewch chi holl hanes y ddwy flynedd diwethaf fan hyn, fan hyn, a fan hyn. A fan […]