Calan Gaeaf hapus i chi!
Fydd dilynwyr selog f8 yn gwybod ein bod ni wedi mynd dipyn bach dros ben llestri flwyddyn diwetha. Wnaethon ni drafod The Walking Dead, cyfweld trefnydd gŵyl arswyd Abertoir, gwneud adolygiad fideo o Alien Isolation, a gwylio ac adolygu 13 o ffilmiau arswyd. Fan hyn, fan hyn, a fan hyn.
Dwi ddim ‘di mynd i cweit gymaint o drafferth flwyddyn yma. Achos prysurdeb. A bywyd. A stwff. Mae cyfres cynta The Twilight Zone gen i ar y silff, ond mae o’n para 16 awr, felly ella wna i ddim gorffen hwnna tan Calan Gaeaf nesa. Yn y cyfamser, dwi wedi bod yn gwylio llond llaw o ffilmiau arswyd sy’n newydd i fi. Yn ysbryd yr ŵyl, be am fynd drwyddyn nhw, fi a chi?
Dimiwch y goleuadau. Stwffiwch eich hunain efo melysion. Triwch anwybyddu’r addurniadau Dolig ym mhob man. A mwynhewch.
Mwa ha ha etc.
Scanners
Ro’n i’n teimlo bod angen i fi wylio Scanners. Ffilm gan David Cronenberg, efo un o olygfeydd mwya eiconig ffilmiau arswyd… mae o’n cael ei grybwyll yn Wayne’s World, neno’r tad.
Ond wedi i mi wneud yr amser i’w wylio, rhaid i fi ddweud ‘mod i wedi fy siomi dipyn. Ac wedi diflasu.
Mae’r ffilm yn dilyn criw o bobol gyda galluoedd telepathig, y rhan fwyaf yn dilyn y boi drwg, Darryl Revok (enw da), er mwyn creu hafoc ar draws y byd. Ond mae ‘na un dyn bach, wrth gwrs, sy’n gwrthryfela.
Mae ‘na dipyn bach mwy i’r peth na hynny… ond dim lot. Mae unrhyw droeadau yn y plot yn reit amlwg a chonfensiynol, yr actio braidd yn ddienaid (oni bai am Patrick McGoohan, sy’n gwneud job eitha da), a’r holl beth jyst yn ara deg. Dydi o ddim yn helpu bod Scanners, oni bai am y golygfeydd eiconig ‘na, ddim wir yn ffilm arswyd, ac yn fwy o ffilm gwyddonias – a minnau isio teimlo ryw ias hen-ffasiwn wnaeth byth ymddangos.
Dydi hi ddim yn sioc i mi bod Cronenberg wedi brysio ffilmio’r peth ac wedi brwydro’n galed efo’r stiwdio ac efo’r actorion yr holl amser. Diddorol os ydach chi’n ffan o’i waith, ond ffilm sydd ddim yn haeddu ei statws cwlt, dwi’m yn meddwl.
Black Sheep
Ffilm am ddefaid gwallgo yn bwyta pobol yn Seland Newydd. Be well?
Ddwy flynedd yn ôl, ro’n i’n teithio o gwmpas Seland Newydd efo ffrind, a gawson ni ddewis un ai gwylio’r ffilm yma, neu’r ddrama griti Once Were Warriors. Wnaethon ni ddewis hwnna, a meddwl ei bod hi ymysg y ffilmiau gwaetha i ni weld erioed. Mae Black Sheep, ar y llaw arall, yn eitha dipyn o hwyl.
Adiwch hwnna at y rhestr o gamgymeriadau mawr dwi ‘di neud yng nghwrs fy mywyd.
Oni bai am y syniad canolog gwallgo, dydi Black Sheep ddim yn gwneud lot o bethau newydd. Mae’r cymeriadau yn stoc, y deialog yn ddim byd sbeshal, a dydi’r hiwmor ddim yn dod yn agos at uchelfannau Shaun Of The Dead. Ond mae’r golygfeydd yn hyfryd, yr effeithiau arbennig yn hollol briliant, efo dim CG yn agos at y peth, a fedrwch chi ddim helpu cael eich cludo ar don o fwynhad gwallgo. Mae hon yn ffilm lle allwch chi deimlo angerdd y criw tuag at y peth. Mae’r hwyl gawson nhw i’w weld yn amlwg ar y sgrîn, mor blaen â’r gwaed sy’n sblatro dros y lle.
Fedrwch chi fyw heb Black Sheep. Dydi hi ddim yn glasur, a fyddi hi byth. Ond os oes ganddoch chi awr a hanner i’w sbario, ac isio dipyn o laff gwaedlyd, ewch chi ddim o’i le.
Death Bed: The Bed That Eats
Os ‘da chi ddim ‘di clywed am Death Bed: The Bed That Eats… wel, do’n i ddim chwaith. Ond wnaeth ‘na ffrind i mi argymell y ffilm, ac mae ei chwaeth hi yn sbectaciwlar, felly roedd rhaid i fi ei gwylio.
Wedi ei ffilmio yn 1972, yn gwbwl amaturaidd, a’i orffen yn 1977, fe gafodd Death Bed ei rhyddhau o’r diwedd yn 2003, wedi i gopïau bootleg gael eu rhannu am flynyddoedd. Os ‘da chi isio mwy o hanes y ffilm, efo jôcs, gwrandewch ar y digrifwr Patton Oswalt yn esbonio’r peth fan hyn. Efo iaith gref, wrth gwrs.
Ella eich bod chi’n edrych ar deitl y ffilm, ac yn meddwl eich bod chi’n gwybod popeth amdani’n syth. Mae ‘na wely sy’n bwyta pobol. A dyna ni. Ond mae ‘na gymaint mwy i’r peth na hynny. Dim bod popeth yn gwneud synnwyr, cofiwch.
Mae ‘na ellyllon y gwynt, ac ysbryd sy’n byw y tu ôl i ddarlun ac yn adrodd yr holl ffilm, a darnau seicedelig hir a breuddwydiol, a rhai o’r effeithiau gwaetha i mi weld erioed. Yn gynnar yn y ffilm, mae hanes y gwely dieflig yn cael ei esbonio, sy’n cynnwys papur newydd efo’r pennawd “Strange Munching Sounds Heard At Night”. Mae’r peth yn nyts, efo rhai darnau sy’n syth allan o Monty Python.
Fyddwch chi’n synnu clywed nad ydi Death Bed: The Bed That Eats yn ffilm dda. O gwbwl. Ond wnes i ei mwynhau hi gymaint beth bynnag. Dyma sleis berffaith o seicedelia y 70au… os ‘da chi’n ddigon parod i anwybyddu’r effeithiau. A’r actio. A’r stori. Ac… o, jyst gwyliwch y peth.
Dyna ni am y tro, mae gen i ofn. Sori dwi ddim ‘di gwneud gymaint o ymdrech flwyddyn yma…
Ond witshiwch funud! Os ‘da chi’n hoff o stwff sbwci, ac o gags di-bwynt, gwyliwch Y Lle ar S4C nos Iau nesa, lle fyddwn ni cymryd cip ar rai o’r gemau arswyd pwysica erioed. Dwi’n meddwl mai dyma fy hoff un i o’r gyfres, felly cofiwch diwnio mewn.
– Elidir
[…] fydda i’n gwneud fy ngorau i wylio llwyth o ffilmiau arswyd, fel dwi’n ei wneud bob mis Hydref, ac yn dal i frwydro drwy The Witcher 3, sydd wedi para drwy fis Medi i mi’n […]
[…] Fydd dilynwyr selog f8 yn gwybod ‘mod i’n dueddol o fynd fymryn yn boncyrs bob mis Hydref yn gwylio llwyth o ffilmiau arswyd. Gewch chi holl hanes y ddwy flynedd diwethaf fan hyn, fan hyn, a fan hyn. A fan hyn. […]