Os fethoch chi o, dwi’n gwylio llwyth o ffilmiau arswyd mis yma. ‘Da chi’n gwbod… achos Calan Gaeaf. A stwff. Yr holl fanylion gwaedlyd am y ffilmiau cynta i fi wylio fan hyn.
A dydi’r arswyd ddim yn stopio fanna. O, na. ‘Co ni off eto.
The Fly (1986)
Dwi fel arfer yn gwneud ymdrech i wylio’r fersiwn gwreiddiol o ffilm cyn troi at y remake, ond wnes i ddim boddran efo fersiwn 1958 The Fly am ryw reswm. Ddim yn siŵr iawn pam, chwaith. Mae o’n edrych yn dda.
Mae hwn yn dda hefyd. Rhaid i fi gyfadda, dwi erioed ‘di bod yn ffan mawr o Jeff Goldblum. Dwi’n ymwybodol iawn ‘mod i’n swnio fel hen ddyn famma, ond ma’r boi jyst yn mymblo gormod. Fel arfer, dwi’n meddwl am ei actio fel caricature gwael o sut mae pobol yn ymddwyn go-iawn. Ond yn hwn, mae o’n chwarae pethau’n berffaith, dwi’n meddwl, yn sefyll ar y ffîn rhwng “creepy” a “normal” ar ddechrau’r ffilm, ac yn llithro mwy a mwy i dir y crîps wrth i’r ffilm fynd yn ei flaen, wrth i’w ddynoliaeth lithro i ffwrdd. Mae pawb yn gwybod be sy’n digwydd yn hwn bellach, felly dydi hwnna ddim yn sbwylio unrhywbeth.
Mae Geena Davis hefyd yn olreit – ond fyswn i yn deud hwnna gan ein bod ni’n rhannu penblwydd. Ni, Benny Hill, a Baby Spice yn erbyn y byd. Seren y ffilm, serch hynny, ydi’r effeithiau arbennig. Mae gweld babŵn yn cael ei droi y ffordd rong rownd yn gynnar yn y ffilm yn un peth, ond mae trawsffurfiad Jeff Goldblum yn rhywbeth arall. Prawf arall bod effeithiau go-iawn, ymarferol, yn gallu bod gymaint gwell nag unrhyw CG. Mae ‘na ddarnau yn hwn sydd yn dal i fod yn wirioneddol frawychus. Fel y darn ‘na yn y bar. Bleurgh.
Ddim yn ffilm i’r gwangalon felly. Ond dyna’n union be ‘da chi isio’r amser yma o’r flwyddyn, de? Cyflwyniad perffaith i ffilmiau cynnar Cronenberg, fyswn i’n deud. Scanners flwyddyn nesa, dwi’n meddwl.
Sgôr: pedwar corff babŵn allan o bump
Village Of The Damned (1960)
Mae’r delweddau o’r ffilm yma yn eiconig: y casgliad o blant bach efo gwallt golau, eu llygaid nhw’n goleuo wrth iddyn nhw reoli pawb o’u cwmpas nhw drwy ryw hud dieflig.
Ond eto, do’n i erioed wedi gweld y ffilm, na chlywed llawer o drafod amdani. Dydi Village Of The Damned ddim yn bad o gwbwl, ond mae’n wir mai yn y delweddau mae’r prif gryfderau. Mae’r ffilm yn dechrau wrth i bentre cyfan ym mherfeddion Lloegr lewygu ar unwaith, sy’n cychwyn y peth mewn ffordd priodol o creepy. Ac yna mae’r plant ‘na’n cyrraedd, mae popeth yn disgyn yn ddarnau, ac mae’n rhaid i ddyn gwyn dosbarth-canol Saesneg achub y diwrnod, wrth gwrs. Er bod y ffilm yn dilyn fformiwla yn weddol slafaidd, wnes i fwynhau Village Of The Damned eitha dipyn… mae’n debyg oherwydd ‘mod i ‘di gwylio’r ffilm ar brynhawn Sul. A dyna be ydi hwn. Ffilm prynhawn Sul perffaith.
Mae’n colli cwpwl o bwyntiau oherwydd bod ‘na ddim lot o is-destun… i fi allu weld, beth bynnag. Ffilm fach hwyl am blant bach annifyr yn bod yn annifyr. Ac mae hwnna’n OK.
Sgôr: tri plentyn bach annifyr allan o bump
Children Of The Damned
Ac fe gafodd Village Of The Damned ddilyniant, o fath, yn Children Of The Damned… er nad ydi Children yn cyfeirio at ddigwyddiadau Village o gwbwl.
Yn hon, mae criw o blant bach annifyr – ond heb walltiau golau’r ffilm gynta – yn dod at ei gilydd o bedwar ban byd, eu doniau arbennig yn denu sylw’r Cenhedloedd Unedig, sydd ddim yn siŵr a ddylsan nhw ddefnyddio’r plant er lles y byd ta jyst eu dinistrio nhw fel cŵn cynddeiriog.
O ia. Mae ‘na gi yn cael ei saethu’n farw yn y ffilm yma. Yowzers.
Er bod y plotiau yn debyg iawn ar yr wyneb, mae Village Of The Damned a Children Of The Damned yn ffilmiau gwahanol iawn. Yn un peth, mae gan hon dipyn o ddyfnder – ac mae’n rhyfeddol o flaengar am ei amser. Yn hytrach na’u bod nhw i gyd yn edrych yr un peth, mae’r plant yn Children yn dod o sawl hîl gwahanol, ac mae’r golygfeydd olaf, gyda nhw i gyd yn dal dwylo wrth wynebu’r fyddin Brydeinig, yn bwerus hyd yn oed heddiw. Ac yn wahanol i Village, dydi’r plant yn y ffilm yma ddim yn ddrwg i gyd, a dim ond yn ymosod ar bobol pan eu bod nhw yn cael eu bygwth. Mae ‘na gymaint mwy o ddyfnder yn hon, yn enwedig tuag at y diwedd. Yn anffodus, dydi hi ddim cweit gymaint o hwyl, ond dwi’n meddwl bod amser wedi bod yn lot mwy clên i Children Of The Damned.
Ac mae prif arwr y ffilm yn Gymro! Mae’n rhaid bod hynny werth rhywbeth.
Sgôr: pedwar corff ci allan o bump
Misery
Yn y cofnod diwetha, wnes i gwestiynu oedd Silence Of The Lambs yn ffilm arswyd ai peidio. Ac mae’r un cwestiwn yn hongian uwchben Misery, fel morthwyl uwchben corff James Caan. Ydi, mae o’n seiliedig ar lyfr gan Stephen King, ond ydi o’n dilyn confensiynau’r genre arswyd? O, dwi’m yn gwbod. Gwnewch eich meddwl eich hun i fyny am unwaith.
Wna i ddweud hyn am Misery: mae o’n un o’r ffilmiau prin, prin ‘na sydd mor dda a’r llyfr. Ac mae’r llyfr yn eitha da. Ddim ymysg goreuon Stephen King, ella – It, The Shining, a chyfres The Dark Tower, diolch am ofyn – ond mae o’n solet. Ac mae’r un peth yn wir am y ffilm. Mae’r perfformiadau yn hollol briliant, wrth gwrs… yn enwedig Kathy Bates, wnaeth ennill Oscar am ei phortread o Annie Wilkes. Yn haeddiannol iawn hefyd. Sbiwch.
Ella bod hwnna’n glip o’r ffilm anghywir. Dwi’m yn gwbod. Dwi mewn brys.
Grêt o stwff, beth bynnag. Ac mae o’n gwneud i chi obeithio y gwneith James Caan ffilm dda eto. Y diwetha oedd Elf. Iasu mawr.
Sgôr: pedwar morthwyl i’r sodlau allan o bedwar
Un cofnod arall i ddod cyn diwedd y mis. Fydda i’n edrych ar…
… un o’r straeon ysbryd gora erioed…
… ffilm wedi ei gyfarwyddo gan un o gast y ffilmiau Police Academy…
… remake o glasur ffug-wyddonol…
… un o’r ffilmiau gorau’r 70au, ac un dwi rywsut erioed wedi ei weld…
… ac addasiad arall o waith Stephen King.
Unrhyw syniadau am be ddiawl dwi’n fwydro? Fydd popeth yn cael ei ddatgelu tro nesa.
– Elidir
[…] gwneud adolygiad fideo o Alien Isolation, a gwylio ac adolygu 13 o ffilmiau arswyd. Fan hyn, fan hyn, a fan […]
[…] i gyd, fydda i’n gwneud fy ngorau i wylio llwyth o ffilmiau arswyd, fel dwi’n ei wneud bob mis Hydref, ac yn dal i frwydro drwy The Witcher 3, sydd wedi para drwy fis Medi i mi’n […]
[…] Hydref yn gwylio llwyth o ffilmiau arswyd. Gewch chi holl hanes y ddwy flynedd diwethaf fan hyn, fan hyn, a fan hyn. A fan […]