gan Elidir Jones
Mae’r amser yna o’r flwyddyn wedi cyrraedd eto, pan mae’r holl gemau newydd yn rhuthro allan ar unwaith yn barod ar gyfer y Dolig. Ac mae’r mis Hydref yma yn edrych yn rhyfeddol o drwm, er bod cwpwl o gemau oedd i fod i ddod allan wedi eu gwthio’n ôl. Mae ‘na bump o gemau mae gen i ddiddordeb ynddyn nhw, ar ben yr holl stwff fydd yn cyrraedd yn sgîl platfform newydd sbon…
Ar ben hyn i gyd, fydda i’n gwneud fy ngorau i wylio llwyth o ffilmiau arswyd, fel dwi’n ei wneud bob mis Hydref, ac yn dal i frwydro drwy The Witcher 3, sydd wedi para drwy fis Medi i mi’n barod.
O, ac wrth gwrs, fe fyddwn ni’n trafod yr holl gemau ‘ma mewn print, mewn fideo, ac ar ein podlediad. Felly dyna hynny i wneud hefyd.
Pwy sy’ angen cwsg pan mae hyn i gyd ar y ffordd?
Hydref 4
Warhammer: End Times – Vermintide
Mae ‘na chwa o gyffro yn chwythu trwy f8 HQ bob tro mae ‘na gêm Warhammer teidi allan. Gobeithio fydd Vermintide yn un ohonyn nhw.
Mae hon wedi bod allan ar y PC ers bron i flwyddyn bellach, ond dim ond rŵan mae’n taro consol. Fwy neu lai yn fersiwn o’r gemau Left 4 Dead gan Valve, ond efo llygod mawr (mawr, mawr) dieflig Warhammer, y Skaven, yn lle’r zombies. Dydi Vermintide ddim yn debyg o wneud llawer o bethau newydd, ond mae’n debyg gawn ni brofiad hynod o slic mewn byd cyfarwydd a chyfforddus. Ac mae hynny’n ddigon.
Hefyd, fedrwch chi weithio drwy’r gêm efo chwaraewr arall, sydd wastad yn fonws. Ella gewch chi ddisgwyl ffrŵd byw wrth i fi a Daf dorri’n ffordd drwy filoedd o lygod mawr. Hyfryd.
Shu
Dwi wedi bod yn disgwyl yn eiddgar am Shu byth ers ei brofi yn sioe EGX Rezzed yn y gwanwyn. Ac wrth gwrs, mae’n cyrraedd yr un diwrnod â Vermintide. Typical.
O’r chydig bach o amser ges i efo’r gêm yn y sioe, roedd Shu yn teimlo lot fel gêm blatfform fyddai’n ffitio’n iawn ar y SNES, yn ystod oes aur y genre. Mae’r prif fecanwaith – lle ‘da chi’n hedfan drwy’r lefelau ar y gwynt – yn teimlo’n wych, mae’r gwaith celf yn hynod o brydferth… be arall ‘da chi isio?
O, plys mae teitl y gêm yn hwyl iawn i’w ynganu. Shu.
Shu.
Shuuuuuuuuuuuuu.
Hydref 11
Duke Nukem 3D: 20th Anniversary World Tour
Brith gof sydd gen i o Duke Nukem 3D. Deud y gwir, dwi ddim yn siŵr ‘mod i wedi chwarae’r gwreiddiol o gwbwl, oni bai am y fersiwn ar y Nintendo 64. Ond dwi yn hoff o gemau FPS o ganol y 90au fel Doom (wrth gwrs), Hexen, a Dark Forces. Mae’n braf cael esgus i ail-ymweld ag un ohonyn nhw.
Y cwestiwn mawr ydi hyn: a fydd y profiad chwarae yn ddigon i dynnu sylw rhywun oddi wrth y driniaeth cwbwl, cwbwl hyll o ferched sydd yn Duke Nukem 3D. Diolch byth bod yr agwedd yma o gemau wedi newid (ar y cyfan) ers 1996, ddweda i. Mae’n bosib iawn ddo i allan o’r profiad yn casau’r peth.
Chi fydd y cynta i wybod, wrth gwrs.
Rise Of The Tomb Raider
Ac am gêm sy’n trin merched yn gwbwl wahanol, diolch byth, dyma Rise Of The Tomb Raider yn cyrraedd y PS4 ar yr un diwrnod, wedi bod allan ar yr Xbox ers mis Tachwedd diwetha, a’r PC ers mis Ionawr.
Ro’n i’n ffan mawr o’r cynta yn y reboot yma o’r gyfres, ac wrth fy modd efo’r sgwennu a’r ffordd mae cymeriad Lara Croft wedi datblygu ers ei dechreuadau digon dodgy yn y 90au. Ar ben bob dim, sleifio o gwmpas y lle efo bŵa saeth ydi un o fy hoff bethau i’w wneud mewn gêm. Dwi ddim ‘di cael gwneud ers Far Cry Primal. Mae hi wedi bod yn rhy hir.
Ar ben bob dim arall, mae’r fersiwn o’r gêm ar y PS4 hefyd yn cynnig ychydig o gynnwys newydd allwch chi ei chwarae mewn VR. Sy’n ein harwain yn llyfn iawn ymlaen at…
Hydref 13
Playstation VR
Dyma ni. Y dydd pan mae’r dyfodol yn cyrraedd f8 HQ.
Erbyn hyn, dwi a Daf wedi cael cyfle i brofi’r HTC Vive am gyfnod gweddol hir. Mae argraffiadau Daf ar y ffordd, a gewch chi ddarllen be feddyliais i fan hyn a fan hyn. Mae’n deg dweud ein bod ni wedi cyffroi braidd am y cyfle i ddod â’r math yma o dechnoleg adra. Yn cyfri’r dyddiau’n llythrennol.
Ac eto, dydi’r heip o ran y PSVR – yr headset VR cynta i gyrraedd consol, cofiwch – ddim yn enfawr. Mae ‘na gwpwl o resymau am hyn. Yn un peth, mae angen profi VR i ddeall yn union sut mae’n mynd i newid pethau, dwi’n meddwl. Hefyd, o ran y gemau sydd ar gael ar y diwrnod cynta, does ‘na’r un sy’n debyg o roi’r byd ar dân. O’m rhan i, dwi’n edrych ymlaen at Battlezone a Rez Infinite yn fwy na dim byd arall, ond dwi hefyd yn gweld fy hun yn symud ymlaen at gemau llai uchel ei proffil yn eitha buan, jyst er mwyn cael profiadau gwahanol. A hei, os oes ‘na dechnoleg sy’n debyg o wneud i fi fwynhau gêm fel Hustle Kings, VR ydi o.
Fyddwn ni’n cynnig lot fawr iawn o gynnwys i chi am y Playstation VR, wrth reswm. Mewn mis prysur iawn, dyma’r uchafbwynt.
Hydref 25
Dark Souls 3: Ashes Of Ariandel
Ond mae gan Hydref un syrpreis bach arall, sef y set cyntaf o gynnwys ychwanegol i lanio ar gyfer Dark Souls 3.
Mae Dark Souls 3 yn agos iawn at gipio teitl gêm y flwyddyn i fi hyd yn hyn, felly dwi’n edrych ymlaen yn fawr at y cyfle i’w chwarae eto. Ac mae’r trelyrs ar gyfer Ashes Of Ariandel yn hyfryd, y tirweddau eirllyd yn bygwth gwneud i chi anghofio eich bod chi’n dal i chwarae Dark Souls, ac y byddwch chi’n treulio’r rhan fwya o’ch amser yn marw ac yn rhegi at y sgrîn.
Ffordd berffaith o orffen y mis, os ‘da chi’n gofyn i fi.
Felly. Daliwch afael ar eich seti, folks. Os oes ‘na unrhywbeth dwi wedi anghofio (plis… plis, na), rhowch wybod. Ac wrth gwrs, mae croeso i unrhywun gyfrannu i f8 os ‘da chi isio helpu. Fyddwn ni ei angen o fis nesa, fwy na thebyg.