gan Daf Prys
Eto fyth ‘da ni’r Cymru yn amlygu ein hunain ar fyd gemau fideo ac ma un o hogia ni, HOGIA NI, yn serennu yn gem newydd Battlefield 1.
Yn amlwg (gobeithio) o’r teitl ‘da ni’n son am T.E. Lawrence, o Dremadog, a ddaeth yn enw flaenllaw o’i anturiaethau yn ystod y rhyfel byd cyntaf, ac wedyn fel sgwennwr, archaeolegydd, diplomydd, ie ie ie ma fe jysd yn showan off nawr.
Yn ddibynol ar sut chi’n teimlo ar y rhyfel byd cyntaf yn cael ei ddefnyddio fel maes i osod gem fideo (mae sawl ffilm a llyfr wedi defnyddio’r hanes yn barod), wedi dweud hynny mae’n ffigwr arall Cymraeg yn sefyll fel rhan blaenllaw a da neu drwg, o leia fod hyn yn bwnc destun i drafod ein cawrion bellach.
Dwi’n edrych ymalen yn fawr iawn i’r gem fydd yn cynnwys fy anturiaethau i efo Doc y gath. Be? Fi ddim yn un o’r cawrion? O…