gan f8
Amser podlediad arall! Dydi amser yn hedfan, dudwch? Duw Duw.
Yn y bennod yma:
– Yr hogia wedi bod yn ymweld ac ail-ymweld â The Witcher 3 a Middle-Earth: Shadow Of Mordor, wedi dablo efo Adr1ft, ac wedi trio mymryn o VR, rhwng mynd drwy gyfnodau o salwch difrifol iawn – “gaming malaise”.
– Yr holl newyddion am ddatgeliad y PS4 Pro a Super Mario Run, ac adroddiad amaturaidd iawn o sioe fawreddog EGX yn Birmingham.
– Cyflwyniad arall i agwedd penodol o gemau – tro ‘ma, mae pethau’n mynd yn dechnegol wrth i’r “ladz” drafod resolution. Neu “eglurdeb llun”. Os ‘da chi isio.
– Trelyrs y ffilmiau Passengers ac Arrival yn cael eu dadansoddi (linc iddyn nhw ar fideowyth.com), Daf yn rantio am stwff superhero eto, a’r newyddion bod y gêm Firewatch am gael ei wneud yn ffilm yn cael ei drafod, yn boeth o’r wasg!
https://soundcloud.com/user-390855614-650693663/podcast-3-daf-apathy
A dyma lincs i’r trelyrs ‘da ni’n eu trafod mis yma:
Passengers:
Arrival: