Mwy O Gemau Yfed

gan Elidir Jones

Nôl yn nechreuadau’r wefan yma – neu cyn hynny, hyd yn oed, pan o’n i’n sgwennu ar gyfer blog arall o’r enw “Pric o Lawenydd”…

Ia… ia, na fi chwaith…

… wnes i sgwennu am gyfres we o’r enw Beer And Board Games. Gewch chi ddarllen y cofnod gwreiddiol ar gyfer yr hanes i gyd, ond yn fyr: mae’n gyfres wedi ei wneud gan griw o ddigrifwyr o Wisconsin – wedi eu harwain gan Aaron Yonda a Matt Sloan – sy’n ffilmio eu hunain yn chwarae gemau bwrdd ac yn cracio jôcs. O, ac mae alcohol yn ran o’r peth hefyd. Ambell waith. Ella.

v1_low

Ddwy flynedd a hanner yn ôl (mam bach) pan sgwennais i’r cofnod yna, roedd gen i dipyn o obsesiwn efo’r rhaglen. Ac ers hynny, mae’n falch gen i ddweud, mae’r obsesiwn wedi parhau, ac mae’r gyfres yn mynd o nerth i nerth. Erbyn hyn, dwi – a’r ychydig o selogion sy’n gwylio’r rhaglen yn fyw bob yn ail wythnos – wedi dod yn dipyn o ffrindiau efo’r cast a’r criw, ac efo’n gilydd. Bois a merched iawn. Bob un wan jac.

Felly be well na threulio’r diwrnod yn dal i fyny efo uchafbwyntiau’r rhaglen ers i fi sgwennu’r cofnod cynta ‘na? Mae pob sesiwn recordio wedi ei wahanu’n ddwy ran, felly dyma’r chwech sesiwn cryfa (dim pump, achos do’n i ddim yn gallu dewis rhyngddyn nhw). Yn fy marn i. Croeso i chi anghytuno.

O, ac mae pob un pennod (fwy neu lai) yn cynnwys digonedd o hiwmor… y… “aeddfed”. Cadwch hynny mewn golwg os dydi’r math yna o beth ddim yn apelio.

The Self-Concept Game / Tell Tale + Ha! Ha! Moustache

Lle gwell i ddechrau nac efo’r gêm gwaetha mae’r criw erioed wedi ei chwarae? Mae The Self-Concept Game yn gêm Gristnogol wedi ei ddylunio gan ddyn sy’n amlwg yn dioddef o broblemau meddyliol, ddim yn gwybod y peth cyntaf am ddylunio gêm, ac yn mynnu disgrifio dîs fel “cubes”. O fanna, mae’r gang yn mynd ymlaen i chwarae gêm rybish i blant cyn anghofio am hynny’n llwyr, ac yn gorffen y sesiwn efo gêm lle mae’r rhaid i chi adnabod mwstashys o’u siâp. Mae’n well na mae’n swnio. Onest.

Cwôt y sesiwn:
Matt: “This is awful! We could sit here with four Bibles and just read them. That would be as fun as this game.”
Aaron: “But there’s no cubes in the Bible.”

Snake Oil: Elixir / Pop Up Video Trivia Game

Mae’r gêm Snake Oil yn un o ffefrynnau’r rhaglen, ac wedi cael ei chwarae sawl gwaith. Dyma ei ymddangosiad cyntaf, ac mae’r bennod yma’n nodedig am reswm arall hefyd – dyma’r unig bennod (dwi’n meddwl) sy’n addas i’r holl deulu ei wylio. Cyflwynwch eich nain neu’ch plant i’r gyfres… cyn eu banio nhw rhag gwylio mwy, achos dydi’r gweddill wir ddim wedi ei anelu atyn nhw.

Yna mae nhw’n mynd ymlaen i chwarae gêm o drifia am gerddoriaeth. Mae ‘na lot fawr iawn o ganu. Ac mae Courtney – yr encyclopedia gerddorol sy’n rhedeg y darllediad byw ‘da chi’n ei chlywed yn chwerthin y tu ôl i’r camera o bryd i’w gilydd – wrth ei bodd.

Cwôt y sesiwn:
Unrhyw bryd mae Jason yn dynwared y canwr Randy Newman.

Class Struggle / The Werewolves Of Miller’s Hollow + Coup

Un o fy hoff sesiynau, sy’n cynnwys y gwesteion cyntaf o dramor i ymddangos ar y rhaglen. Mae’r digrifwyr Davey Reilly a Jon Hozier-Byrne (brawd y canwr Hozier) wedi dod yr holl ffordd o Iwerddon i chwarae llwyth o gemau – gan gynnwys fersiwn gomiwnyddol a hollol ddiflas o Monopoly, a The Werewolves Of Miller’s Hollow, sydd yn amhosib ei chwarae efo pedwar o chwaraewyr. Ond mae nhw’n trio, chwarae teg iddyn nhw.

Hefyd, mae’r bennod yma’n cynnwys yr ymddangosiad gorau erioed gan y cymeriad abswrd Baby Cookie – dol wedi ei leisio gan Matt sy’n ymddangos o bryd i’w gilydd ac yn ymddwyn yn hollol hurt, er mawr lawenydd i bawb. Mae’r holl dîm yn eu dagrau yn chwerthin wrth i Cookie bach ddatgelu ei chariad braidd yn frawychus tuag at Hozier, yn ei ffordd dihafal ei hun.

Cwôt y sesiwn:
Baby Cookie: “Did Hozi get my letter? I wrote him a letter. It was written on the back of a chicken box. And I didn’t have no pen, so I used a knife.”

The Investigator’s Paranormal Trivia Board Game / Ring Around The Nosy + Why Did The Chicken…?

Un arall o’r gemau ‘na sy’n hwyl i’w wylio oherwydd bod o mor rybish, mae’r Paranormal Trivia Board Game yn cymryd yn ganiataol eich bod chi’n arbenigwr ar y goruwchnaturiol, efo cwestiynau dyrys (amhosib, yn hytrach) am ysbrydion, nadroedd môr a yetis. Does neb yn medru ateb yr un o’r cwestiynau. Mae ‘na hwyl i’w gael. I ni, hynny yw. Mae’r criw yn cael amser uffernol.

Yna, mewn un o’r penodau mwya caotig ers tro byd, mae pawb yn strapio masgiau eliffant i’w gwyneb yn Ring Around The Nosy, ac yna’n trio sgwennu jôcs yn y gêm Why Did The Chicken…?. Does neb yn yfed lot fawr iawn ar y rhaglen yn ddiweddar, yn wahanol i ddyddiau cynnar y sioe, ond mae’r gwestai Sheila Robertson yn gwneud ei gorau i dorri’r rheol yna tro ‘ma. Llanast.

Cwôt y sesiwn:
Sheila [yn darllen]: “In January of 1932, in Bladenboro, North Carolina, Mr Williamson suddenly burst into flames. A bed and curtains in an occupied room also caught fire for no apparent reason. What other items in the house mysteriously burst into flames?”
Matt: “Items?

Trump: The Game / Funemployed

Ydi gwneud hwyl am ben Donald Trump yn rhy hawdd? Ydi. Ond mae’n bwysig gwneud beth bynnag. A pha ffordd well o wneud hynny na chwarae ei gêm fwrdd o’r 80au, Trump: The Game? Fel Monopoly, ond hyd yn oed yn waeth. Os allwch chi goelio’r peth. Ac mae’n esgus i Matt wneud ei ddynwarediad o Trump hyd syrffed. Dydi o ddim yn swnio fel y dyn o gwbwl, ond rhywsut yn dal ei bersonoliaeth yn berffaith beth bynnag.

Yn ail ran y sesiwn mae nhw’n chwarae gêm o’n i wedi eu siarsio i’w chwarae am sbel, sef Funemployed. Mae fel ei fod wedi ei ddylunio’n unswydd ar gyfer Beer And Board Games, a ddim yn siomi.

Gewch chi hefyd weld Daf a fi yn mentro i fyd Funemployed ar y gyfres yma o Y Lle. Ond dydi hynny ddim yma nac acw, nag’di?

OK, dyna ddiwedd y plyg.

Cwôt y sesiwn:
Matt [fel Donald Trump]: “Knock knock.”
Deborah: “Who’s there?”
Matt [fel Donald Trump]: “Trump.”
Deborah: “Trump who?”
Matt [fel Donald Trump]: “Donald Trump.”

Saturday Night Live: The Game / Mad Gab

I fod yn berffaith onest, allwch chi sgipio rhan gyntaf y sesiwn yma, os na ‘da chi’n ffan mawr o Saturday Night Live. Ond mae’r ail ran yn glasur o bennod, yn dilyn ymdrechion yr ‘ogia i chwarae Mad Gab.

Mae’n gêm syml: mae ‘na ddywediadau wedi eu sgwennu ar gardiau, ond wedi eu sillafu’n hollol anghywir. Er enghraifft, “Dawned hutch debt aisle” = “Don’t touch that dial.” Y sialens ydi gweithio allan be ydi’r dywediad yn y lle cynta. Mae’n swnio’n hawdd, ond mewn practis… wel, gewch chi weld. Pennod sy’n hwyl gwallgo, yn enwedig pan mae Doug yn dweud… wel, unrhywbeth.

Cwôt y sesiwn:
Matt: “You didn’t get me yet, hubris!”
Whitney: “Nothing says confidence like taunting hubris.”

Croeso i chi fynd oddi ar y sgript a darganfod holl benodau gwych eraill y sioe, wrth gwrs. Mae ‘na ddigon o ddewis. Ac ella fydda i nôl i dynnu’ch sylw at fwy o’r goreuon… mewn tua dwy flynedd a hanner arall.

 

One comment

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s