Gemau Yfed

Cyhoeddwyd yn wreiddiol ar pricolawenydd.com, Mawrth 17, 2014.

Dim byd mawr am gemau fideo wythnos yma. Dwi’n brwydro fy ffordd drwy Donkey Kong Country: Tropical Freeze ar y funud. Mae o’n hwyl, ond yn stiwpid o anodd. Wyth allan o ddeg. #adolygiad

Fyswn i’n licio rhoi dipyn mwy o sylw i rwbath wnes i sôn amdano fo yn un o’r cofnodion cynhara, achos dwi dipyn bach yn obsesd. Mae Blame Society Productions yn gwmni ffilmiau o Madison, Wisconsin, wedi ei sefydlu gan Matt Sloan ac Aaron Yonda, ac yn gyfrifol am fy hoff beth ar y we – y gyfres Beer And Board Games.

Efo cefndir mewn comedi improv a theledu lleol, wnaeth y ddau yma ddod yn enwog ar draws y byd nôl yn 2006 pan aeth eu cyfres Chad Vader: Day Shift Manager yn feiral (mewn oes lle doedd y syniad o fynd yn feiral ddim hyd yn oed yn bodoli, sy’n dipyn o gamp). Mae dros 12 miliwn o bobol wedi gwylio’r bennod gynta, ac mae’r holl gyfres wedi cael dros 100 miliwn hit. Ddim yn ffôl.

Yn 2007, gafodd y ddau wobr gan George Lucas ei hun, oedd gymaint o ffan o’r sioe wnaeth o roi swydd i Matt Sloan fel llais swyddogol Darth Vader mewn gemau, hysbysebion, ac yn y blaen. Hyd heddiw, Chad Vader ydi eu llwyddiant mwya nhw, er bod ganddyn nhw eitha dipyn o gyfresi eraill yn yr archif, fel Fun Rangers, Super Shooter, a Thor’s Kitchen. Ond yn fy meddwl i, does ‘na ddim byd yn dod yn agos at athrylith Beer And Board Games.

Mae’r syniad yn syml: cael criw o ffrindiau digri at ei gilydd, sticio cwpwl o gemau bwrdd o’u blaenau, rhoi lot o gwrw iddyn nhw, a throi’r camerâu ymlaen. Hefyd, am bron i ddwy flynedd, mae Matt ac Aaron wedi bod yn darlledu bob sesiwn o Beer And Board Games yn fyw ar Youtube. Am y pris rhad o $10, fedrwch chi weld y sioe yn cael ei recordio, a thalu ychydig bach mwy i gael pethau fel llwnc-destun byw i chi neu ffrind, neu fe allech chi hyd yn oed brynu shots i’r criw i’w gwneud nhw’n fwy meddw byth. Dwi’n gwylio’r sesiwn pryd bynnag dwi’n rhydd – mae o’n digwydd bob yn ail nos Wener, yn wirion o hwyr i bobol yn ein rhan ni o’r byd yn anffodus, ond mae o’n lot o hwyl. Mae’r holl fanylion yma.

Mae ‘na dros 40 o bobol ddigri wedi ymddangos ar y sioe dros y blynyddoedd, ond dyma rhai o fy ffefrynnau.

Jason Stephens

JasonStephens

Y gwestai sydd wedi ymddangos fwy na neb arall, oni bai am Matt ac Aaron, mae Jason yn dipyn o seren ei hun. Mae o’n adnabyddus fel dynwaredwr oherwydd y gyfres boblogaidd Christopher Walkenthrough ar sianel Youtube Machinima. Mae ei ddynwarediadau o Christopher Walken, Morgan Freeman, Barack Obama ac eraill yn sbot on, fel allech chi glywed ar ei wefan bersonol, Jason’s Voices. Mae Jason wastad yn bresenoldeb hoffus ar y sioe… hyd yn oed os ydi o’n edrych fel ŵy.

Dylan Brogan

DylanBrogan

Ffefryn mawr ymysg ffans y rhaglen, yn ystod y dydd, mae Dylan yn gweithio fel newyddiadurwr parchus. Ond yn y nos… wel… mae pethau’n mynd dipyn bach yn wyllt. Dros hanes y sioe, mae o wedi:

– Mynnu defnyddio ei bres go-iawn yn hytrach na phres ffug yn ystod gêm o Monopoly.
– Tynnu ei… ym… “Dylan bach” allan yn ystod y rhaglen.
– Dadlau efo Matt Sloan, yn swnllyd ac yn aml.
– Cael ei dricio i feddwl bod Mike Eserkaln (gweler isod) yn flogiwr ceidwadol oedd yn bwriadu dymchwel ei yrfa.
Cerdded allan o’r sesiwn mewn tymer, wedi ei wisgo fel gwenynen, a chael lifft adra efo tramp.

A mwy. Mae o werth y byd yn grwn.

Sean Moore

SeanMoore

Prif gyfraniad Sean Moore i’r rhaglen ydi’r cymeriad hynod, hynod, hynod o an-PC, Cherry Pie, “Sexy Thai Lady”. Wna i adael i chi watshiad hwnna heb sylw arall.

Fel arall, mae Sean yn ddibynadwy o ddigri, ei brofiad fel digrifwr stand-up yn amlwg yn ei ffraethineb. Hefyd – a dim bod hyn yn bwysig, ‘da chi’n deall – ond mae ganddo fo dras Cymreig, fel wnaeth o ddatgelu yn ystod darllediad byw’r bennod Trailer Park Boys / Offensive Band Name Generator. Yn ei eiriau o: “Wales has been s*** on by the British for a long, long time. They’re like the Mexicans of the UK.”

Eto. No comment.

Mike Eserkaln

MikeEserkaln2

Un arall sy’n siŵr o godi gwên, moment orau Mike ar y sioe (ac ella’r foment ora ar y sioe yn gyffredinol) oedd yr adeg wnaeth o ffonio Dylan Brogan a smalio bod yn flogiwr. Linc isod. Dwi’n gaddo.

Ac un o fy hoff rannau eraill o’r rhaglen, y darn yma o’r bennod Sensitivity Training.

“That is not company policy to allow employees to live in the coal mine.”
“It’s Chunk’s policy.”

Perffeithrwydd.

Sheila Robertson

SheilaRobertson

Fel dywedodd un o ffans y rhaglen am Sheila unwaith (wedi ei ddatgelu ym mhennod The Grinch: Sing Your Heart Out), “I’ve never seen a woman behave like this in my life.”

Dydi Sheila ddim ar y rhaglen digon, yn fy marn i. Mae bob un o’i hymddangosiadau yn glasuron, o The Game Of Life (“I got boo-bies, cause I’m a gi-irl!”), i Pictionary (“Hat-knee. Knee-hat.”), i’w rôl yn y bennod hanesyddol Vanilla Ice Electronic Rap Game (isod).

Sôn am benodau hanesyddol, dyma fy 10 hoff sesiwn, yn gronolegol. Dwi’m isio llwytho’r cofnod yma efo fideos, felly jyst cliciwch ar y linc i’w gweld nhw. Ddim isio deud lot amdanyn nhw chwaith, achos mae’n well os ‘da chi jyst yn eu gwatshiad nhw, yn amlwg. Ac mae gen i fywyd i’w fyw.

Yn lwcus, dydi’r un peth ddim yn wir amdanoch chi. Steddwch lawr a sbiwch ar bob un pennod, plis.

Apples To Apples #1 / Apples To Apples #2

Un o’r penodau cynharaf, ond dwi’m yn meddwl bod y criw wedi mynd mor feddw ers y bennod yma, diolch i rum Black Kraken (“The Black Krak!”). Anrhefn llwyr. Erbyn y diwedd, dydi Brad Knight druan ddim yn gwneud unrhyw synnwyr o gwbwl.

Cwôt y bennod:
Brad: “I had Jacupan… Jacupan. What the f***?”

Trivial Pursuit #1 / Trivial Pursuit #2

Mae Dylan yn ymddangos yn lot o benodau’r gyfres gynta, ond ella mai hwn ydi fy hoff un i. Mae’r criw yn cyfuno sawl set o Trivial Pursuit i wneud un set mawr, ac mae anallu Dylan i ddarllen yn dod yn amlwg am y tro cynta.

Cwôt y bennod:
Unrhyw bryd mae Dylan yn trio darllen cwestiwn am Lord of the Rings.

Operation / Mad Libs

Un o benodau gora Jason Stephens. Yn ogystal â dynwared Christopher Walken a Morgan Freeman, mae o hefyd yn treulio rhan o’r noson fel ei gymeriad Dr. Moley, un o’r creadigaethau rhyfedda erioed.

Cwôt y bennod:
Pawb: “Dr. Moley!!!”

Mr. Gameshow / Improv Comedy Game

Er bod o’n dechra’n ara deg, dyma fy hoff sesiwn. Unig nôd yr Improv Comedy Game ydi gwneud i’r chwaraewyr eraill chwerthin – a gan bod gan pawb o amgylch y bwrdd gefndir mewn comedi, mae be sy’n digwydd yn ddigri iawn, iawn. Pennod dda arall gan Jason Stephens, sy’n berchen ar chwerthiniad uffernol o heintus.

Cwôt y bennod:
Aaron: “Pretend to be a baby with a big head.”

Mystery Date / Cards Against Humanity

Y bennod Cards Against Humanity ydi’r un sydd wedi cael y mwya o wylwyr yn hanes y gyfres (chwarter miliwn!). Dwi’m yn siŵr iawn pam, chwaith. Ella achos bod Dylan yn tynnu ei bidlan allan yn y bennod yna? Dwi’m yn gwbod. Dwi’m yn wyddonydd.

Cwôt y bennod:
Pawb: “Hips, shoulders, nips and toes, nips and toes…”

Munchkin / Munchkin Cthulhu

Mam bach, dyma ni. Moment ora’r gyfres i gyd – yr alwad gan Mike i Dylan, lle mae Mike yn smalio bod yn flogiwr ar ôl ei waed o. Ac mae’r alwad yn ôl rhwng Dylan a Matt yn ail ran y bennod hefyd yn glasur. Os ‘da chi’n gwatshiad dim byd arall, drychwch ar y bennod Munchkin o 6.29 ymlaen, a wedyn triwch ddeud wrtha i bod chi ddim isio gweld mwy.

Cwôt y bennod:
Mike: “My name is Chet Bremmell.”
Dylan: “Did you say your name is Trent?”
Mike: “Trent Bremmell.”

Jumanji / Scattergories

Mwy o Dylan. Dwi ddim yn sori. Yn y sesiwn yma, mae o’n dangos mwy o’i anallu sylfaenol i ddeall gemau, ac yn rhwbio sebon shafio dros ei wyneb yn ddistaw, heb unrhyw reswm.

Cwôt y bennod:
Dylan: “That’s only one restaurant. And it’s ‘restaurants’. That’s why I put ‘Turkish’.”

Enchanted Palace / The Child Awareness Game

Pedwar o ddynion yn eu hoed a’u amser yn chwarae gemau wedi eu hanelu at blant – un ohonyn nhw wedi ei ddylunio i’w dysgu nhw am beryglon pobol ddiarth / pyrfyrts. Dydi o ddim yn siomi.

Cwôt y bennod:
Matt: “Several naked swimmers come up to you and ask you to rub sunscreen all over their body. They wag their asses at you and they make strange noises. What do you do? Run away forever and join the monastery? Touch their asses all day long and then blog about it?”

Live In Chicago #1 / Live In Chicago #2

Sesiwn gynta’r criw o flaen torf fyw, lle mae nhw’n chwarae Cards Against Humanity (efo creawdwyr y gêm) a The Child Awareness Game eto. Lot o ddarnau da yn hwn. Mae’r gwesteion (a’r aelodau o’r dorf sy’n ymuno â’r chwarae ar adegau) yn rhyfeddol o ddigri.

Cwôt y bennod:
Matt: “Would you like to be in the puppet show?”

The Grinch: Sing Your Heart Out / Vanilla Ice Electronic Rap Game

Yn y bennod Vanilla Ice, mae Aaron yn datgelu bod o unwaith wedi gwisgo clogyn ar ddêt efo merch. Mae Matt wedi ei alw’n “Cape Date” byth ers hynny, ac mae’r olwg ar ei wyneb o wrth iddo fo ddod i ddysgu’r ffaith newydd ‘ma am ei ffrind yn rwbath i’w drysori.

Cwôt y bennod:
Paul: “What did you, Matt, wish you could go back in time and tell your eighteen year-old self?”
Matt: “Go out and talk to people and don’t be so shy…”
Aaron: “Don’t wear a cape when you go out to meet a potential girlfriend.”

Well i fi fynd rŵan. Wneith Donkey Kong ddim chwarae ei hun. A dwi ddim yn hyd yn oed wedi cael amser i sôn am lot o greadigaethau eraill y gang, fel y gêm improv rolphing” (“rolphio” yn Gymraeg, ‘siŵr iawn) ; Baby Cookie, yr unig beth yn y byd sy’n fwy od na Dr. Moley; a chymeriad Aaron, Hal Thompson.

Sori. Dim amser. Dim amser o gwbwl.

Dim amser chwaith i’ch pwyntio chi at raglen fawr arall Blame Society Productions, Welcome To The Basement, er bod hwnna hefyd yn wych, nac i fynd â phethau’n ôl at brif bwnc y blog efo Game Society Pimps, sianel Aaron Yonda (a’i ffrindiau Adam Koralik ac Emre Cihangir) sy’n cynhyrchu fideos comedi am gemau fideo.

Fydd ‘na fwy o stwff gen i am gemau wythnos nesa, siŵr o fod. Ond dwi’n meddwl bod ‘na ddigon o lincs famma i’ch cadw chi (a phawb arall) yn brysur am sbel. Jyst peidiwch â ‘meio i pan ‘da chi ‘di treulio’r holl wythnos yn gwatshiad rhein.

7 comments

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s