Fideo: Adolygiad Shu

gan Elidir Jones

Fideo newydd! Ac un eitha sbeshal. Mae Shu yn gêm arbennig iawn sydd wedi fflio o dan radar lot fawr iawn o bobol. Sut ‘da ni’n gwbod? Achos dyma un o’r adolygiadau cyntaf o’r gêm. Yn y byd. Checiwch ni allan, ar flaen y gâd.

Ac fel arfer, dyma’r testun, os mai darllen am gemau ydi’ch peth chi yn hytrach na’u gwylio nhw. Weirdo.

Yn y byd indie, does dim prinder o gemau platfform 2D. Ac mae lot ohonyn nhw – fel Inside, allan rai misoedd yn ôl – yn teimlo dipyn yn wahanol i’ch Marios a’ch Sonics nôl yn y dydd. Mae nhw’n arti… ac wir, hefyd yn ffarti… yn pwysleisio thema a stori – yn hynod o vague, mae’n wir dros bob dim, yn hapus i chi fynd drwy’r gêm unwaith a’i adael lonydd, yn hyderus y bydd y fath brofiad ysgytwol yn aros efo chi. Grêt. Ond weithia, mae angen rwbath bach mwy traddodiadol. Rhywbeth cyflym, lliwgar, twyllodrus o anodd, yn gwneud i’ch plentyndod ruthro’n ôl yn syth.

Dyma Shu gan Coatsink Games – yr un mor brydferth â’i holl gystadleuaeth modern, ond yn fwystfil gwahanol iawn o dan y bonet. Wedi ei ddylanwadu’n amlwg gan Sonic The Hedgehog, Rayman, a Donkey Kong Country, mae’n hyfryd o old-school tra hefyd yn llwyddo i deimlo’n hynod o ffresh. Spoilers: dwi wir yn ei hoffi o.

Felly chi ydi Shu. Dwi’n meddwl mai dyna enw’r cymeriad. Dwi’m yn gwbod. Ryw fath o… y… aderyn? Ella? Sy’n cychwyn ar ei daith…

Ei… thaith? Dunno.

…i achub pentre heddychlon wedi i storm fawr a milain rwygo drwy’r wlad, a ‘da chi ddim yn chwarae gêm fel’ma achos y naratif cryf. I roi stori hir-ish yn fyrrach, fyddwch chi’n gwneud eich ffordd drwy bymtheg lefel ar draws pump o fydoedd, pob un yn edrych ac yn teimlo’n wahanol iawn, thgwrs, er mwyn achub y dydd.

A dwi’n gwybod dydi pymtheg lefel ddim yn swnio fel lot. Ydi, mae’n berffaith bosib i chi roi Shu i’ch brawd neu chwaer fach a’u cadw nhw’n brysur am ddiwrnod neu ddau, ond mae hynny’n colli pwynt y peth, rhywsut. Mae’n gêm wedi ei gwneud i’w chwarae a’i hailchwarae. Drosodd a throsodd.

Ym mhob lefel, mae ‘na chwech o fabanod bach ciwt i’w hachub, wedi eu cuddio fymryn allan o’r ffordd. Mae ‘na ddarn o dabled i chi gasglu, wedi ei guddio’n ddwfn yng nghorneli’r lefelau, sy’n rhoi dipyn mwy o gefndir y gêm i chi. ‘Da chi’n cael medal arbennig am fynd drwy’r holl lefel heb farw – anoddach na mae’n swnio. Ac, os ‘da chi’n fasocist llwyr, gewch chi drio rasio drwy’r lefel yn trio curo’r amser arbennig mae’r datblygwyr wedi ei osod. Damia nhw.

Fan hyn, yn sicr, mai enaid y gêm. Mae’n dangos ei wir gymeriad pan ‘da chi’n ailchwarae rhannau cyfarwydd, a ‘da chi’n dechrau sylweddoli faint o waith cynllunio sydd wedi mynd i mewn i bob un lefel. Mae nhw’n draciau rasio cywrain, yn hytrach na chasgliad o blatfforms wedi eu taflu at eu gilydd ar hap.

Ac mae’r rhan fwya o lefelau hefyd yn teimlo’n amrywiol iawn. Ym mhob byd, fyddwch chi’n achub dau o bentrefwyr coll, pob un yn rhoi pŵer gwahanol i chi. Fyddwch chi’n meistroli un pŵer, yna’n ychwanegu un arall i’r mics, a wedyn yn eu taflu i ffwrdd cyn i bethau fynd yn rhy undonog. Mae’r holl beth yn dangos bod Coatsink yn hollol hyderus a balch am y systemau mae nhw wedi eu creu, ac yn teimlo fel ei fod wedi ei rwygo’n syth allan o Mario. Sydd ddim yn beth drwg. Wel, yn amlwg.

Dwi ddim cweit wedi gorffen efo Shu. Dwi wedi gorffen y prif gêm, do, ond yn teimlo fel y galla i fynd yn lot pellach. Dwi’n meddwl ella wna i hyd yn oed wneud bob un dim yn y gêm, a chael gafael ar y troffi platinwm ‘na. Ac mae hynny’n rhywbeth dwi byth yn ei wneud. Dyma gêm dwi’n teimlo alla i ail-ymweld â hi flynyddoedd i lawr y lôn, a rhedeg drwy’r lefelau cynnar jyst er mwyn y teimlad cyfforddus, fel llithro hen bâr o slipars ar eich traed. Er mor dda ydi’r holl gystadleuaeth arti – Inside, Limbo, Never Alone – fedra i ddim dweud yr un peth amdanyn nhw. Rhag ofn bod chi ‘di colli’r peth, mae Fideo Wyth yn llwyr argymell Shu.

Waw. A wnes i lwyddo mynd drwy’r holl adolygiad ‘ma heb dynnu sylw at y ffaith bod teitl y gêm jyst mor hwyl i ddweud. Shu. Shu. Shuuuuuuuuuu.

Mae Shu – Shuuuuuuuuuu – allan rŵan ar y PS4, ac yn fuan ar y Vita. Cofiwch hoffi, rhannu, a thanysgrifio. Am fwy o drafod gemau – yn Gymraeg – sticiwch efo ni yma ar fideowyth.com.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s