f8 yn EGX Rezzed: Rhan 2

gan Elidir Jones

Os fethoch chi o, ges i adael y tŷ am unwaith a mynd i sioe EGX Rezzed yn Llundain wythnos diwetha. Mae hanner cynta fy adroddiad fan hyn. Ond roedd ‘na lot gormod o stwff i’w ffitio mewn un cofnod pitw o fil a hanner o eiriau.

Awê.

Let Them Come

Gêm arcêd, retro yr olwg, lle ‘da chi’n chwarae fel dyn cyhyrog efo gwn peiriant enfawr, yn gorfod saethu ton ar ôl ton (ar ôl ton ar ôl ton ar ôl ton ar ôl ton) o aliens sy’n rhedeg ffwl-pelt tuag atoch chi. Ddim yn annhebyg i Space Invaders, deud y gwir, ond efo chydig bach o opsiynau o ran newid gynnau ac ati.

Dydi Let Them Come ddim yn brofiad dwfn. O gwbwl. Ond wnes i fwynhau’r peth eitha dipyn beth bynnag. Roedd hi’n rhyfeddol pa mor frawychus oedd y gêm, a chysidro y byddai’r graffeg ddim allan o’i le ar y Super Nintendo. Fedra i ddim dweud bod hon yn gêm y dylsech chi fynd i drafferth i’w chwarae adra, ond fel profiad o ychydig funudau, does na ddim byd yn bod efo hwn o gwbwl.

Sgwrs gan Katie Goode (Triangular Pixels) – “10 Surprising Things We Learned From VR Dev”

Y sgwrs cynta wnes i fynychu, gan Katie Goode o’r cwmni Triangular Pixels, sydd wedi datblygu lot fawr iawn o gemau VR ar draws yr Oculus Rift, Vive, Gear VR, ac yn cychwyn datblygu rhai Playstation VR ar y funud. Mae hi’n gwbod ei stwff.

Dwi’n siŵr eich bod chi ddim yn darllen hwn er mwyn cael crynodebau manwl o ddarlithoedd, felly wna i gadw hwn yn fyr. Yr un peth oedd yn dod yn glir o’r sgwrs ydi gymaint o rwystron sy’n dal i fodoli er mwyn creu profiad VR llyfn mewn gemau, a bod lot o ddefnyddiau gorau’r dechnoleg y tu allan i fyd gemau’n llwyr. Diddorol oedd clywed sut mae rhai doctoriaid bellach yn defnyddio’r dechnoleg yn ystod eu hyfforddiant. Ond dyna ni. Rhywbeth ar gyfer cofnod arall ‘di hynny. Neu flog arall ella.

Yiik: A Postmodern RPG

Reit. ‘Co ni off. Dyma, heb os, oedd uchafbwynt y sioe i fi. Gwell na Dark Souls 3. Gwell na Warhammer: Total War. Dwi’n teimlo’n eitha hyderus i ddweud, ar ôl ryw chwarter awr o chwarae, bod Yiik: A Postmodern RPG yn mynd i fod yn gampwaith.

Dydi o ddim yn brifo bod naws a profiad chwarae’r peth yn amlwg yn ddibynnol iawn ar Earthbound, fy hoff gêm erioed. Ar ben hynny, mae ffilmiau Edgar Wright fel Shaun Of The Dead Scott Pilgrim Vs. The World hefyd yn ddylanwad – mae un cymeriad, er enghraifft, yn ymladd wrth daflu recordiau feinyl at y gelyn. Hollol bril. O, ac mae’r system ymladd yn cymryd ffurf nifer o gemau bach, ddim yn annhebyg i’r RPGs Mario & Luigi ar y GBA / DS.

Ges i ddim digon o amser i ddeifio i mewn i’r holl systemau ar waith, ond roedd popeth – y profiad, y stori, y gags, y graffeg – yn fwy na digon i ddenu fy sylw. Cadwch lygad ar Yiik. Debyg iawn y gwnawn ni adolygiad fideo pan mae’r gêm yn cael ei rhyddhau.

O, ac un peth arall: enw’r cyhoeddwyr ydi Ysbryd Games. Dim bod ganddyn nhw unrhyw gysylltiad mawr â Chymru (er bod un o’u gweithwyr oedd yn y sioe yn dod o Gricieth). Ond mae pennaeth y cwmni yn dod o Falaysia, ac mae’n digwydd bod yn air mewn Malay hefyd. Byd rhyfedd, bois bach.

Sgwrs gan Olly Moss a James Benson (Campo Santo) – “The Art Of Firewatch

Dim llawer i reportio’n ôl o hwn. ‘Da ni’n ffans mawr o Firewatch yma yn f8 HQ, a’r gwaith celf, ond… wel, do’n i ddim yn hapus bod ‘na ddim sleids. I gyd o’n i isio oedd tri chwarter awr i sbio ar chydig o luniau hardd. A ges i ddim gwneud.

O’n i’n pwdu am dipyn bach wedyn.

Lumo

Ella dyna pam wnes i ddim wir fwynhau y gêm nesa i fi chwarae. Mae Lumo yn gêm dawel, heddychlon, isometrig, lle ‘da chi’n chwarae fel dewin bach yn datrys posau mewn castell enfawr. Roedd o’n fy atgoffa o hen gêm reit anghofiedig ar y SNES o’r enw EquinoxAc o’n i’n hoff o Equinox. Ond do’n i ddim yn hoff iawn o hwn.

Y prif reswm, dwi’n meddwl, ydi bod hi ddim cweit yn glir at pwy mae Lumo wedi ei anelu. Mae lot o’r posau a’r sialensau yn reit syml, ac mae’r steil graffegol yn amlwg wedi ei anelu at blant, ond mae’r profiad yn hynod o rwystredig fel arall. Does ‘na ddim map, na chliwiau o ran lle i fynd, ac mae’r byd mor fawr… mae o bron fel bod yr ochr yma o’r gêm i fod i apelio at dorf lot mwy hardcore. Braidd yn ddryslyd.

Ond ‘na ni. Gwyliwch pawb yn disgyn mewn cariad efo Lumo pan mae’n dod allan rŵan, a fi’n edrych fel ffŵl. Eto.

Shu

Aaaaa. Dyna welliant.

Mae Shu yn grêt. Gêm blatfform 2D, y steil (graffegol, o leia) yn fy atgoffa i fymryn bach o gemau fel Aladdin nôl yn y dydd, lle ‘da chi’n gwneud eich ffordd ar draws y lefelau drwy hedfan ar y gwynt. Hyfryd, a lleddfol, a phrydferth… tan diwedd y lefel cynta, lle mae ‘na anghenfil anferth yn ymddangos allan o nunlle ac yn rhedeg ar eich hôl. Panics, mun.

Un i gadw golwg arno’n sicr. Dim byd eithriadol o newydd yma, ond roedd o jyst yn teimlo’n berffaith llyfn i’w chwarae. A weithia, dyna i gyd ‘da chi angen.

Prison Architect

Ges i ddim llawer o amser i chwarae Prison Architect. Bron dim, deud y gwir. Unwaith eto, doedd ‘na ddim lot o diwtorial, a neb o gwmpas i esbonio’r gêm i fi. Ac mae ‘na lot i’w esbonio, dwi’n meddwl. Gêm sim ydi Prison Architect, lle ‘da chi’n – syrpreis, syrpreis – cynllunio carchar. Fy math i o gêm yn sicr, a dwi’n siŵr bod o’n hwyl unwaith i chi ddysgu sut i chwarae. Ond wnes i adael fwy neu lai yn syth.

Y… sori. Blinder yn dechrau dangos, yn amlwg.

Dead Pixels II

Un arall o uchafbwyntiau’r sioe i fi, a gêm berffaith i roi’r naid yn ôl yn fy ngham unwaith eto.

Mae Dead Pixels II (do’n i ddim hyd yn oed yn gwbod bod ‘na Dead Pixels I), yn gêm eitha tebyg i glasuron fel Streets Of Rage neu Final Fight. Ond yn hytrach na chrwydro’r strydoedd yn cicio thygs o’r 80au yn ddu-las, ‘da chi’n ymladd dwsinau o fathau gwahanol o zombies. Mae ‘na amryw o ddewisiadau gwahanol o arfau, ac fe allwch chi ymweld â bron i bob un adeilad ar hyd y daith er mwyn stocio fyny arnyn nhw. O, ac – mewn un cyffyrddiad hyfryd – mae’r zombies yn eich dilyn i mewn i’r adeiladau. ‘Da chi byth cweit yn teimlo’n saff.

Dwi wrth fy modd efo’r math yma o gêm. Dwi’n eu ffeindio nhw’n eithriadol o hypnotig. Ac i helpu pethau, roedd cyflwyniad Dead Pixels II yn well nag unrhyw gêm arall yn Rezzed, dwi’n meddwl. Mae’n edrych fel eich bod chi’n ei chwarae ar hen beiriant Betamax – ac i brofi’r pwynt, roedd ‘na un mawr o rheini yn eistedd ar ganol y stondin yn y sioe.

dp

Gymaint wnes i fwynhau fel fy mod i wedi gwneud siŵr fy mod i’n gorffen popeth roedd y demo yn ei gynnig – a chael bathodyn sgleiniog am wneud. Fyddai’n sicr o bigo hwn i fyny pan ddeith o allan.

Masquerada: Songs And Shadows

Yr ail gêm – ar ôl Warhammer: Total War – wnaeth grasho arna i. Dim bod Masquerada yn debyg iawn o roi trafferth mawr i’ch PC. Mae’r graffeg yn weddol syml, ac yn edrych fel fersiwn dipyn prydferthach o Baldur’s Gate, wedi ei ddylunio â llaw. Roedd o’n amlwg yn fersiwn cynnar iawn o’r gêm, gan esbonio’r anhawster.

Ond o be allwn i gasglu, mae ‘na lot i hoffi am Masquerada. Lot fawr iawn o stori a deialog wedi ei ysgrifennu’n dda, a system ymladd sydd yn syml i’w ddysgu, ond yn anodd iawn i’w feistroli. O, a dyma un arall wedi ei gyhoeddi gan Ysbryd Games. Rheswm mor dda ag unrhyw un arall i gadw llygad ar hwn.

Fugl

Ac, i orffen y diwrnod, profiad VR o’r diwedd!

Fyswn i wedi bod wrth fy modd yn trio chydig o’r stwff VR mwy uchel ei broffil, ond roedd y ciw i drio’r HTC Vive dros ddwy awr o hyd ar adegau, ac roedd angen bwcio i drio’r Playstation VR. Wnes i drio. Onest.

Felly – Fugl. Gêm ar yr Oculus Rift sy’n gynnar iawn iawn yn ei ddatblygiad, ac yn fwy o brofiad na dim byd arall, mewn gwirionedd. ‘Da chi’n chwarae fel aderyn lliwgar yn hedfan eich ffordd o amgylch jyngl, a… dyna ni. Roedd y datblygwr yn fy siarsio bod ‘na lot mwy am gael ei ychwanegu yn y man, felly dwi’m yn meddwl bod hi’n deg gwneud unrhyw sylwadau ar y gêm ei hun ar y pwynt yma.

Ond o ran y profiad VR, roedd o’n eitha da. Gwir, ro’n i yn rybish, a ddim cweit yn gallu cael fy mhen o gwmpas y system reoli. A roedd y sŵn o’r sioe wastad yn bygwth tynnu fy sylw o’r olygfa heddychlon o ‘mlaen i. Ond roedd o’n well o lawer na fy mhrofiad cynta. Dwi’n sicr mai profiadau tawel, neis fel’ma fydd yn apelio ata i, yn lot mwy na gemau arswyd neu ryfel neu beth bynnag. Rhagflas bach hyfryd o be alla i ddisgwyl yn y dyfodol felly.

A dyna EGX Rezzed. Chwarae teg, fel rhywun sydd ddim wedi mynychu llawer o sioeau fel’ma, wnes i fwynhau fy nhrip yn fawr iawn. Er ei bod hi’n neis cael trio’r holl gemau AAA yn gynharach na phawb arall, mae hi hyd yn oed yn well, dwi’n meddwl, cael darganfod llwyth o gemau annibynnol doedd ganddoch chi ddim syniad oedd yn bodoli o gwbwl.

O, ac un peth bach – roedd hi’n eithriadol o galonogol gweld y cwmnïau bach oedd yn arddangos yn Rezzed yn ymateb yn ffafriol iawn i’n trydariadau (uniaith Gymraeg) o’r diwrnod. Diolch, bois. ‘Da chi bron yn gwneud i ni deimlo fel ein bod ni’n gwneud rwbath o werth fan hyn.

Bron.

Fis Medi mae EGX yn trefnu sioe arall. Un llawer mwy, a llawer mwy sgleiniog, gyda mwy o gemau mawr a lliwiau llachar a synau uchel i dynnu’ch sylw. Fyddwn ni’n siŵr o fod yno – gobeithio efo’n camerâu ni, os nad camerâu Y Lle yn ogystal.

Edrychwch ymlaen at hynny. Fe fyddwn ni, yn sicr.

3 comments

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s