MIItOmO neu rhwybeth fel’na, I dunno, dydd blincin hir

gan Daf Prys

Nol yn 1980 gwelsom am y tro cyntaf y Game and Watch, dyfais bychan medrwch ddal yn eich llaw i brofi gemau a nawr, 36 mlynedd yn ddiweddarach mae Nintendo wedi symud ymlaen, ‘moderneiddio’ a chynnig profiad gem ar ddyfais bach chi’n gallu dal yn eich llaw. BLW SKOI THUNKING!

Nintendo_Donkey_Kong_Game_and_Watch
In ze eighties

 

App Nintendo myndiain, ar y ffon. Dwi’n cofio, pan yn gwneud y naid fyny i’r ysgol ‘fawr’, meddwl taw fi oedd yr unig ‘Ap’ yng nghanoldir Cymru, tan i fi gwrdd a blincin Rhys ap Iolo, y siarlatan. Roedd hynny’n brofiad ddigon ysgytwol, newid byd: ‘Be, fi ddim yn unigryw fel ma’ mam yn dweud? Dim jysd fi sy’n swnio fel cymeriad allan o’r llyfrau sneb yn darllen yn yr atic? Fi ddim yn sbeshal?’

miitomo4
Fi ddim yn sbeshal?

A newid byd yr un mor ysgytwol hefyd yw Nintendo fawr ar fy ffon bach. Felly, Miitomo – ar gael i unrhywun sydd efo dyfais iOS neu Android – rhaglen cyfryngau cymdeithasol newydd Nintendo. Be chi’n gallu neud arno? Cynllunio afatar i’ch hun, ei wisgo mewn ddillad ‘rad’ a neud ffrindiau efo pobl eraill sydd wedi lawrlwytho’r rhaglen. Jam-packed bois bach, fydd ‘na oriau wedi suddo fewn i hon!

Ond mae mwii!

Ond arhoswch, chi hefyd yn gallu ateb cwestiynnau am eich hun a wedyn darllen atebion eich ffrindiau: beth chi wedi neud dros y penwythnos, pa blated o fwyd chi’n coginio orau, faint o dyrti ffilms chi’n gwylio yn wythnosol … pethe fel’na, hollol non-intrusive. Fyddai’n tapio sgrîn hon hyd syrffed naiweudthochinawr…

miitomo3

Wedi’r sarcasm uffernol

Er hynny, fi wedi ffindo allan bod un ffrind mwy neu lai yn obsesd efo’i plentyn a bod boi arall efo bach o gambling problem efo gymaint o frawddegau sy’n cychwyn efo ‘I bet’. Ma fe’n baco ei hunan lot hefyd, ‘I bet, given the right training I could be a top athlete lol’. Ffacin lol reit was. Wnes i ddod o hyd i’n hun yn sgrolio trwy atebion pobl mwy neu lai yn ddyddiol a gallai weld sut gall y peth weithio, efo digon o gyfeillion wrth flaen eich bys. Rhyw fath o quiz personoliaeth pobl, cyfle iddo nhw ddweud beth ma nhw’n neud heb iddo fod yn facebook update hunllefus arall, oll wedi lapio fyny mewn visuals arferol Nintendo.

Sut a pam mae hyn wedi diigWydd?

Mae Nintendo wedi bod yn sdryglo yn ddiweddar, mae hynny’n amlwg i bawb. Dim gymaint efo cash, ma da nhw mwy o cash na ffarmwr tyn o Lambed (ffacinel bois, get a round in, just once innit) ond mwy efo diddordeb yn y cwmni a’i gynnyrch. Mae’r peiriant dwetha wedi tanco yn llwyr, y WiiU – weithie fi’m yn siwr be fi’n edrych arno efo’r enwau Nintendo ‘ma – ac felly yn sdryglo i feddianu ar y tir ac ennillwyd pan ddaeth y Wii allan (come on, sawl person sydd efo un yn cwpwr cefn?). Ac felly nawr ma’nhw dan pwysau cryf mewnol ac allanol i troi pethau rownd, a ffindo bach o’r Wii cash ‘na gatho sbel nol.

Beth siidd efo nhW de os dim peiriant?

IPs enfawr – Mario, Zelda, Animal Crossing –  ond yn gyndyn i werthu rhain i weithio ar peiriannau Sony a Microsoft felly’r ateb yw gwthio fewn i farchnad ffonau symudol. Mae hyn yn neud synwyr perffaith, mae Siapan wedi’i dominyddu gan chwaraewyr ‘mobile’, mae canran enfawr o weddil y byd yn cario smartphone, ac mae’n golygu taw i Apple a Google bydd unrhyw fis gwerthu yn mynd i ynlle Sony a Microsoft. Fel ma bois Japan yn dweud: 絶対勝者!!!

Mae’r peth am ddim (efo mandrafodiadau), ac efo sglein arferol Nintendo. A chi gallu cal cath ar eich ysgwydd. Yrm. Hwnna yw round up fi sori. Na’i neud yn well tro nesaf. Nes i weud chi gallu cal cath ar eich ysgwydd?

miitomo1

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s