Mae’r amser wedi dod. Mae’n bryd sôn am y gêm gora erioed.
Yn fy marn i, wrth gwrs. Ond, fel dwi wedi ei ddeud droeon, mae fy marn i wastad yn wyddonol gywir.
Ychydig o hanes: yn 1989, fe wnaeth Nintendo ryddhau gêm o’r enw Mother ar y NES. Gêm chwarae rôl oedd hi, yn dilyn yn olion traed gemau fel Final Fantasy a Dragon Quest, ond yn hytrach na chymryd lle mewn byd ffantasi, roedd Mother wedi ei seilio yn America’r ugeinfed ganrif. Neu… fersiwn bisâr Siapan o America’r ugeinfed ganrif, beth bynnag.
Roedd y gêm yn lwyddiant yn Siapan, ac roedd ‘na blaniau i’w ryddhau yn yr Unol Daleithiau. Ond, efo’r Super Nintendo rownd y gornel, a’r gorllewin ddim yn hoff iawn o gemau chwarae rôl ar y pryd, gafodd y planiau yna eu sgrapio – er bod y gêm wedi ei gyfieithu’n llawn i Saesneg.
Bum mlynedd yn ddiweddarach, fe gafodd Mother 2 ei ryddhau ar y Super Nintendo. Roedd gan y gêm stori debyg i’r Mother cynta, yn fwy o reboot nag o ddilyniant go-iawn. Ond ta waeth, wnaeth o werthu dwywaith gymaint o gopiau a Mother – a’r tro yma, fe wnaeth y gêm ei ffordd allan o Siapan, o dan enw gwahanol…
Mae’r gêm yn dilyn anturiaethau criw o blant o’r enw Ness, Paula, Jeff, a Poo…
… ia, Poo…
… sydd wedi eu taflu at ei gilydd drwy amgylchiadau rhyfeddol i ymladd Giygas, creadur hollbwerus o’r gofod, sydd ymysg y baddies mwya diddorol mewn gemau. Allwch chi ddarllen mwy am yr “all-mighty idiot”, fel mae’n cael ei ddisgrifio yn y gêm, yn yr erthygl yma sgwennais i i wefan Gwyddonias.
O ran ei fecanwaith, dydi Earthbound ddim yn gwneud unrhywbeth arbennig o newydd. Fyddwch chi’n crwydro’r byd ac yn datblygu eich cymeriadau ac yn ymladd gelynion, yn union fel unrhyw nifer o gemau chwarae rôl. Ond yn hytrach na dreigiau a dewinod, fyddwch chi’n ymladd brain sbeitlyd, cwpanau o goffi, ac aelodau o gwlt sy’n obsesd efo’r lliw glas. Un o brif gryfderau Earthbound ydi’r hiwmor. Mae’r gêm yn dechrau, er enghraifft, wrth i’r cymeriad Ness gyfarfod Buzz Buzz, teithiwr cyfeillgar o’r dyfodol sydd am ryw reswm wedi cymryd ffurf gwenynen… ac, ar ôl esbonio’r plot, yn cael ei ladd gan fam Ness yn syth.
A dyma’r peth gwyrthiol am y gêm – mae’r hiwmor yna yn gwneud i chi faddau unrhyw broblemau bach. Mewn gêm arall, fe fyddai’r ffaith bod gelynion ‘da chi wedi curo yn ailymddangos ar ôl i chi grwydro oddi ar y sgrîn yn annifyr. Ond gan bod Earthbound mor stiwpid beth bynnag, ‘da chi ddim yn meindio. Mae o i gyd yn ran o’r hwyl. Ac er hyn i gyd, mae ‘na ddarnau gwirioneddol emosiynol yn y gêm, fel y darn yma, lle mae’r holl beth yn stopio er mwyn i chi allu edrych yn ôl ar eich taith hyd yn hyn.
Er bod yr adolygiadau ddim yn rhy sbeshal, fe wnaeth chwaraewyr America ddechrau disgyn mewn cariad efo’r gêm. Ond dim digon ohonyn nhw. Fe gafodd o ei ryddhau yn y dyddiau tywyll cyn i Final Fantasy 7 wneud gemau chwarae rôl yn boblogaidd yn y gorllewin. Ar ben hyn i gyd, roedd yr ymgyrch farchnata yn drychinebus, yn defnyddio slogan… ym… ddiddorol…
Ac roedd y gêm yn dod mewn bocs enfawr, yn cynnwys llyfryn mawr scratch-n-sniff yn hytrach na’r pamffled bach arferol – pecyn hyfryd, ond un wnaeth wneud Earthbound yn lot drytach na’r rhan fwya o gemau. Roedd o’n gymaint o fflop, gafodd o ddim ei ryddhau yn Ewrop o gwbwl.
Drwy gyfuniad o siop gemau leol hollol briliant, a theclyn i’r SNES oedd yn gadael i fi chwarae gemau o dramor, ges i gopi o Earthbound ar fore Dolig 1996. A wnes i ddisgyn mewn cariad efo fo’n syth. Rhwng y cymeriadau, yr hiwmor, y graffeg lliwgar, a’r profiad chwarae sbot-on, wnaeth o dicio pob un o mocsys i. Ers hynny, dwi wedi ei chwarae a’i ailchwarae, drosodd a throsodd, yn trin y profiad fel ryw fath o ddefod. A dim fi oedd yr unig un.
Dros y blynyddoedd, mae Earthbound wedi tyfu mewn poblogrwydd, wedi ei achosi yn rhannol gan un wefan – Starmen dot net. Mae sefydlwyr a dilynwyr y wefan wedi gweithio fel byddin i ledaenu’r gair am y gêm, ac yn ddangos eu ffyddlondeb drwy greu bob math o waith celf, cerddoriaeth, fideos ac ati. Jyst sbiwch. Y gwaith.
Mae ‘na hyd yn oed ffilm ddogfen am Earthbound yn y gweill.
Ac mae Nintendo wedi methu’n llwyr i gydnabod y poblogrwydd yma. Mae hanes y gyfres ers 1994 yn litani o fethiant a siomedigaeth, gydag un neu ddau o graciau o oleuni yn y tywyllwch. Roedd Mother 3 – neu Earthbound 64 yn y gorllewin – i fod i gael ei ryddhau ar yr N64, ond fe ddaeth hynny i ddim. Yn dilyn y siom yma, ac ar ôl dipyn o frêc, fe gafodd y gêm ei ailweithio a’i ryddhau ar y Game Boy Advance yn 2006.
Yn Siapan.
Unwaith eto, doedd Nintendo ddim yn fodlon cymryd risg efo’r gyfres. Ac wrth edrych ar ffigyrau gwerthu Earthbound, pwy all feio nhw? Ond roedden nhw’n anwybyddu’r miloedd a miloedd o bobol oedd wedi darganfod y gêm – yn ail-law, neu drwy ei lawrlwytho’n erbyn y gyfraith – dros y blynyddoedd. Roedd pob math o lythyrau a phetisiynau wedi eu gyrru i Nintendo ynghylch y peth, i ddistawrwydd llethol.
Yn y diwedd, criw Starmen.net ddaeth i achub y dydd unwaith eto, wrth gynhyrchu fersiwn wedi ei gyfieithu o’r gêm, i’w lawrlwytho yn rhad ac am ddim. Gan bod gan Nintendo ddim planiau i rhyddhau’r gêm yn y gorllewin, doedd ganddyn nhw ddim rheswm i wrthwynebu hyn. Ac felly, mae’r cyfieithiad yn dal i fod ar gael. Ac yn dilyn cyhoeddiad Shigesato Itoi, creawdwr Mother, bod y gyfres ar ben, mae nhw hyd yn oed yn gweithio ar gêm newydd sbon – Mother 4.
Ond ella mai’r peth mwya rhwystredig oedd amharodrwydd Nintendo i ail-ryddhau Earthbound. Yn Siapan, fe gafodd Mother 1 & 2 eu rhyddhau mewn un pecyn ar y Game Boy Advance. Yn y gorllewin? Dim. Yna, pan gafodd y Wii ei ryddhau, a’r siop Virtual Console arlein yn gadael i chwaraewyr lawrlwytho gemau o holl hanes Nintendo, fe wnaeth ffans ddechrau gobeithio eto. Doedd dim rhaid i Nintendo wario ar gost rhyddhau fersiwn corfforol o’r gêm. Roedd o’n hawdd. Jyst sticio Earthbound arlein, a gwylio’r doleri yn rowlio i mewn.
Dim.
Ond wedyn, pan gafodd y Wii U ei ryddhau, heb lawer o ffanffêr, fe wnaeth y cymylau agor o’r diwedd. Am ba bynnag reswm, fe wnaeth Nintendo ddewis yr adeg yna i ailryddhau Earthbound yn America – a’i ryddhau yn Ewrop am y tro cynta un. Bellach, fedrith unrhywun sy’n berchen ar Wii U ei lawrlwytho a’i chwarae’n syth, am £8. Bargen sy’n taflu pob un bargen arall yn hanes y byd i’r cysgod.
A dyna ni ryw fath o ddiwedd hapus, o leia. Er nad ydi’r gyfres am barhau (yn swyddogol), mae’r ffyddloniaid yn hapus i chwarae ac i ail-chwarae be sydd ganddon ni drosodd a throsodd. Unwaith dwi ‘di gwneud ryw fath o dent yn y pentwr o gemau ar y silff, dwi’n edrych ymlaen yn fawr at neidio i mewn i Earthbound unwaith eto.
Wna i ddim wastio mwy o’ch amser chi – amser ‘da chi angen ei ddefnyddio’n chwarae’r gêm – er bod ‘na gymaint mwy i ddweud. Wna i’ch gadael chi efo thema hyfryd Earthbound, i chi gael mwynhau efo paned o de tra’i fod o’n lawrlwytho.
Tan tro nesa. Fuzzy pickles.
– Elidir
[…] onest, dwi ddim wedi chwarae’r gemau cynta. Ond dwi’n gweld yr un angerdd at Shenmue dwi’n ei deimlo tuag at y gyfres Earthbound. Felly mae’n rhaid bod ‘na rwbath sbeshal yma. Dwi wedi ei gefnogi ar Kickstarter, ac […]
[…] Fight, y gemau Kirby, a’r gemau Pokemon. Ac ar ben hynny i gyd, fe wnaeth o raglennu fy hoff gêm erioed, Earthbound, fwy neu lai ar ben ei […]
[…] ar unrhywbeth oni bai am y Nintendo 64 rownd y gornel. A wnes i hefyd dderbyn Earthbound, fy hoff gêm erioed, y Nadolig yna. Doedd dim lot o siawns gan DKC3, chwarae […]
[…] fy marn i) wedi bod yn well cartre i’r JRPG na’r Super Nintendo, o’r clasuron (Earthbound, Chrono Trigger), i berlau coll (Terranigma, Illusion Of Time), i rybish llwyr oedd rhywsut yn dal […]