Fi, Chi, a’r JRPG

gan Elidir Jones

Pan o’n i’n tyfu fyny, doedd ‘na ddim genre o gêm yn fwy ecsotig, yn fwy gafaelgar, nac yn fwy cyfareddol na’r JRPG (Japanese Role-Playing Game). Ro’n i’n ffan o ffantasi pwlp. Check. Ro’n i yr oed perffaith i fwynhau’r gemau, lle mae nhw’n dal i ymddangos yn aeddfetach na rhai eraill, ond ar yr un pryd yn dechrau dod yn ddealladwy. Ro’n i’n berchen ar y consol iawn i’w chwarae hefyd. Does ‘na ddim system (yn fy marn i) wedi bod yn well cartre i’r JRPG na’r Super Nintendo, o’r clasuron (Earthbound, Chrono Trigger), i berlau coll (Terranigma, Illusion Of Time), i rybish llwyr oedd rhywsut yn dal fy nychymyg beth bynnag (Lagoon).

Tra’u bod nhw’n beth eitha cwlt bryd hynny, wedi i Final Fantasy 7 gael ei ryddhau, roedd pawb a’u Nain yn ffan o’r JRPG yn reit sydyn. Fe wnaeth y gemau ‘ma ddechrau cael eu rhyddhau en masse yn y gorllewin am y tro cynta, gan roi cyfle i bawb eu chwarae. A roedd ‘na lawer o lawenhau.

Ond ers hynny, mae’n deg dweud bod pethau wedi arafu cryn dipyn. Er bod y JRPG yn dal i fod yn wirion o boblogaidd, yn enwedig yn Siapan – does neb yno’n troi fyny i’r gwaith pan mae gêm Dragon Quest newydd yn cael ei ryddhau – dydi’r genre ddim wedi newid o gwbwl, gydag unrhyw newidiadau i’r fformiwla yn cael eu cosbi yn fasnachol. Dydi pethau ddim wedi symud ymlaen mewn 20 mlynedd. Dwi ddim yn meddwl bod yr un peth yn wir am unrhyw genre arall.

Dwi’n chwarae cwpwl o JRPGs ar y funud, sy’n crisialu’r problemau ‘ma yn berffaith. Mae Xenoblade Chronicles X yn gêm newydd i’r Wii U, sy’n cyfuno rhai o elfennau gorau’r JRPG gyda rhai ffaeleddau sydd, i fod yn gwbwl onest, yn hurt bost. Mae ‘na fyd enfawr, syfrdanol o brydferth, sy’n gymaint o hwyl i wneud eich ffordd ar ei thraws (ar droed, neu mewn siwt robotaidd cŵl). Mae’r system ymladd yn lot o hwyl, a’r opsiynau o ran addasu eich cymeriadau a’ch steil o chwarae yn wirioneddol dda. Ond mae o hefyd yn cynnwys rhai problemau elfennol. Mae’r cut-scenes yn hirwyntog, heb opsiwn i frysio trwyddyn nhw, ac yn edrych fel rhywbeth oddi ar y Nintendo 64. Mae’n amhosib parhau drwy’r gêm ar adegau heb dreulio oriau undonog yn cryfhau’ch cymeriadau. Ac ar un pwynt, roedd rhaid i fi adael y consol ymlaen am chwe awr (!), yn disgwyl i ddril o’n i ‘di sticio yn y llawr gasglu digon o adnoddau er mwyn i fi allu cario mlaen efo’r stori. Oedd ‘na unrhywun ‘di testio’r peth ‘ma, sgwn i?

Dwi hefyd hanner ffordd drwy gêm o’r enw The World Ends With You ar y Nintendo DS, gafodd ei ryddhau’n wreiddiol yn 2008. Mae o’n briliant.

imgLarge25

Wedi ei leoli mewn ardal trendi o Tokyo yn hytrach na’r byd ffantasi arferol, ‘da chi’n chwarae plentyn yn ei arddegau sy’n deffro heb allu cofio dim byd o’i gefndir, ac yn cael ei fforsio i gymryd rhan mewn ryw fath o ornest ryfeddol, sydd fel cyfuniad rhwng The Hunger Games a The Crystal Maze. Mae’r system ymladd yn gwneud defnydd gwell o sgrîn gyffwrdd y DS nac unrhyw gêm arall fedra i enwi, mae’r sgwennu’n briliant, y gwaith celf yn hyfryd, ac mae’r peth yn cynnwys llond trol o ddyfeisgarwch yn gyffredinol. Er bod adolygwyr wedi bod yn garedig i The World Ends With You, roedd o’n fethiant llwyr yn fasnachol. Dipresing.

(Mae’r gêm bellach ar gael ar iOS ac Android hefyd, os ‘da chi isio rhoi cyfle iddi. Mae’n werth gwneud.)

A dyna ddechrau cyffwrdd ar y rheswm pam bod ‘na gyn lleied o ddyfeisgarwch yn y JRPG y dyddiau yma. Mae’r adolygwyr yn sicr yn dweud yr holl bethau iawn, ac o bryd i’w gilydd mae ‘na bethau diddorol yn cael eu cynnig gan y gwneuthurwyr. Ond dydi’r gynulleidfa ddim yn fodlon derbyn unrhyw newid. Ac i ddweud y gwir, mae’r broblem yma wedi mynd yn lot gwaeth yn ddiweddar, gan bod canran uchel o gefnogwyr y mudiad Gamergate yn ffans o’r JRPG am ba bynnag reswm. I fynd yn ôl at Xenoblade Chronicles X – mae ‘na gymeriad yn y gêm yna o’r enw Lin. Mae’r gêm yn ei gwneud hi’n berffaith glir bod Lin yn ferch 13 oed. A pan wnaeth wneuthurwyr y gêm y penderfyniad call i newid ei dillad sgimpi gwreiddiol achos eu bod nhw’n anweddus, y gynulleidfa yma’n union wnaeth ffys mawr am y peth a thaflu eu teganau allan o’r pram. Mae’n beth peryglus iawn pan mae rhan fawr o’ch cynulleidfa chi’n gwrthod derbyn unrhyw newid (ac, yn achos cefnogwyr Gamergate, yn gwrthwynebu unrhywbeth da yn y byd).

Yn nes ymlaen flwyddyn yma (mae’n debyg), fydd ‘na bwynt tyngedfennol yn dod yn hanes y JRPG, pan mae’r fersiwn swanci newydd o Final Fantasy 7 – y gêm wnaeth gyflwyno gymaint o bobol i’r genre – yn cael ei ryddhau. Ac er bod ‘na newidiadau am fod (mae’r gêm am fod yn episodig, yn un peth), dyma yn sylfaenol yr un gêm ddaeth allan nôl yn 1997. Os oes ‘na un gêm fydd yn profi cyn lleied mae’r genre wedi newid ers hynny, dyma hi. Fe fydd proffil FF7 yn enfawr, efo mwy o drafodaeth amdani nac unrhyw JRPG ers… wel, ers y tro diwethaf i FF7 ddod allan. Does ‘na ddim byd sy’n fwy tebyg o daflu goleuni ar ffaeleddau’r genre, mewn ffordd amlwg iawn. Fydd hi’n ddiddorol gweld be ddigwyddith.

Mae gen i gwpwl o JRPGs ar y silff eto i’w chwarae. Dwi’n clywed pethau da am Bravely Default yn enwedig… ond mae’n rhaid i fi gyfadde bod hyd yn oed yr enghreifftiau gora o’r genre yn fy ngadael i braidd yn oer bellach. Mae’r gemau oedd unwaith yn fwy cyffrous i fi nac unrhywbeth arall wedi troi’n symbol o ddiflastod. Dwi wir yn gobeithio y bydd hynny’n newid, ac y bydd cwmnïau fel Square Enix, oedd unwaith mor flaengar, yn gallu anwybyddu’r elfennau mwya adweithiol o’u cynulleidfa a syfrdanu’r byd unwaith eto.

Dwi ddim yn dal fy ngwynt.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s