‘I want to be a part of it…’
gan Daf Prys
Os da chi unrhywbeth fel fi, a dwi’n mawr obeithio er lles ein planed nad ydych chi, yna byddwch chi wedi bod yn edrych allan am unrhyw fanylion o’r gem The Division ers blynyddoedd bellach. Yn wreiddiol wedi ei gyhoeddi yn E3 2013, er mawr syndod gynulleidfa brwdfrydig, gem am fyd sydd wrthi’n fewnffrwydro efo afiechyd yn troi Efrog Newydd gaeafol fewn i rhyfelfa, a chithau yn ceisio dod a dipyn bach o heddwch i’r ddinas.
Ond ers hynny mae eitha lot o amser wedi pasio, a phawb nawr wedi dod i adnabod pwerau a ffaelyddion y systemau newydd (PS4, Xbox One). Felly hyfryd ydy o’r diwedd i weld ôl-gerbyd (trailer) newydd i’r gem.
Gyda gymaint o bethau yn ddibynol ar beth mae’r periannau yma yn medru – a methu – gwneud, mae’r gem yma yn allweddol i sut mae’r diwydiant yn gweld ei hunan heddiw gan iddo gael ei gyhoeddi cyn i’r PS4 a’r Xbox One. Er enghraifft mi oedd ‘companion app’ yn cael ei lansio efo’r gem, roedd hwn yn ffasiynol iawn ar y pryd gan ymddangos mewn gemau megis Battlefield Hardline a llawer o gemau eraill gan Ubisoft ond yn rhywbeth sydd mwy neu lai wedi diflannu erbyn nawr. Ydy hyn yn rhywbeth fydd yn aros yn 2013?
Hefyd mae’r gair ‘downgrade’ yn de rigeur bellach efo cwmnioedd yn cyhoeddi gemau sy’n edrych yn anhygoel ar y pryd ond y cynnyrch gorffenedig wedi ei israddio gan nad oes digon o horsepower yng ngrombil y PS4 a’r Xbox One (The Witcher 3 a Watch Dogs yn enwedig). Felly diddorol iawn fydd gweld sut fath o gem fydd yn glanio ar gyfer y ddau beiriant yna.
Ond ta waeth am hynny, mwynhewch manylion cynnar am The Division, mae’n rhoi mwy o wybodaeth i ni am beth yw’r gem gan fod penbleth braidd am beth oedd diben y peth. A pan fydd o’n glanio fydda i actually yn Efrog Newydd! Ond gobeithio taw profi’r peth ar ffurf gem…
-Daf