gan Miriam Elin Jones
The Hateful Eight mewn sinemau nawr. Cyf. Quentin Taratino
Rwyf wedi bod yn obsessed gyda ffilmiau Quentin Tarantino ers fy arddegau. Yn ferch 15 oed, roeddwn wrth fy modd yn gwylio’r Reservoir Dogs yn saethu’r **** mas o’i gilydd ac roedd Pulp Fiction yn ddihangfa liwgar a chyffroes o fy myd digon llwyd a llonydd. Mwynheais glyfrwch Jackie Brown ac roedd Uma Thurman yn brysur siapio’n role model newydd i mi.
Yn 17 oed, glaniodd *Y Ffilm Tarantino Newydd*. Sleifiais i weld fy ffilm ’18’ cyntaf, Inglorious Basterds, ac am fod gen i ddigon o amynedd i ddarllen yr isdeitlau, gwerthfawrogais y plot gorau a’r clyfraf o’r cyfan. Ond, wedi cyffroi’n lan wrth feddwl am fynd i weld *Y Ffilm Tarantino Newydd Nesaf* yn 2012, Django Unchained, cefais fy siomi.
…roedd yn gas gyda fi Django Unchained
Pwy a ŵyr, efallai bod y nofelti o wylio ffilmiau Tarantino wedi pylu nawr fy mod i’n ddigon hen i allu gwneud yn gyfreithlon. Ond na, roeddwn i’n iawn. Doedd y sgript ddim yn glyfar. Doedd e ddim yn datblygu’n gyfres o syrpreisys yn ôl yr arfer. Bang bang aeth Django i saethu pawb a dyna ni.
Ar ben hynny, doedd gorfod clywed Tarantino yn trio gwneud acen Awstralian ddim yn helpu’r achos.
Dyma wedyn, gyrraedd *Y Ffilm Tarantino Ddiweddaraf*. Ac mae’r hanes ynglyn â’m cariad at ffilmiau Tarantino yn bwysig. Achos fe ddysgais oddi wrth fy nghamgymeriad diwethaf. Cyn mynd i weld The Hateful Eight, penderfynais nad oeddwn am fynd yn rhy ecseited. Eisteddais yno’n Vue Caerfyrddin yn gweddïo na fyddai hyn yn lladd fy nghariad at ffilmiau’r hen QT unwaith ac am byth. Ac o mai god, dwi mewn cariad eto.
Tarantino yn ôl ar ei orau
Mae’n anodd adolygu The Hateful Eight heb ddatgelu’r un spoiler, na chwaith ymddwyn fel fangirl. Fodd bynnag, mae’r ffilm hon yn dychwelyd at symlrwydd Reservoir Dogs ac mae’n debycach ei naws i Inglorious Basterds. Mae wyth dihiryn yn styc yn Minnie’s Haberdashery â gwynt oer storom eira yn eu hamgylchynnu. Wrth i’r stori ddatblygu, ymddengys fod sawl un o’r criw yn dweud celwyddau er mwyn cuddio cyfrinachau ac ambell un arall off eu pennau’n llwyr.
Wedi trafod y ffilm gydag eraill, mae’n ddiddorol gweld fod pawb wedi bod yn cefnogi cymeriadau gwahanol. Roedd ambell un yn ystyried cymeriad John Ruth The Hangman (Kurt Russell) fel arwr y darlun, tra bod fy nghydymdeimlad i’n llwyr yn mynd i gyfeiriad Daisy Domergue (Jennifer Jason Leigh), y carcharor hanner call a dwl. Roedd perfformiad Jennifer Jason Leigh yn anhygoel ac roedd gyda fi ar adegau llond twll o’i hofn hi. Er na welwn llawer o emosiwn, na chwaith gweld beth sydd wedi arwain y cymeriadau ar y fath drywydd; maent yn gallu switshio’n ôl o fod yn rhyfeddol o dreisgar i fod yn hynod dyner o fewn un golygfa. Mae triniaeth The Hangman o Daisy, yn benodol, yn dyst i hyn. Does neb yn ddrwg i gyd, nac oes?
Camp Tarantino yw’r gallu i glymu sawl llinyn o’r plot at ei gilydd, pa bynnag mor bizzare yw’r digwyddiadau, a chymryd cam yn ôl wedyn ac edrych eto o’r newydd cyn dod â phethau at ei gilydd. Efallai nad yw cymeriadau’r cweit mor gofiadwy ag eraill yn ei ffilmiau blaenorol. Does yna’r un araith sy’n aros yn y cof cweit fel rant Mr Pink am ‘tips’ na chwaith Jules yn adrodd adnod Ezekiel 25:17. Serch hynny, un o nodweddion gorau The Hateful Eight yw’r campwaith o drac sain gwreiddiol gan Ennio Morricone. Heb os, mae’r gerddoriaeth, wrth inni wylio taith The Hangman a’i garcharor ar ddechrau’r ffilm, yn codi’r blewiach mân ar gefn eich gwddf wrth gynnyddu’r tensiwn.
Dod o hyd i hen ffrind
Dyma beth ‘roeddwn eisiau wrth fynd i weld ffilm Tarantino. Gwaed, ymennydd a gyts ymhobman a deialog sy’n bownsio’n ôl ac ymlaen fel pelen ping-pong crafog rhwng y cymeriadau. Does yna ddim byd newydd yn y ffilm hon, fel y cyfryw. Yr un fath o gymeriadau, yr un fath o gast (roedd hi’n braf gweld Tim Roth a Michael Madsen yn dychwelyd i fyd Tarantino) a’r un Red Apple tobacco. Wrth gwrs, mae elfen o ‘look at me’ yn perthyn i bob un o’i ffilmiau, wrth iddo fynnu rhoi ei hun yn ganol y peth. Mae elfen ôl-fodern i’w hoffter o’m hatgoffa mae ei ffilm ef yw hon. Mae nifer yn ddigon parod i’w feirniadu am hynny, ond yr eofnrwydd i fynnu dangos ei hun sydd wedi ei wneud yn gyfarwyddwr mor adnabyddus. Tric da, ac i fod yn gwbwl onest, petawn innau’n ddigon clyfar i gyfarwyddo ffilm, dwi’n meddwl y byddwn am bwysleisio fy rhan i yn y prosiect hefyd. Do, cefais fy siomi gan Django Unchained, ond heb os, mae The Hateful Eight wedi hen dalu pris fy sarhad.
– Miriam