gan Daf Prys
‘Da ni wedi bod yn edrych allan am fanylion gem diweddara Jonathan Blow, The Witness, ers blynyddoedd bellach wedi iddo ei gyhoeddi nol yn E3 2013. Ers hynny, dim, zilch, nada. A finnau’n crefu i weld unrhywbeth ohono gan fod unrhyw gem sy’n dod ar ol creu y peth hollwych megis Braid, gem dwethaf Blow, yn sicr o fod yn rhywbeth i edrych allan amdano.
Ond bore ‘ma o’r diwedd mae un o’r gemau ‘dwi wedi bod yn edrych mlaen ati wedi derbyn dyddiad rhyddhau ac mae’n dod allan wythnos nesaf. BLAM syth yn fy ngwyneb jysd fel’na. Dim run up, dim aros, dyma chi syth arni.
Felly dwi’n hapus iawn, methu aros tan 2016, yr ôl-gerbyd yn cadw pethau’n weddol agos a ddim yn dweud llawer am beth fydd yn digwydd yn y gem: yr unig beth a welwn yw ynys llawn pôsau a dyna gyd fi angen gwybod – o’n i’n amau bydd 2016 yn flwyddyn dda!
[…] wnaeth ysbrydoli’r holl ddarn ‘ma. Fe fyddwch chi’n ymwybodol bod Daf wedi cynhyrfu’n lân am gêm newydd Mr Blow, The Witness, sydd allan heddiw. Dydw i i… ddim. ‘Da chi ddim […]