gan Elidir Jones
Peth rhyfedd ydi barn. Does ‘na ddim byd yn fwy tebyg o dynnu pobol at ei gilydd, na’u gwthio nhw ar wahân. Os ‘da chi’n cyfarfod rhywun mewn parti a mae nhw’n rhannu’ch hoffter chi o gerddoriaeth polka o’r Weriniaeth Tsiec, mae rheswm yn dweud y byddwch chi’n dod ymlaen yn grêt ac yn ffrindia gora cyn i chi droi rownd. Ond be sy’n digwydd pan ‘da chi’n darganfod eu bod nhw’n anghytuno mai Police Academy 3: Back In Training ydi’r gora yn y gyfres? Dyna ei diwedd hi. Ysgariad blêr. Llanast llwyr.
Ac, fel mae unrhywun sydd wedi cymryd golwg ar unrhyw dudalen sylwadau yn gwybod yn iawn, mae’r un gwahaniaeth barn yn fyw ac yn iach ym myd y gemau. Fedrwch chi ddim rhoi eich barn ar gêm – dim ots be ydi’r farn yna – heb fyddin o blant yn eu harddegau ruthro i’ch galw chi’n enwau. Mae pethau’n waeth byth pan ‘da chi’n digwydd anghytuno â’r farn gyffredin.
Yn ffodus, does ganddon ni ddim cynulleidfa. Felly dwi’n rhydd i ddweud be bynnag dwi’n licio am y gemau ‘na mae pawb (ond fi) wrth eu boddau efo nhw. Da ‘di’r iaith Gymraeg.
Braid / Fez
Braid ydi’r gêm wnaeth fwy neu lai gychwyn y dadeni mawr mewn gemau annibynnol, nôl yn 2008. Yn ôl Wikipedia (wrth gwrs), fe wnaeth y gêm gael “nearly unanimous positive reviews“, ac ennill statws cwlt i’w greawdwr, Jonathan Blow.
Braid hefyd wnaeth ysbrydoli’r holl ddarn ‘ma. Fe fyddwch chi’n ymwybodol bod Daf wedi cynhyrfu’n lân am gêm newydd Mr Blow, The Witness, sydd allan heddiw. Dydw i i… ddim. ‘Da chi ddim isio gwbod am y ffraeo fu rownd ffor’ma oherwydd y peth.
Mae fy nghariad i tuag at bosau mewn gemau yn stopio efo Zelda. Am y rheswm yna, do’n i ddim wir yn gallu mwynhau Braid. Fedra i gyfadde bod y prif fecanwaith – y gallu i weindio amser yn ôl ac ymlaen i newid y byd o’ch cwmpas – yn hynod o glyfar. Ond i fi, ges i byth y foment ‘na lle mae’r posau yn y gêm jyst yn clicio. Yn fwy aml na pheidio, wnes i eu datrys trwy ddamwain llwyr. Ddim yn brofiad arbennig o foddhaol.
Ar yr un nodyn, Fez. Gêm annibynnol arall mae’r byd a’i gath yn ei garu, ac un sy’n llawn posau. Fedra i gyfadde bod y graffeg yn hynod o ddymunol, a bod ‘na gymaint o syniadau da yma hefyd. Ond dydi’r gêm ddim yn gafael yn eich llaw o gwbwl. Mae’r byd yn enfawr, gyda ystafelloedd cudd yn arwain at ystafelloedd cudd eraill, sy’n arwain at ardaloedd enfawr, sy’n agor llwybr i rannau hollol wahanol o’r gêm, ac ymlaen ac ymlaen hyd syrffed. Digon i yrru unrhywun yn wallgo. Mae nhw hyd yn oed yn argymell eich bod chi’n gwneud eich map eich hun – efo papur a phensel, o bopeth – er mwyn gallu gwneud eich ffordd o gwmpas y byd. Er bod peth felly yn apelio at y rhan o ‘mhersonoliaeth i sy’n hoff o gemau retro, llyfrau Fighting Fantasy ac yn y blaen, dwi’m yn meddwl bod o’n ddigon dda yn y byd sydd ohoni. Sori.
Metroid
Dwi’n ffan enfawr o Nintendo, er gwaetha’r ffaith eu bod nhw’n ymddwyn yn gwbwl hurt o bryd i’w gilydd. Ond mae ‘na gwpwl o fylchau yn fy ffanboyistiaeth, serch hynny, a’r gemau Metroid ydi’r mwya amlwg.
Rhaid i fi fod yn onest a chyfadde ‘mod i ddim wedi chwarae’r rhan helaeth o’r gemau. Ond dwi wedi chwarae’r rhai sy’n cael eu cysidro fel y goreuon yn y gyfres – Super Metroid a Metroid Prime. Ac unwaith eto, dwi’n gallu cyfadde eu bod nhw’n gemau gwych. Wna i fynd mor bell â dweud fy mod i wrth fy modd efo’r ffordd mae Super Metroid yn dechrau. Dwi wedi chwarae’r darn yna gymaint o weithia. Hyd heddiw, mae’n anodd meddwl am gêm efo mwy o atmosffer wedi ei wasgu i mewn i bum munud. Ond wedi hynny, mae gen i ofn ‘mod i’n dechra diflasu.
Ac mae’r un peth yn wir am Metroid Prime. Dwi ddim ‘di gallu gorffen yr un ohonyn nhw. Sy’n od, achos eu bod nhw’n eitha tebyg i’r gemau Dark Souls / Bloodborne mewn gymaint o ffyrdd, a dwi wedi ei gwneud hi’n berffaith glir gymaint o ffan ydw i ohonyn nhw. Mae ‘na debygrwyddau yn y gwaith celf, yn y ffordd mae hanes a stori’r gemau yn cael eu cyflwyno’n bytiog ac yn ara bach, ac yng nghynllun y gemau eu hunain. Ond am ba bynnag reswm, mae Metroid yn colli fy sylw i hanner ffordd drwodd. Dwi’n syrffedu ar orfod mynd yn ôl ar fy hun drwy’r amser er mwyn gallu symud ymlaen. Unwaith eto, fy mai i ydi o, deud y gwir.
Dwi yn bwriadu dychwelyd at y gyfres un dydd. Ella pan fydd Nintendo’n penderfynu rhyddhau gêm Metroid newydd o’r diwedd. Ond am y tro… sori, Samus Aran. Fi ‘di o, dim chdi.
Sbiwch arni. Gytud.
Pikmin
Wnes i fethu’r gemau Pikmin gwreiddiol ar y Gamecube. Wnes i fethu lot o betha ar y Gamecube, deud y gwir. Wnes i ddim lot efo’r system yna oni bai am chwarae drwy Sonic Mega Collection drosodd a throsodd, am ryw reswm.
Pan ddaeth Pikmin 3 allan ar y Wii U felly, doedd gen i ddim llawer o ddiddordeb. Ond yna fe wnaeth Nintendo gynnig copîau digidol o’r gêm am ddim efo Mario Kart 8. Dwi ddim am droi bargen fel’na lawr. Mae ‘na bobol yn llwgu yn Merthyr Tydfil. Ac er fy mod i ddim wedi gorfod talu ceiniog am y profiad, wnes i ddechrau dod i ddrwglicio’r gêm yn eitha buan.
Yn wahanol i’r gemau eraill ar y rhestr ‘ma, dwi jyst ddim yn gweld pam bod pobol yn hoff o Pikmin. OK, ella dydi’r system reoli ar y Wii U ddim yn gwneud cyfiawnder â’r syniad. Dwi’n digwydd bod yn ffan o’r pad fideo ‘na, ond mae o’n amharu ar y profiad fan hyn yn fwy aml na pheidio. Dim fy mod i’n credu bod ‘na lot i’w sbwylio yn y lle cynta.
Dwi ddim yn cofio lot o gemau mwy rhwystredig na Pikmin 3. Dydi’r posau ddim yn arbennig o anodd, ond mae’r profiad o chwarae jyst yn annifyr. ‘Da chi’n mynd drwy’r lefel yn casglu digon o adnoddau’n ara bach i ymladd bos mawr ar y diwedd. Ond os ‘da chi’n methu? Sori. Amser casglu’r holl adnoddau ‘na eto. Welwn ni chi mewn hanner awr. Waw.
Dwi ddim yn dallt pam bod pobol yn hoff o’r gyfres ‘ma. Ond fel arfer, dwi’n ddigon parod i ddadlau am y peth. Teimlwch yn rhydd i adael sylw yn esbonio mewn manylder sut yn union dwi’n anghywir.
Ac os ‘da chi’n teimlo’n debyg am gêm arall mae pawb wrth eu boddau efo hi, rhowch wbod. Yn bôrd efo Bioshock? Wedi laru ar Legend Of Zelda? Wedi diflasu efo Destiny? Sticiwch sylw yn y bocs.
Roeddwn i’n ffan mawr o gemau MOBA fel Dota 2 a Heroes of the Storm rhyw flwyddyn yn ôl, ond erbyn hyn dw i’n colli mynadd efo’r petha. Does na’m llawer o progression ynddyn nhw. Heblaw am cael laff efo fy mêts, dydyn nhw ddim yn cynnig llawer i geisio cadw chdi’n chwarae.
Meindia di, dw i’n suddo gymaint o oriau i mewn i Rocket League mae pobl yn gofyn os dw i ddal yn fyw. Mae rhaid bod y dywediad “a leopard cannot change its spots” yn wir!