Gêm y Flwyddyn 2015: Dewis Elidir

Yn ddiweddar, fe es i drwy fy newisiadau o ran gemau bwrdd, comics, llyfrau, cerddoriaeth, teledu a ffilmiau gorau 2015. Fan hyn a fan hyn, i fod yn benodol.

Rŵan mae’r darn anodd yn dod.

nervous-man

Os ‘da chi’n cofio flwyddyn diwetha, fyddwch chi’n gwybod fy mod i a Daf wedi gallu cytuno mai ein hoff gêm o’r flwyddyn oedd Destiny. Ond yn 2015, wnaethon ni chwarae gemau eitha gwahanol i’n gilydd – dwi dal ddim ‘di chwarae The Witcher 3, na Metal Gear Solid V, ymysg digonedd o gemau eraill – felly does ‘na ddim cytundeb wedi bod. Mae hi’n warzone yma. Ella wneith Daf roi ei farn o yn y man, ond dyma lle dwi’n sefyll…

Flwyddyn yma, dwi wedi chwarae bron i 20 o gemau newydd, o’r dechrau i’r diwedd. Mae ‘na bump sy’n sefyll allan.

Mae gan Blood Bowl 2 ei broblemau – fel y sylwebaeth cwbwl uffernol, a’r ffaith bod y timau AI ddim cweit yn deall sut mae… wel, chwarae’r gêm. Ond os ‘da chi’n troi’r sain i lawr, ac yn chwarae efo pobol go-iawn, gewch chi amser briliant. Ar y cyfan, mae’n undod da o gêm fwrdd a gêm fideo. Un o fy hoff bethau yn y byd.

Nôl yn yr haf, roedd pawb yn chwarae Rocket League. Ac er bod y cynnwrf o amgylch y gêm wedi tawelu eitha dipyn erbyn hyn, does dim amau pŵer y gêm. Y syniad mwya syml flwyddyn yma – ceir bach yn chwarae pêl-droed! – wedi ei wneud mor, mor slic. Fedrwch chi neidio i mewn i Rocket League ar ôl peidio ei gyffwrdd am oesoedd, a theimlo’n hollol gartrefol. Syrpreis gorau’r flwyddyn. Oni bai ella am…

Splatoon. Am ba bynnag reswm, do’n i ddim yn hoff o edrychiad hwn cyn ei ryddhau, ond brynais i gopi ar y diwrnod cynta beth bynnag, ella oherwydd y prinder o gemau newydd ar fy Wii U druan. Ac mae o’n briliant. Sbin newydd ar genre flinedig y  gêm saethu ar-lein, yn lliwgar, y gerddoriaeth yn grêt, yn rheoli’n wych… roedd ‘na brinder pethau i’w wneud pan gafodd Splatoon ei lawnsio, ond bellach, mae’r nifer o opsiynau braidd yn hurt. Ac mae’r holl estyniadau yma am ddim. Os rhywbeth, mae Splatoon yn gwneud lot o bethau tebyg i Destiny… ond yn well. Sy’n dangos i chi pa mor gryf oedd gemau flwyddyn yma, ar y cyfan.

Ac felly at y gemau gorau un. A’r gêm sydd, yn torri fy nghalon braidd, yn methu allan ar fod yn rif #1… Fallout 4Dwi ddim ‘di edrych ymlaen at gêm gymaint ers… wel, Skyrim. Ac yn amlwg dwi’n hoff iawn o Fallout 4, gan esbonio ei le uchel ar y rhestr ‘ma. Ond i fod yn onest, mae hynny oherwydd fy mod i’n hoff o’r fformiwla. Tra dwi’n chwarae, dwi’n ei gweld hi’n hawdd iawn i anwybyddu’r ffaith bod Bethesda ddim wedi chwarae o gwmpas lot efo eu gemau byd-agored ers Morrowind nôl yn 2002. Ac mae’r un newid mawr i’r fformiwla tro ‘ma – y system grefftio sgleiniog newydd – yn siomi ar y cyfan.

Dwi yn mynd i dreulio lot, lot mwy o amser ym myd Fallout pan ddaw’r estyniadau allan, a dwi’n cymryd fydd lot o’r amherffeithrwydd yn cael ei smwddio allan. Ond dydi hynny ddim wedi digwydd eto. Felly ar ddiwedd 2015, dwi’n meddwl bod rhaid i ni wobrwyo gêm sydd, erbyn hyn, yn gyflawn – ac wedi rhoi mwy o bleser i fi nac unrhywbeth arall. Fy hoff gêm i o’r flwyddyn ydi…

Bloodborne!

Os fethoch chi fi’n clodfori’r gêm yn ddi-baid pan ddaeth Bloodborne allan, dyma fy adolygiad fideo gwreiddiol.

A gan bod y gêm wedi dod allan nôl ym mis Ebrill, ella fyswn i wedi anghofio amdani – oni bai am yr (unig) estyniad, The Old Hunters, gafodd ei ryddhau fis diwetha. Oherwydd hyn, wnes i ail-ymweld â Bloodborne, nid yn unig i brofi’r deunydd ychwanegol, ond hefyd i chwarae drwy rannau helaeth o’r prif gêm eto, gweld y darnau do’n i ddim wedi cyffwrdd â nhw y tro cynta… dwi hyd yn oed wedi dechra sbio ar bobol yn chwarae’r gêm (yn lot, lot gwell na fi, wrth gwrs) ar wefan Twitch.

Pan mae ffans y gyfres yma gan From Software (Demon’s Souls, Dark Souls 1 & 2, Bloodborne) yn sôn am y gemau, mae nhw’n defnyddio iaith ecstatig. Mae nhw’n sôn am y ffaith eu bod nhw’n eu chwarae a’u hail-chwarae, yn perffeithio y broses o chwarae gemau sydd ymysg y mwya anodd heddiw. Mae nhw’n gwybod be sy’n llechu ym mhob un twll a chornel, ac yn gwneud i’r holl beth edrych yn hawdd. Ac am y tro cynta erioed, dwi wedi fy nhemtio i ymuno â nhw. Mae’n debyg y byswn i’n chwarae Bloodborne eto fyth tysa gen i ddim pentwr o gemau yma heb eu cyffwrdd.

Y peth arall dwi’n clywed yn aml ydi ei bod hi’n anodd chwarae gemau eraill ar ôl profi un o’r gyfres yma, achos bod nhw mor dda. Ac er fy mod i wedi teimlo’n union fel hyn ar ôl y Dark Souls cynta, fe gafodd Bloodborne effaith hollol wahanol arna i. Cyn ei chwarae, mae’n rhaid i fi ddweud ‘mod i wedi blino dipyn bach ar gemau, yn eu chwarae allan o ddyletswydd yn fwy na dim byd arall. Fel’na mae hi’n aml ar ddechrau’r flwyddyn, pan mae gemau newydd da yn weddol brin.

Ond fe wnaeth Bloodborne atgyfnerthu fy ffydd yn yr holl gyfrwng. Ar ôl ei gorffen, wnes i ddechrau mynd drwy’r gemau ar fy silff fel dyn gwallgo. Roedd gen i well gwerthfawrogiad o’u cryfderau nhw oherwydd Bloodborne. Dydi hynny erioed wedi digwydd i fi o’r blaen, dwi’m yn meddwl. Profiad arbennig iawn.

A gan ‘mod i ddim wedi ei drafod cyn hyn, dwi am gymryd y cyfle yma i sôn yn sydyn am yr estyniad, The Old Hunters, ac am y gwelliannau sydd wedi eu gwneud i’r gêm wedi ei ryddhau. Dydi’r estyniad ddim yn gwneud unrhywbeth arbennig o newydd, ond mae o’n rhoi mwy o’r un peth i’r ffans… a dyna i gyd ‘da ni isio, yn y pen draw. Mae o’n anoddach, os rhywbeth, na hyd yn oed y prif gêm, a rhai o’r bosys ymysg y rhai mwya annifyr yn y gyfres. Dwi’n siarad amdanat ti, Maria. Ond mae hynny hefyd fel manna o’r nefoedd i’r ffans. Mae’r daith drwy’r “Research Hall” labyrinthaidd, er ei fod yn eithriadol o anodd, yn un o uchafbwyntiau’r holl gêm.

Ac mae gwendidau prin Bloodborne hefyd wedi diflannu, i bob pwrpas. Mae’r estyniad wedi ychwanegu llond trol o arfau ac arfwisgoedd newydd, a ninnau bellach wedi anghofio’n llwyr am ddiffyg amrywiaeth y gêm gwreiddiol. Ac mae’r patsh ddiweddara (a’r un ola, dwi’n cymryd) hefyd wedi ei gwneud yn llawer, llawer haws i wella eich arfau, gan ddod â ni yn agosach i’r wledd o opsiynau sydd ar gael yn y gyfres Souls.

Does dim amser gwell na hyn i ddechrau chwarae Bloodborne. Does dim rheswm gwell, yn fy marn i, i gael gafael ar PS4. Dydi o ddim i bawb – ond mae o yn haws ei fwynhau na’r gemau Souls, yn fwy slic, ac eto ‘da chi ddim yn teimlo fel bod y peth wedi ei symlhau’n ormodol. Mae o wedi gwneud i fi sylweddoli mai’r gemau yma gan From Software ydi fy hoff gyfres ar y funud (a fedra i ddim esbonio cweit gymaint dwi’n edrych ymlaen at Dark Souls 3 fis Ebrill), ac yn fwy na hynny, wedi gwneud i fi gofio eto gymaint dwi’n hoff o gemau yn gyffredinol. Ac er bod ‘na gymaint o stwff da wedi ei ryddhau flwyddyn yma, ro’n i’n oedi dim, deud y gwir, cyn enwi Bloodborne yn gêm y flwyddyn.

– Elidir

One comment

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s