Mae ffuglen wyddonol yn y Gymraeg yn cŵl! (onest)

Erthygl gyntaf gan Miriam Elin Jones ar f8, mi fydd mwy i ddod felly cofiwch dilyn Fideo Wyth ar facebook a twitter

Doedd Cymru ddim cweit yn barod amdanat…

Cyn i mi ddechrau fy mlogbost cyntaf i griw Fideo Wyth, rhaid i mi gyhoeddi nad ydw i’n gallu chwarae gemau cyfrifiadurol. Mae nifer o fy ffrindiau yn fy ngwahodd yn unswydd i chwarae Mario Kart ar y Wii er mwyn chwerthin ar fy mhen a’r Gameboy Colour oedd y consol diwethaf i mi berchen a chwarae.

Felly, ym, pam ydw i yma?

Wel, yn ogystal â thrio dod a bach o glam i’r blog (sori bois…), dwi hefyd yn hoff iawn o bethau nerdaidd. Dwi fymryn yn obsessed gyda chael pobol i dderbyn bod y fath beth â ffuglen wyddonol Cymraeg yn bodoli. Ac nid yn unig hynny, ond argyhoeddi pobol fod stwff Cymraeg o’r fath wedi bodoli ers cryn dipyn o amser.

Felly, dyma fy job i heddiw. Cyflwyno pedwar dyn (stori arall yw’r diffyg merched…) a geisiodd eu gorau glas i gonfinsio pawb fod ffuglen wyddonol yn y Gymraeg yn cŵl.

Urien Wiliam

Nid yn unig y gallaf frolio mai dyma lun sydd wedi dod a’r nifer mwyaf o ail-drydariadau i mi ERIOED, ond dyma restr o EIRFA ffuglen wyddonol.

Pam yn y byd na aeth llenorion yn unswydd i ‘sgrifennu ffug-wydd te?

Hmm. Dewch i weld… O ie, does gan ‘hedbeth annabyddiedig’ ddim cweit yr un ring iddo ag ‘UFO’. Sut i esbonio i rywun nad chwerthiniad y byddai ‘HA’? Ac mae ambell i beth arall sydd, wel, ddim cweit yn taro tant. A does yna ddim gair Cymraeg am ‘alien’, fel y gwelwch. Ac mae’r gwaith awduron realaidd jyst yn rhy ddylanwadol yng Nghymru.

Fodd bynnag, yn 1985 – a chyn hynny, wrth iddo holi mewn erthygl yn hwyr yn y flwyddyn 1984, ‘Ble mae’r Asmiov Cymraeg?’ – mae’n ymdrech glodwiw i not-so-subtly hintio bod ANGEN MWY O FFUGLEN WYDDONOL.

Diolch Urien!

Andras Millward

Bu Andras Millward yn ‘sgrifennwr prysur iawn yn ystod y 1990au.

Dyluniodd y gêm aml ddewis gyntaf yng nghylchgrawn Golwg (er nad yw hynny’n ffeithiol gywir – as seen on tv).

12483662_10153889646634853_273743224_n

Cyhoeddodd lu o erthyglau yn ystod y ddegawd yn trafod pynciau amrywiol megis graphic novels, Judge Dredd a gemau ffantasi. Yn ogystal â hynny, mae’n awdur i’r nofel cyberpunk gyntaf yn y Gymraeg, Prosiect Nofa, ac wedi ysgrifennu nifer o lyfrau ar gyfer pobol ifanc. Samhain, a adolygwyd gan Elidir, yn un ohonynt. A chafodd unrhyw gydnabyddiaeth am wneud? Naddo. Mae e bellach wedi diflannu oddi ar dudalennau Golwg a Barn, sy’n drueni mawr.

Andras Millward, dyma wahoddiad swyddogol i ti ddychwelyd o dy guddfan ac ymuno gyda ni. Mae hi’n oes o werthfawrogiad newydd a pharch tuag at ffug-wydd a ffantasi Cymraeg.

D. Griffith Jones

Ysgrifennodd D. Griffith Jones nofelau zombie, cyn i Georgio A. Romero hyd yn oed ystyried y peth. Do. Fe ddarllenoch chi’n iawn. Roedd D. Griffith Jones yn ARLOESOL.*

Ond yn hytrach na chlod a llon gyfarchion am drio rhywbeth newydd, cafodd ddim byd ond stic, gan neb llai na Caradog Prichard. Am ryw reswm, roedd gan awdur Un Nos Ola Leuad broblem gyda gweinidog yn galw ar Dduw i godi pawb allan o’u beddau. Roedd yn ffiaidd, yn afiach, yn gableddus!

Wel, roedd gan DGJ rhywbeth i’w ddweud am hynny:

12511553_10153889645719853_1182784204_n

‘…am y themâu od a chyffrous, ‘rwy’n credu fod ‘na ryw brotest rhywle yn fy mêr yn erbyn syniadau digyffro a neis—neis ein hoes ni…’

Touche.

Serch y fath feirniadaeth, roedd Islwyn Ffowc Elis yn dipyn o ffan o’i nofel gyntaf. Ac ni all Islwyn Ffowc Elis ‘Tad *Swyddogol* Ffuglen Wyddonol Yn Y Gymraeg’ wneud unrhyw beth o’i le.

Rwy’n eithriadol o falch i mi ddod ar draws D. Griffith Jones, am ei fod yn awdur medrus sydd a’r gallu i godi’r blewiach mân ar gefn fy ngwddf. (Rhywbeth nad oedd yn taro tant yn straeon arswyd Idwal Jones a Dyfed Edwards, yn fy marn digon pitw i.)

Felly, Pe Symudai y Ddaear, Ofnadwy Ddydd ac Y Clychau – read them if you dare!

Owain Owain

Dyma enw cyfarwydd iawn erbyn hyn, diolch i albwm ddiweddaraf Gwenno Saunders, sydd wedi ei hysbrydoli gan lyfr gwyddonias yr awdur hwn, Y Dydd Olaf.

Roedd OO yn wyddonydd niwclear, yn athro ac yn un o’r cyntaf i drafod dyfodol y rhyngrwyd yn 1969 (linc). Os ydw i wedi anghofio unrhyw beth, rhowch wybod. Dyma ddyn uffernol o glyfar a dawnus.

Cyhoeddwyd Y Dydd Olaf yn 1976 (wedi iddi dderbyn stic beirniaid mewn cystadleuaeth yn Eisteddfod 1970), ac os ydych wedi bod yn ddigon ffodus i gael gafael ar gopi o’r nofel bellach-allan-o-brint hon, fe dreiddiwch i ddyfodol brawychus lle gesglir organau’r ddynol ryw er mwyn eu troi’n robots maes o law.

Diflannodd Y Dydd Olaf o fewn blynyddoedd wedi ei chyhoeddi, ond diolch byth i Gwenno Saunders dynnu sylw newydd ati – a gobeithio bydd ail-gyhoeddi’r nofel hon ar y gorwel!

I orffen felly, yr hyn sydd gyda fi i’w gynnig yw tiwn fach i chi ganu, yn y gobaith o ddenu mwy o bobol i’r drafodaeth ffug-wydd yn y Gymraeg.

  • N. Efallai, wedi meddwl, roeddwn fymryn yn cheeky yn dweud fod y rhain i gyd o flaen eu hamser. Mwy na thebyg, ni sydd ar ei hôl hi. Wps.

4 comments

  1. I fod yn deg fe gafodd Andras Millward digon o sylw a chydnabyddiaeth ar y pryd. Roedd ei chwaer Llio hefyd yn actores a chantores adnabyddus yn y 90au ond fe ddiflanodd hi i Lundain. Dyma sy’n digwydd weithiau.

    Mae yna bwynt ehangach gen i am hyn. Rhaid cofio mai amatur yw rhan fwyaf o awduron Cymru ymhob genre, yn yr ystyr nad yw’n swydd llawn amser proffesiynol. Yn aml mae ansawdd y gwaith yn amatur hefyd ond a’i ar ôl hynny wedyn. Does dim cyfle felly i wneud gyrfa felly yr unig bobl sy’n tueddu i barhau i sgrifennu yw’r rhai sy’n gwneud hynny yn barod mewn meysydd eraill e.e. newyddiadurwyr, beirdd, sgriptwyr teledu.

    Mae’r pwynt yn berthnasol i bob arddull, ffuglen wyddonol neu beidio, mae angen i awduron newydd allu sgrifennu storiau byr, cael adborth wrth olygydd, feirniaid a chynulleidfa, er mwyn gwella i safon yn uwch na’r amatur arferol. Yn fwy na hynny fe fyddai’n fodd o adnabod awduron newydd a pha rai sy’n fwya addawol.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s