gan Miriam Elin Jones
Wedi darllen erthygl diweddaraf Elidir Jones am duedd ymysg beirniaid llenyddol tuag at gyfrolau ffug-wydd fe es ati i ymbalfalu drwy adroddion hen Beirniadaethau a Chyfansoddiadau eisteddfodol.
Oes tuedd go iawn?
Tybiwn taw’r ateb bras yw, oes, oes wir! Wnes i gychwyn pendroni wedi darllen geiriau Elidir wrthi iddo sôn am adolygiad o’i nofel newydd, Y Porthwll. Mae’n ymddangos fod dau dueddiad amlwg ymysg beirniaid llenyddol:
- Ymddiheirio fod darn yn destun ffuglen wyddonol.
neu
- Mynnu nad dyma’r ‘fath o lyfr’ maent yn eu darllen fel arfer.
Er bod Llŷr Titus, a adolygodd Y Porthwll yng nghylchgrawn Barn, yn ffan o’r genre, ac hyd yn oed wedi ysgrifennu nofel ffuglen wyddonol i bobol ifanc, un o’i sylwadau agoriadol yw rhybuddio darllenwyr: ‘Rhag ofn fod y syniad o droi at y math hwn o ysgrifennu yn ddychryn i ddarllenwyr posib tydi’r elfen ffuglen wyddonol ddim yn llethu popeth arall ynddi.’
Nawr, yng nghorff yr adolygiad, mae’n canmol y nofel. Serch hynny, mae’n ymwybodol fod yna rhyw stigma wrth fynd ati i ddarllen ffuglen wyddonol yn y Gymraeg. Ac mae yna (neu’n teimlo fel bod yna) stigma amlwg iawn wrth fynd ati i drafod ffug-wydd Cymraeg.
Ddim yn fy nghredu…?
Yn rhan o fy ngwaith ymchwil (doctoraeth yn adran Gymraeg Aberystwyth), dwi’n gwneud lot o bethau cyffroes, megis chwilota drwy hen gyfrolau Beirniadaethau a Chyfansoddiadau ‘Steddfod, a synnais droeon wrth weld ymateb beirniaid i’r enghreifftiau ffuglen wyddonol prin sy’n dod i law yn y fath gystadlaethau.
Er enghraifft…
1964: Cofio ni’n sôn am D. Griffith Jones? Wel aeth ati gyda’r nofel zombie Ofnadwy Ddydd i gystadlu am y Fedal Ryddiaith.
Doedd Caradog Pritchard – awdur Un Nos Ola Leuad, un o nofelau mwyaf arbrofol ac arwyddocaol yr 1960au – ddim yn rhy impressed: ‘Dyma waith mwyaf rhyfedd ac ofnadwy’r gystadleuaeth.’ Ai ymlaen i’w alw’n ‘gabledd noeth’ a ‘sgit nad yw’n taro deuddeg’.
Er bod ei gyd-feirniaid, G.M. Ashton a John Gwilym Jones, yn dipyn caredicach, pwysleisir mai ‘stori’ yw hi ac un all fod yn ‘boblogaidd’. Geiriau digon dychanol yng nghyd-testun beirniadaeth Gymraeg. Ych, hen nofelau ysgafn!
Y flwyddyn cynt, enillodd yr awdur gystadleuaeth ‘Nofel i Bobl Ifanc’ a feirniadwyd gan neb llai na Islwyn Ffowc Elis. Addas i blant ond ‘too much’ i oedolion, o bosib?
1998: Mae Blodyn Tatws gan Eirug Wyn yn ennill Y Fedal Ryddiaith.
Gret! Enghraifft o ffug-wydd sy’n trafod robots a’u peryglon yn dod i’r brig. Wedi gweld y nofel ffantasi, Seren Wen ar Gefndir Gwyn, yn cipio’r fedal yn 1992, mae unrhywbeth yn bosib, a gwelwn don o gynnyrch ôl-fodern ac uchelgeisiol yn dod yn ‘trendi’ iawn mwya’ sydyn.
Tro bwynt yntau..?
Ymddengys hyd yn oed yn 1998 bod dod o hyd i feirniaid agored eu meddwl ynglyn â ffug-wydd yn amhosib. Sylwch ar sylwadau’r beirniaid:
Hafina Clwyd: ‘Syrthiodd fy nghalon i’m slipars pan sylweddolais ein bod ym myd ffuglen wyddonol, ffantasiol, oherwydd dda gen i mo’r cyfrwng arbennig hwnnw a theimlwn mai syrffedu a wnawn ymhell cyn cyrraedd y diwedd.’
Harri Pritchard Jones: ‘Hwyrach y dylai rhywun fod wedi rhybuddio [Eirug Wyn] fod y beirniad hwn, o leiaf, bron yn alergaidd i ffuglen wyddonol.’
Roedd Ray Evans, y trydydd beirniad, am wobrwyo nofel arall. Ond ar gownt yr hiwmor a’r ffaith mai parodi o ffug-wydd yr enillodd y nofel hon. Ymddengys fod ‘elfen ffuglen wyddonol’ yn iawn, ond nid ffug-wydd gadarn. Dwi’n amau bod y tri beirniaid wedi newid eu meddyliau ynglyn â photensial nofelau o’r fath.
Beth am heddiw…?
Hyd yn oed yn 2013, mae Menna Baines yn cyfaddef wrth ddarllen deunydd ymgeisydd y fedal ryddiaeth o’r enw ‘Disgybl‘ taw ‘Dyma’r nofel wyddonias gyntaf imi erioed ei darllen ac yn gwbl groes i’r disgwyl, cefais flas mawr arni’.
Mae beirniaid cystadleuaeth y Gadair hefyd wedi drysu gan ymgais Aneirin Karadog i gyflwyno awdl yn trafod apocalyps zombiaidd. ‘Rhaid cydnabod i mi fod yn ymbalfalu yn y niwl yn ei gwmni…’ cyfaddefa Peredur Lynch. Serch hynny, mae’n diolch i AK am ehangu ei orwelion diwylliannol.
Yn y farchnad Gymraeg, lle’n anaml iawn y catagoreiddir nofel yn ôl genre, rhyfedd pa mor benderfynol yw beirniaid nad ydynt yn hoff o ffuglen wyddonol. (Dadl arall ar gyfer diwrnod arall a blog arall – yw ‘Nofel Gymraeg’ yn ei hun yn genre?)
A chyn i chi feddwl fy mod i jyst yn lladd ar feirniaid, rhaid cydnabod bod beirniaid yn gweld gwerth wedi iddynt ‘fentro’ a bod ‘yn ddigon dewr’ i fwrw ati gyda’r darllen.
Felly… pam nad ydynt wedi mynd amdani eisoes?
Llu o gwestiynau pellach
Ac eithrio parhau i gynhyrchu nofelau a straeon ffuglen wyddonol tan iddynt ddod yn rhyw fath o ‘norm’, neu o leia’ yn fwy cyffredin, a cheisio annog pobol ifanc i ddarllen yn eang – yn Gymraeg a Saesneg – a bwrw ati i ‘sgrifennu (ac wrth gwrs, rant arall wedi ei atalnodi â sawl ebychnod crac yw ‘peidiwch â dweud wrth lenorion beth i wneud’) dwi’n amau fod yna ryw lawer y gallwn ni wneud am y peth.
Does gennyf ddim ateb, felly. Sori. Ond dyma sawl cwestiwn, a lle i drafod a chnoi cul.
- Gyda’r dyfodol yn brysur agosau, i ble rydym yn mynd nesa?
- Oes yna broblem gydag ystyried fod ffuglen wyddol yn rhywbeth Cymreig?
- Oes gan bobl ofn nad yw’r Gymraeg yn gweddu i feysydd gwyddonol na thechnolegol ac felly rhyddiaith ffuglennol o’r fath?
- Oes RAID i ni fynnu dechrau pob adolygiad gyda chyfeirio at snobyddiaeth bobol (boed y beirniad ei hun neu ddarllenwyr) ynglyn â’r genre?
- Onid oes modd adolygu rhywbeth yn ôl rhinwedd ei stori neu chryfder ei gymeriadau neu ddychymyg, heb ystyried genre? (Neu, i fod yn fwy cytbwys, heb roi bwyslais gormodol i genre, fel y gwneir mewn adolygiadau ‘eraill’?)
Atebion ar cerdyn post, os gwelwch yn dda! [neu yn yr blychau ateb islaw]
Ynglŷn â’r cwestiwn am y pwyslais ar genre mewn adolygiadau: Os ydych chi’n feddwl o genre fel rhyw fath o sgwrs neu drafodaeth rhwng awduron (ac mae hyn yn wir am y genre yn Saesneg [1]) mae’n bron amhosib osgoi trafod yr elfennau o genre sy’n bodoli mewn nofel neu stori fer os ydych chi am wneud cyfiawnder i’r gwaith [2]. Rhaid trafod y defnydd mae’r awdur yn wneud o’r elfennau wrth ei chymharu â defnydd awduron arall o’r un elfennau, os oes unrhywbeth newydd yn cael ei ychwanegi i’r ddadl, ac yn y blaen.
Felly, YFMI, does dim problem ar ran egwyddor gydag adolygiadau sy’n canolbwyntio ar elfennau ‘genre’ nofel wyddonias — mae’n bosib dadlau fod adolygiadau gan feirniaid ‘llenyddol’ yn dueddol i ganolbwyntio ar elfennau sy’n bwysig i’r genre ‘llenyddol’ (mae hyn yn wir yn y Gymraeg a’r Saesneg, ond mae’r sefyllfa yn y Saesneg wedi gwella llawer dros y blynyddoedd), a dyna sydd wrth wraidd y tueddiad diffyniadol wrth drafod nofelau sf a ffantasi [2]. Y prif broblemau yw: (1) does ‘na ddim lawer o feirniaid llenyddol yn y Gymraeg sy’n hefyd yn gyfarwydd â sf, sy’n efallai yn deillio o broblem (2): fy argraff i (a dydw i ddim yn arbenigwr yn y maes o sf Gymraeg o bell ffordd; mae’n bosib fy mod i’n hollol anghywir) fod nofelau sf Gymraeg yn tueddu i fod yn unigol — maen nhw’n sgwrsio gyda sf Saesneg yn unig yn hytrach na gyda sf (a llenyddiaeth mwy ‘mainstream’) Gymraeg, Saesneg, Pwyleg, a.y.b. Mae hyn yn wneud hi’n anodd ei feirniadu’n deg, hyd yn oed os ydych chi’n anwybyddu rhagfarn.
(Yr ateb yw cael digon o sf a ffantasy Gymraeg, digon i gynnal sgwrs, wrth gwrs. Hawddach ddweud na gwneud…)
[1] E.e. mae ‘Trouble on Triton’ gan Samuel Delany yn ymateb i ‘The Dispossesed’ gan Ursula le Guin; mae Joe Abercrombie a George R. R. Martin yn ymateb mewn gwahanol ffyrdd i’r ‘extruded fantasy product’ ffug-Tolkienaidd yr 80au a’r 90au; crynhoir elfennau sy’n dod o straeon a nofelau sf cynharach gan Gene Wolfe yn ‘The Book of the New Sun’; a.y.b.
[2] Ond doedd hyn ddim yn wir yn y gorffennol — roedd Virginia Woolf yn hoffi nofelau Olaf Stapledon, a doedd neb llai na W. H. Auden yn ffan enfawr o ‘The Lord of the Rings’…