Clwb Llyfrau f8: Cafflogion

gan Elidir Jones

Mae mis Ionawr yn draddodiadol yn dawel iawn ym myd y gemau, a dydi gemau mawr y gwanwyn ddim cweit wedi’n cyrraedd ni. Fe fydd ‘na gwpwl o fideos yn glanio cyn diwedd y mis, gan roi’r “f” yn ôl yn “f8”. Ond am y tro, be am i ni gamu’n ôl i fyd llenyddiaeth, ac agor drysau’r Clwb Llyfrau unwaith eto?

Tro ‘ma, Cafflogion gan R. Gerallt Jones sydd dan sylw. Y nofel fer yma oedd enillydd y Fedal Ryddiaith nôl yn 1979 – ac wedi mynd ati i ddarllen y feirniadaeth, roedd hi’n braf gweld bod y beirniaid ddim yn treulio eu holl amser yn gweld bai ar y genre ffug-wyddonol. I fod yn deg, dydi’r elfennau yna ddim yn eithriadol o gryf yma, ond dyna ni. Ar ôl fy rant wythnos diwetha, mae’n braf iawn gweld beirniadaeth fel’na, yn enwedig un sy’n dyddio’n ôl at y saithdegau hwyr.

Beth bynnag. Y plot.

Y dyfodol pell. Yr unfed ganrif ar hugain. Does ‘na ddim lot o olew ar ôl, ac mae Prydain wedi ei lyncu gan wladwriaeth ffasgaidd o’r enw “Unol Daleithiau Ewrop”. Gan ei bod hi’n agos at fod yn amhosib i fyw yn y wlad, mae’r mwyafrif llethol o boblogaeth Cymru wedi eu hel i Gaerdydd, sy’n cael ei ddisgrifio fel “un carchar anferth o Benarth i Ferthyr”.

Hmm. Ella bod y darn yna’n reit agos at y gwir.

eGVtWkU5VmpzcFkx_o_city-in-ruins---post-apocalypticdystopia-music---

Jôc bach ddiniwed fanna.

Ond be sy’n digwydd pan mae’r grymoedd sinistir sy’n rheoli “Y Ddinas” yn darganfod pentre bach annibynnol yng Ngwynedd o’r enw Cafflogion? Pentre sy’n gwneud yn iawn hebddyn nhw, yn byw oddi ar y tir, ac wedi llwyddo creu perthynas efo’r “Iwerddon Unedig” sydd bellach yn ffynnu i’r gorllewin?

Dim byd da. Mae hynny’n sicr i chi.

Debyg iawn ei bod hi’n glir o’r crynodeb yna bod gwleidyddiaeth yn dod i mewn i Cafflogion, a hynny ddim mewn ffordd cynnil iawn. Mae pennaeth Cafflogion yn ddoeth ac yn fwyn ac yn Gymro i’r carn, a’r holl bobol ddrwg sy’n rheoli’r Ddinas yn Saeson rhonc, ac yn y blaen. Does ‘na ddim amheuaeth ar ddiwedd y nofel sut y mae R. Gerallt Jones isio i ni deimlo. Mae hyn yn broblem dwi’n ei weld dro ar ôl tro yn y Clwb Llyfrau.

Ond oni bai am hynny… waw, wnes i fwynhau Cafflogion. Mae’n perthyn i’r un genre o nofelau dystopaidd â chlasuron fel 1984 gan George Orwell a The Handmaid’s Tale gan Margaret Atwood (mae ‘na un neu ddau o homages uniongyrchol at 1984 yn y testun, hyd yn oed). I fi, y peth pwysica mewn nofelau felly ydi’r teimlad ‘na o ofn sy’n dod wrth sylweddoli y gallen nhw ddod yn wir, dim ond efo mymryn o newidiadau bach i’n byd ein hunain. Ella bod Cafflogion fymryn bach yn gartŵnaidd o bryd i’w gilydd, ond mae’r ofn yna yn sicr yn bresennol. Mae ‘na ddadl i’w wneud ei fod yn gwneud y math yma o beth yn well na Wythnos Yng Nghymru Fydd.

Dydi’r cymeriadau ddim yn unrhywbeth sbeshal, ond dwi ddim yn gweld hynny’n wendid. Mewn stori fel hyn, dydi’r cymeriadau ddim yn llawer mwy na dyfais i yrru’r naratif yn ei blaen. Mae gan Alun, sydd ella yn dod yn agosach nac unrhywun at fod yn brif gymeriad, wraig a phlentyn ifanc sydd ddim yn gwneud llawer oni bai am ychwanegu mwy o beryg at y stori wrth iddo drio eu hamddiffyn. Mae gan Ieuan, pennaeth y pentre, ddau o gynghorwyr sydd dim ond yna er mwyn cynnig safbwyntiau gwahanol o ran cydweithio efo’r Ddinas. Ond dim ots. Cyfrol o chwe deg tudalen yn unig ydi hon, a does ‘na ddim lle i wneud llawer o ymhelaethu beth bynnag. Mae R. Gerallt Jones yn gwneud ei bwynt, yn adrodd stori hynod o effeithiol, ac yna’n gadael. Fedrwch chi ddim gofyn mwy.

Wna i ddim treulio gormod o amser yn tynnu’r nofel yn ddarnau. Os fedrwch chi ddod o hyd iddi (annhebyg, dwi’n gwbod, y tu allan i lyfrgell goleg), wneith hi ddim cymryd gormod o amser i chi ei darllen o glawr i glawr a gwneud eich meddwl eich hun i fyny. Ond i fi, er llond llaw o wendidau, mae’n sicr yn un o’r straeon dystopaidd / ôl-apocalypaidd gorau i mi ddarllen yn y Gymraeg, yn werth ei gymharu efo nofelau enwocach yn yr iaith – ac ella hefyd at glasuron o’r un genre yn y Saesneg.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s