Os ‘da chi’n ein dilyn ar Twitter, fyddwch chi’n gwybod yn iawn be ddigwyddodd ar Ddydd Sadwrn. Achos mi o’n i’n trydar yn fyw drwy’r diwrnod. Debyg iawn eich bod chi wedi cael hen ddigon o glywed am y peth. Ni oedd y peth mwya poblogaidd ar y we Gymraeg yn ystod y diwrnod yna, wedi’r cwbwl. (OK, ro’n i’n siarad i fi fy hun y rhan fwya o’r amser, ond dyna ni.)
Ond os does ganddoch chi ddim syniad am be dwi’n sôn, strapiwch eich hunain i mewn…
Dydd Sadwrn (a dechrau Dydd Sul), wnes i wylio bob un o’r ffilmiau Middle-Earth gan Peter Jackson. Y fersiynau estynedig. O, a do’n i ddim ‘di cael lot o gwsg y noson gynt, chwaith.
Mae’n rwbath ro’n i wedi bwriadu ei wneud ers misoedd. Wnes i hyd yn oed ddeffro’n gynnar sawl gwaith yn ddiweddar, yn barod i gychwyn arni. Ond ro’n i, fel Bilbo, yn amharod i fynd ar yr antur, ac yn cilio’n ôl o dan fy nghwilt cynnes bob tro. Ond bellach mae’r antur drosodd… ac er fy mod i ddim cweit ‘di dychwelyd efo cistiau yn llawn aur fel Mr. Baggins, dwi’n teimlo ‘mod i ‘di cael gwobr llawer mwy gwerthfawr. Dwi’n cael symud ymlaen efo fy mywyd.
Felly i roi hoelen mithril yn arch yr holl beth, be am – *ochenaid* – ailfyw’r profiad? Efo uchafbwyntiau o’r gwallgofrwydd ar Twitter, fy mhrofiadau i o’r diwrnod, a fy marn cyffredinol ar y gyfres.
Rŵan ta. Sut i ddechrau?
O ia.
In a hole in the ground, there lived a Hobbit…
4.19yb: The Hobbit: An Unexpected Journey
“O, grêt. Darn estynedig efo’r elves.“
“Down, down, in Goblin Town. Mae The Unexpected Journey yn musical, fwy neu lai.”
“Dwi yn hoff o’r ffilmiau ‘ma, gyda llaw. Dwi jyst yn fwy hoff o fod yn sarcastig.”
Yn ddigon rhesymol, mae fy atgofion o ddechrau’r broses ‘ma yn… niwlog. Dwi’n cofio’r larwm yn canu, a chwarae efo’r syniad o fynd yn ôl i gysgu, fel dwi ‘di gwneud gymaint o droeon o’r blaen. Ond wnewch chi byth drechu Smaug a Sauron efo agwedd fel’na. Dwi’n cofio troi’r teledu ymlaen, fy llygaid yn amharod iawn i aros ar agor, a gwneud fy ngorau i baratoi fy hun ar gyfer diwrnod hir iawn…
Dwi’n ddiolchgar, deud y gwir, bod The Unexpected Journey yn cychwyn braidd yn ara deg, er mwyn rhoi amser i fi setlo mewn i’r peth. Mae ‘na tua tri chwarter awr yn cael ei dreulio yn Bag End ar ddechrau’r ffilm… ac er bod hynny’n mynd yn erbyn bob un rheol am ddweud straeon, mae’n rhaid i fi ddweud mai dyma fy hoff ran o’r gyfres The Hobbit. Ella bod hyn yn dweud dipyn gormod am fy mhersonoliaeth fy hun, ond dwi isio byw yn Bag End. Ond fyswn i yn dweud hynny. Dwi ‘di bod yna.
Y peth gorau am y ffilmiau The Hobbit, dwi’n meddwl, ydi perfformiad canolog Martin Freeman. A dyma’r unig un o’r ffilmiau lle dydi cymeriad Bilbo ddim ar goll yn yr holl brysurdeb. Rhwng hynny, Gollum, a’r ffaith bod Peter Jackson wedi llwyddo i lyfnhau natur eitha episodig y llyfr, a dwi’n meddwl bod hi’n amlwg mai dyma’r ffilm cryfa yn y drioleg yma. Ddim yn gychwyn ffôl i’r diwrnod, felly… ond dwi dal yn argymell eich bod chi’n cael brecwast cyn ei weld.
7.19yb: The Hobbit: The Desolation Of Smaug
“Dwi’m yn trystio’r boi Sauron ‘ma.”
“Draig! Wel ar f’enaid i. Dwi ‘di gweld popeth rŵan.”
“Newydd gael kiwi fruit a phaned o de. Mae popeth yn iawn. Mae popeth yn iawn. Mae popeth yn iawn.”
Tair awr yn union ar ôl dechrau’r holl fenter wallgo ‘ma, dwi ‘di symud ymlaen at yr ail ffilm. Dwi’n cofio bod yn dipyn o ffan o The Desolation Of Smaug yn y sinema, ond bellach mae’r holl beth yn teimlo dipyn yn wag.
Er bod ‘na bethau da yn y ffilm, yn enwedig yn y fersiwn estynedig – mae’r stwff rhwng Gandalf a Thrain yn gweithio’n ddigon teidi – mae o hefyd yn cynnwys y pethau gwaetha yn y ffilmiau Middle-Earth. Y stori gariad rybish rhwng Kili a Tauriel. Alfrid, gwas bach y Meistr – Jar Jar Binks y gyfres, heb os nac oni bai. Y frwydr rhwng Smaug a’r corrachod – un cawl o CGI sydd ddim yn gwneud y mymryn lleia o synnwyr. Ac mae hyd yn oed Beorn, sy’n gymeriad cŵl, yn edrych fel rhywun mewn gwisg Calan Gaeaf gwael.
Er yr holl ffaeleddau, dwi’n meddwl ei bod hi dal yn bosib mwynhau’r peth, ond dydi o ddim yn aros yn y cof yn hir iawn. A pan mae ganddoch chi dros bymtheg awr ar ôl, mae unrhyw ffaeleddau yn mynd ar eich nerfau yn fwy nag arfer. Ond ‘na ni. Wnaeth brecwast helpu. Ac erbyn y diwedd, o’n i wedi gwisgo, wedi ymolchi, ac yn barod am y diwrnod.
Wel. Ish.
10.57yb: The Hobbit: The Battle Of The Five Armies
“Wel, dyna’r ddraig ‘di marw. O, a Stephen Fry. Y ffilm bron ar ben felly, dwi’n cymryd?”
“Hanner The Battle Of The Five Armies drosodd. Dim brwydr eto. Con.”
“Seiniwch y klaxon! Billy Connolly ar gefn mochyn! Billy Connolly ar gefn mochyn!”
Do’n i ddim ‘di gweld The Battle Of The Five Armies ers y sinema, a ddim wedi gweld y fersiwn estynedig o gwbwl. Felly wrth i’r bore ddechrau dirwyn i ben, ro’n i’n eitha edrych ymlaen at y peth.
Ac unwaith eto, ar ôl cael fy swyno yn y sinema, dipyn o siom oedd hwn yn y diwedd. Er bod Martin Freeman yn disgleirio unwaith eto, a’i olygfeydd olaf ymysg y perfformiadau gora yn yr holl gyfres, mae uchafbwyntiau fel’na yn cael eu colli yng nghanol yr holl CG. Canolbwynt y ffilm, wrth gwrs, ydi’r frwydr fawreddog rhwng y pum byddin (peidiwch â gofyn i fi eu henwi nhw i gyd), ac yn wahanol i frwydrau LOTR, mae’n anodd iawn malio botwm corn am be sy’n mynd ymlaen achos bod y peth yn edrych lot, lot rhy slic. Ac mae gen i ofn bod ychwanegiadau y fersiwn estynedig – am yr unig dro yn y gyfres, dwi’n meddwl – yn gwaethygu’r ffilm, yn ychwanegu darnau o hiwmor a thrais sydd ddim yn gweithio ym myd Tolkien, ac yn llusgo’r peth allan fymryn gormod.
Pan mae Peter Jackson yn canolbwyntio ar y pethau syml, fel y berthynas rhwng cymeriadau, ‘da ni’n cofio gymaint o gyfarwyddwr medrus ydi o. Jyst… callia fymryn bach, Pete. Ti’m isio troi i mewn i George Lucas, nag wyt?
NAG WYT?
Cym olwg ar rai o dy ffilmiau cynharach, os ti isio, ti gael cofio sut mae ei gwneud hi. Fel o’n i ar fin gwneud…
1.45yh: The Lord Of The Rings: The Fellowship Of The Ring
“Dwi’n gorfod newid disgs yng nghanol y ffilmiau LOTR. Dwi ddim yn siŵr dwi’n barod am y lefel yma o ymarfer corff.”
“Fly, you fools. (Dim chi. Gewch chi aros.)”
“Dwi ‘di colli’r plot.”
Ac felly at y prif gwrs. Ges i bang o nostalgia yn syth wrth i’r gerddoriaeth gyfarwydd chwarae dros ddewislen y Blu-Ray. Dwi’n cofio’r tro cynta i fi weld Fellowship yn y sinema fel ddoe, a fedra i ddim dechrau cyfri faint o weithiau dwi wedi ei weld ers hynny. Dwi wedi gweld y ffilm efo commentary ryw bump o weithia, mae’n siŵr gen i. Doedd gen i ddim lot arall i’w wneud, yn amlwg.
Deud y gwir… dwi’n meddwl ‘mod i wedi gweld y ffilm lot gormod. Dyma’r tro cynta yn ystod y diwrnod lle wnes i ddechra drifftio i ffwrdd fymryn bach. Ond i fod yn deg, dwi yn dueddol o deimlo’n gysglyd ar ôl cinio beth bynnag.
Mae hi hefyd braidd yn anodd i gymryd y peth o ddifri ar adegau. Mae ‘na gymaint o barodïau o Fellowship wedi bod, gyda phob eiliad o’r ffilm wedi ei astudio a’i ail-astudio, y deialog bron wedi ei serio ar ein hymwybyddiaeth ni i gyd… ac wrth gwrs, ambell meme wedi ei greu.
Roedd ‘na un sgil-effaith arall o wylio hwn yn syth ar ôl The Hobbit: i gymharu efo natur eitha ysgafn y ffilmiau newydd, mae rhai darnau o Fellowship erbyn hyn yn teimlo fymryn bach yn po-faced. Dwi’n edrych arnoch chi, Arwen ac Aragorn. Mae’r cyhuddiad yna wedi ei wneud yn barod, wrth gwrs, ond do’n i erioed wedi ei weld cyn hyn. Wrth i ddiwedd y pnawn gyrraedd, ro’n i’n dechra pendroni a fydd y profiad yma yn sbwylio’r ffilmiau i fi fymryn bach.
Mae’n falch gen i ddweud mai anghywir o’n i…
5.40yh: The Lord Of The Rings: The Two Towers
“Treebeard. Mae hwnna’n enw boncyrs ar gyfer coeden. Fel fi’n galw fy hun yn ‘Manbeard’.”
“Sori am fod yn dawel. Dwi’n eitha joio hwn.”
“PO-TA-TOES.”
Dim ond pan gyrhaeddais i The Two Towers wnes i ddechrau mwynhau’r profiad gwallgo ‘ma go-iawn. Mae ‘na ddau reswm am hyn. Un ydi fy mod i wedi dechrau teimlo bod y diwedd mewn golwg… er nad oedd o ddim. O gwbwl. A hefyd dwi’n meddwl mai The Two Towers, o’r dechrau i’r diwedd, ydi’r ffilm orau yn y gyfres ‘ma.
I fod yn glir: dwi’n meddwl bod ail hanner The Return Of The King yn rhagorol, ac ymysg y pethau gorau sydd erioed wedi eu rhoi ar sgrîn. Ond meddyliwch am yr holl stwff yn The Two Towers. Gollum (eto) – hyd heddiw, y cymeriad digidol gorau erioed, gyda’r effeithiau CG yn parhau i ddal dŵr. Llwythi o leoliadau a chymeriadau newydd sy’n ychwanegu gymaint at y stori – ac mewn rhai enghreifftiau, fel cymeriad Faramir, yn welliannau ar y llyfr. Y darn yma. Brwydr Helm’s Deep, sydd ar brydiau yn edrych fel darlun o’r Dadeni wedi dod yn fyw. Ac wrth gwrs, ac ella’n bwysicach na dim, heb The Two Towers, fydden ni erioed wedi gweld hwn…
Ges i swper a brêc bach tua hanner ffordd drwodd, a ro’n i’n synnu wrth sylweddoli ‘mod i’n ysu i fynd yn ôl ati. Dyma’r tro cynta yn ystod y profiad lle o’n i’n ei ffeindio hi’n anodd i drydar, a jyst isio gwylio’r ffilm. Ac wrth i’r diwrnod hir ddechrau dirwyn i ben go-iawn, dim ond gwaethygu fyddai’r broblem yna…
10.23yh: The Lord Of The Rings: The Return Of The King
“Hei. Be tyswn i ‘di bod yn ffugio hyn i gyd? Jyst ‘di bod yn ista yma drwy’r dydd, yn syllu at wal, yn fy mhants?”
“Mae’n swyddogol. Dwi ‘di bod yn gwneud hyn ers bore ddoe.”
“Ddechreuais i hwn mewn pyjamas, a dwi’n mynd i orffen mewn pyjamas.”
Es i fymryn yn dawel yn ystod ail hanner The Return Of The King. Yn un peth, roedd pawb oedd yn dilyn y ffrŵd Twitter drwy’r dydd wedi mynd i’r gwely. Ro’n i wedi blino fy hun, ac yn edrych ymlaen at gael suddo o dan y cwilt. Ond dwi’n herio unrhyw ffan o’r gyfres yma i allu gwneud unrhywbeth arall pan mae Aragorn, Gandalf a’r criw yn gwynebu holl luoedd Mordor o flaen y Giât Ddu, a Frodo a Sam yn cropian eu ffordd yn ara deg i fyny llethrau Mount Doom o’r diwedd.
Fe allwch chi ddadlau ei bod hi’n cymryd dipyn o amser i bethau ddechrau digwydd yn ROTK, ond pan mae nhw… mam bach. Fyswn i’n gallu llunio rhestr hir arall o’r holl stwff bril sy’n digwydd, ond fysa hynny’n cymryd gormod o amser dwi’n meddwl… achos bod fersiwn estynedig y ffilm yn para pedair awr. Ac mae’n gredyd i Peter Jackson a’i holl dîm bod ROTK ddim yn teimlo cweit mor hir â hynny… hyd yn oed ar ôl treulio 18 awr yn Middle-Earth cyn dechrau ei wylio.
Dwi yn argymell bod ffans y ffilmiau ‘ma yn trio gwneud y marathon yma o leia unwaith yn eu bywydau, yn benodol oherwydd y diweddglo estynedig ‘ma. Dwi ddim yn gallu meddwl am enghraifft arall sinematig o un stori gytbwys yn cael ei hadrodd dros gyfnod mor hir o amser – ac OK, ella dydi’r siwrne ddim yn fêl i gyd, ond wrth i ni gyrraedd pen y daith, â’r holl linynnau storïol yn dod at ei gilydd, fysa’n rhaid i chi gael calon mor galed â Sauron i beidio cael eich cyfareddu gan y peth.
A peidiwch a dechrau sôn bod diwedd y ffilm yn llusgo ‘mlaen. Gwrandewch, tysa ROTK yn dilyn y llyfr yn union, fysa ganddon ni olygfeydd hirfaith lle mae Christopher Lee wedi meddiannu Bag End. Felly stopiwch.
2.26yb: gorffen!
“Fory: bob ffilm Godzilla erioed. #godzillaffest”
Erbyn i’r credydau rowlio, a’r cymeriadau yn hwylio dros y môr i Valinor, ro’n i’n barod am wely, yn siarsio fy hun na fyddwn i’n gwneud unrhywbeth mor hurt eto… ond ar yr un pryd, do’n i bellach ddim yn meddwl bod y diwrnod wedi bod yn wast llwyr o amser. Deud y gwir – sibrydwch y peth – ro’n i wedi eitha mwynhau fy hun. A’r bore wedyn, coeliwch neu beidio, ro’n i ar Youtube yn neidio rhwng clipiau o’r special features o’r DVDs. Doeddwn i ddim cweit yn barod i adael Middle-Earth eto, yn amlwg.
Dwi’n gwbod. Mae gen i broblem.
Ac wedi i’r llwch setlo, ac wrth i fi drio mynd yn ôl i’r arfer o weithio ar ôl rhialtwch Dolig a’r flwyddyn newydd… wnes i ddechrau meddwl am wneud peth mor hurt eto. Ond ei chymryd hi i’r lefel nesa.
Pa mor hir mae pum cyfres o Game Of Thrones yn para, ‘da chi’n meddwl?
Ta waeth am hynny am y tro. Diolch i bawb ar Twitter wnaeth ymuno efo fi ar y diwrnod, a gwneud i fi deimlo yn lot llai trist. Roedd hi’n bleser eich cael chi yna efo fi. Gobeithio wnaethoch chi – os oeddech chi yno ar y pryd, neu dim ond yn darllen hwn rŵan – deimlo fel bod chithau ‘di mynd ar ryw fath o siwrne hefyd. Hyd yn oed os oedd y siwrne yn un doeddech chi wir ddim isio mynd arni yn y lle cynta.
Hmm. Swnio’n gyfarwydd. Lle dwi ‘di clywed hwnna o’r blaen…?
– Elidir