Gemau 2015: Daf yn dewis

Y rhestr. Hynny yw, dyma’r unig beth fyddwch chi byth angen gwybod am gemau 2015, sdim angen ffeithiau bellach, mae Daf yma. Felly meddyliwch am gerddoriaeth dramatic, fel y dym dym dym dym yng nghefndir ffilmiau Christopher Nolan neu unrhyw gerddoriaeth gan Daft Punk (ond am y thing Round the World ‘na), a dychmygwch fod drama enfawr ar y ffordd. Na, rili bydd rhaid i chi ddychmygu achos dim ond rhestr o gemau yw hwn, – it’s hardly Charlton Heston’s Moses carrying down the 10 commandments. So, ar ol hwnna, os yn bosib, rhywsut, daliwch mlaen i’r gerddoriaeth (chimo beth, galle chi jysd fynd draw i you tube a gwrando ar y peth) wrth ddarllen (dym dym dym dymmm, sori, ma fe’n sdyc yn y pen nawr) fy rhestr i ar gyfer gemau orau 2015.

Mae Elidir wedi sgwennu ei rhestr o yn barod sy’n handi iawn i fi er mwyn bod yn hollol groes iddo ar bwrpas, ond mae’n hollol wir: rhywsut mae Elidir wedi dod o hyd i’w hun heb brofi The Witcher 3 na Metal Gear Solid V sydd yn dipyn o dwll yn 2015. Wedi dweud hynna does gen i ddim WiiU na Xbox One ac mae digon o gemau nad sydd ar gael i mi chwaith i mi sgwennu amdanynt. Y pwynt yw, er y nonsens uwchlaw, nid rhestr perffaith yw hon, amhosib yw profi pob gem ac amhosib hefyd yw’r cysyniad fod unrhyw gem yn gallu bod yn ‘gem y flwyddyn’ felly go iawn, rhestr o’n hoff gemau o 2015 yw hon.

6. Rainbow 6: Siege

Gem hollol odan y radar mewn modd, gyda chymuned bychan a chryf. Bydd adolygiad llawn yn ymddangos cyn bo hir ond yn gryno, gweithred gem cynil iawn wedi groesi efo elfennau MOBAaidd yn cyflwyno profiad gwerth chweil.

main_0

5. Bloodborne

Sdim byd llawer fedra’i adio at hwn dyw Elidir ddim wedi son amdano ond gem anhygoel wnaeth adnewyddu ein ffydd mewn gemau gwreiddiol AAA wedi siomedigaeth Destiny.

4. Everybody’s Gone to the Rapture

Anodd iawn oedd peidio gosod hon fel fy ffefryn o’r flwyddyn yma (eto fyth, adolygiad am ymddagngos cyn hir). Gyda agwedd stori gryf a profiad llyfn o ail-ddweud y naratif yn gysylltiedig efo digwyddiadau’r gem roedd llwybr y profiad yn un llyfn a dygn. Hyn wedi briodi efo creu byd hynod brydferth ac emosiynol yn gwneud hon yn gem boddhaol a heriol.

3. Blood Bowl 2

Nawr, man a man i fi ddweud taw rhesymau personol iawn sy’n codi hwn i’r 3 ar y brig a’r rheswm am hynny yw hiraeth. Hiraeth am ddyddiau a fu a hiraeth am amser symlach o gwrdd a chyfeillion a chwarae Blood Bowl. Gem fwrdd oedd Blood Bowl ac fe wnaeth fi a’n ffrindiau treilio oriau maith yn creu timau a brwyrdo yn erbyn ein gilydd mewn gem sy’n debyg i peldroed Americanaidd (ond efo Orciaid ac Elves etc – gem ffantasi ydy go iawn). Mae Blood Bowl 2 wedi ei ailgreu mewn ffordd sy’n agos iawn i’r profiad gwreiddiol ac yn rhywbeth sy’n dod a gwen i’r gwyneb wrth i berson sgorio touchdowns anhygoel.

a1dvw8ahial

2. Metal Gear Solid V

Dwi ddim hyd yn oed wedi gorffen hwn eto, ond diawch, mae’n gem sy’n canu ata i yn enwedig gan iddo fod yn gem guddio go iawn (stealth) efo elfennau RPG a hyd yn oed MOBA. Pa fath o brofaid arall sy’n galluogi i chi gropian drwy anialdir yn brwydro’r elfennau a milwyr estron gan adeiladu eich ‘mother base’ eich hunan drwy herwgipio’r milwyr (a, errr, defaid) megis balwns sy’n hedfan i’r awyr? Ie, dim byd.

1. The Witcher 3

Oes fath beth a gem berffaith? Mae’n rhywbeth personol iawn wrth gwrs ac yn rhywbeth sydd yn byw mewn cyd-destun arwyddocaol: cyd-destun haniaethol, corfforol, meddyliol, megis unrhywbeth mae person yn profi ar unrhyw adeg yn eu bywyd. Doedd gen i ddim lle ar gyfer llyfrau hanes amaethyddiaeth 10 mlynedd yn ol ond bob tro dwi yn y launderette dyddie yma fyddwch chi’m yn dal fi heb un.

Ac felly wnes i dod o hyd in hunain yn profi The Witcher 3 yn hydref 2015, a dwi’n hollol siwr, pwy bynnag berson oeddwn i, ar ba bynnag adeg yn fy mywyd fod hon am fod yn brofiad 5 ucha am byth ym myd gemau cyfrifiadurol.

qrhbxd5g5uif5sxyq4du

Y fath awen, y fath egni a’r fath ddeialog – y straeon di ben draw a’r cylch naratif yn eistedd yn daclus ar ben popeth. A wedyn y mecanyddiaeth: teithio ar ben ceffyl trwy byd enfawr, mwynhau ambell olygfa odidog o ben mynydd a wedyn defnyddio’n sgiliau i drechu rhyw fwystfil Arthuraidd arall (er bod y datblygwyr yn pwyso ar fytholeg trwchus Ewrop ganol, mae digonedd o weledigaeth ni’r Prydeinwyr yma, sydd yn rheswm arall i mi ddal mlaen i fy esmwythni tua’r gem). Ar ol y frwydr teithio lawr i’r pentre agosaf i bigo fyny ‘hobble’ bach (fel arfer ma rhywun angen ei achub), pryd o fwyd a gem o gardiau yn y dafran lleol. Iesgob am ddydd da!

Oes gem well na hon o 2015? Nagoes. Oes gem gwell na hon wedi ymddangos ers Resident Evil 4? Na. Oes gem well na hon? Yrm…

-f8

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s