f8 heart 2016

gan Daf Prys, Elidir Jones a Joe Hill

[Daf] Pa fath o flwyddyn fydd 2016? Mae’n edrych yn debyg o fod yn un rhyfeddol o brysur gyda pheiriant newydd unigryw Nintendo, yr NX (hanner console hanner handheld) ar y gweill a corwynt … nage, rhaeadr – angen gair mwy – SIWPERNOFA teclynnau rhithfyd (virtual reality) ar y ffordd.

Yn fuan bydd yr Oculus Rift (Facebook) yn cael ei rhyddhau am £500, hefyd y VIVE (HTC a Valve) gyda’i fanyleb uwch (ac felly siŵr o fod yn costio mwy) a Playstation VR (Sony) yn cydfynd efo’r Playstation 4, babi bach y teulu ond yn sicr o fod y rhataf o’r criw.

oculusrift

Felly blwyddyn caledwedd bydd 2016? Wel ie, a na (ystrydeb llawer Daf?): mae caledwedd yn bwysig wrth gwrs ond heb y meddalwedd dyna’r oll sydd ar ôl yw bach o plastig mewn stafell fel rhan fwyaf o’n anrhegion dros Dolig… neu Wii U Elidir. Wwwww, llosg.

Wna i ddim cymryd unrhyw gega gen rhywun sy’n berchen ar chyffing Vita.

HEI! …oce…

Ydw, dwi (Elidir) yma hefyd. Achos mae ‘na gymaint o stwff bril allan flwyddyn yma, fedrith un dyn bach ddim eu cofnodi nhw i gyd.

Deud y gwir, fedrith dau ddyn ddim chwaith – achos mae ein cohort newydd Joe Hill yma i roi ei farn o ar ambell beth hefyd! Ydach chi erioed ‘di gweld parti fel’ma ar flog Cymraeg o’r blaen? Scarcely believe.

[Joe] What-up chubnutz!

Yrm, helo Joe.

…helo Joe.

Sai’n gwybod pam nes i ddweud hwnna fel’na…

Uncharted 4 (PS4)

Pwy sydd ddim yn edrych ymlaen i brofi hon? Biwt llwyr o gem efo cymeriad canolog mae dynion eisiau bod a merched eisiau, wel, eisiau bod hefyd. Cewri’r crefftio yw Naughty Dog, tra bod eu gemau ar y cyfan yn fanwl iawn a’r profiad yn un eithaf cul o ran sut mae rhywun yn gyrru’r stori (son am yrru, gwelwch y fideo ôl-gerbyd yma), ond am sgriptio! Pob un eiliad o’r gemau yn y gyfres yn teimlo fel un tyngedfennol gan fwydo golygfeydd o fewn golygfeydd i’r gwylwyr. A’r deialog? O am ddeialog. Fi’n foi am ddeialog. Os oes ganddoch chi PS4 bydd rhaid i’r gem yma fod yn rhan o’ch bywyd. Os oes dim PS4, pawb rownd i tŷ fi!

Overwatch (PC, PS4, Xbox One)

Ydi Overwatch yn FPS? Ta’n MOBA? Dim otsh. Mae o’n gêm newydd gan Blizzard. Ac ar ôl chwarae Hearthstone yn ddi-baid am bron i ddwy flynedd bellach, dwi’n barod i Blizzard blannu mwy o’u crafangau yn fy amser sbâr. Wedi cyfnod Beta llwyddiannus ar y PC, mae’n glod i’r cwmni eu bod nhw hefyd yn llusgo Overwatch draw i gonsols hefyd. Ac er bod systemau rheoli’r PC yn bownd o fod gymaint gwell, (er bod y datblygwyr yn honni i’r gwrthwyneb) fe fydd y gynulleidfa newydd ar gonsols yn rhoi cyfle arall i Blizzard brintio arian. Achos rhwng Hearthstone, Starcraft, Diablo, Heroes Of The Storm, World Of Warcraft, a’r ffilm Warcraft sydd allan flwyddyn yma, dwi ddim yn meddwl bod ganddyn nhw cweit digon.

maxresdefault

Tom Clancy’s The Division (PC, PS4, Xbox One)

Saethu pobl? Wel wypdidw… Ffindo ysbail (loot)? Rhag y nenfwd ar ein pennau… MMO/Shooter efo gynnau a theclynnau o’r dyfodol? Hwn yn dechrau swnio fel Desti… Wedi seilio yn Efrog Newydd yn y gaeaf? ARWYDDWCH FI FYNY LLE DWI’N TALU?

Starfox Zero (Wii U)

Dydi Starfox ddim wedi bod ar ei orau ers dyddiau’r N64… ond mae’r farn gynnar am y gêm yma yn eitha positif, ac mae Nintendo o’r diwedd i’w weld yn deall be oedd yn gwneud Starfox 64 yn llwyddiannus. Arwydd da arall: roedd y gêm i fod i ddod allan dros y Dolig, ond cafodd ei ddal yn ôl er mwyn ei pherffeithio. Rŵan, os allen nhw jyst ffeindio rheswm i ladd Slippy’r llyffant…

Quantum Break (PC, Xbox One)

I sboze well i ni drafod gem egsclwsif i Xbox hefyd, erm, ma fe’n edrych yn rili dda, efo sdopio amser a rhyw sioe deledu gysylltiedig blah blah, moving on…

Swnio fel bod angen i rywun wylio ein eitem o Y Lle ar ffanboyistiaeth

Last Guardian (PS4)

Exclwsif arall i Sony, fe syfrdanodd y cwmni o Siapan bron pawb yn E3 2015 efo’r ôl-gerbyd hyn o’r cymeriad Trico a’i ffrind (peswch) cath-eryr-afraidd yn y Last Guardian. Gobeithio wedi 6 mlynedd o aros a datblygu’r gem bydd olynydd campweithiau Ico a Shadow of the Colossus yn barod o’r diwedd yn 2016.

Fiver says no show…

Dark Souls 3 (PC, PS4, Xbox One)

Dwi ddim yn edrych ymlaen at gêm arall flwyddyn yma yn fwy na hon. Ar ôl enwi Bloodborne yn gêm y flwyddyn 2015, dwi’n fwy na pharod i farw, a marw, a marw eto yn Dark Souls 3. Gyda’r cyfarwyddwr Hidetaka Miyazaki yn ôl wrth y llyw ar ôl i Dark Souls 2 siomi ambell un, ac ar ôl yr holl wersi ddysgodd o ar Bloodborne, mae’n bosib iawn mai dyma fydd y profiad Souls gorau eto. Molwch yr haul.

Take it easy Doctor Jones, pan ddath Bloodborne allan oeddet ti wedi gorffen honna cyn i fi godi fyny bwyell – ac oeddet ti ddim mewn siap da iawn yn mwydro am fwystfilod enfawr anweledig oedd yn glynu i waliau adeiladau cyfan…

Far Cry: Primal (PC, PS4, Xbox One)

Mae gen i gath, digon posib fod llawer o bobl yn gwbod hyn gan i ni trio sgwizio hi fewn i popeth fi’n neud ar sgrîn a mewn print. Nawr dychmygwch fod gen i gath tua 10 gwaith y seis, a fod dau ddant enfawr yn sdicio allan o’i cheg a fod hi’n gallu rhwygo gyddfau dynion allan mewn un cnoiad.
Meicroffon.
Ar.
Lawr.

A chditha’n berchen ar ddim byd ond bŵa saeth. Dwi’n edrych mlaen at hwn hefyd. (Dim bod gen i unrhywbeth yn erbyn cath Daf.)

2947626-fcprimal_conceptart_05_sabretooth

Yooka-Laylee (PC, PS4, Xbox One, Wii U)

Ydi Yooka-Laylee yn ripoff llwyr o Banjo-Kazooie? Ydi. Ond fel wnaeth ymgyrch Kickstarter hynod lwyddiannus y gêm brofi, mae’r byd yn barod am gêm fel’na eto o’r diwedd, ar ôl i’r genre fynd mymryn bach yn sgi-wiff efo methiannau fel Donkey Kong 64. O, ac mae rhan helaeth o dîm Banjo yn ôl hefyd. Flwyddyn yma wnawn ni bartïo fel ei bod hi’n 1998.

Total War: Warhammer (PC)

Pwy nath feddwl am y teitl yma? Er hynny beth sydd ddim i hoffi fan hyn? OK, mae’r fiasco DLC dal i frifo Creative Assembly a bydd angen rig mwy na honna yn Duel i rhedeg y gêm ond come on … Warhammer … fel gem llawn. Breuddwyd wlyb nerds lan a lawr y wlad (hynny yw, wedi pipi trôns rhag ofn fod o’n gêm wael).

(Homer drool – gyaaayarrrrghh)

WiLD (PS4)

Sori am hwnna, angen hances bach fan hyn (ar gyfer y ceg bobl!). Mae WiLD yn gem egslwsif arall (ma hyn yn dechrau mynd yn embarrassing) i’r PS4 gan Michel Ancel (gweler Rayman a Beyond Good & Evil). Fydd yn siawns i wireddu breuddwydiau trigolion Tregaron trwy chware shaman neolithig sy’n meistroli anifeiliaid megis arth, eryr a… dafad.

A cathod masif efo dannedd masif a cynffon masif? Huh? Ie? Gwed wrthai dammit!

Doom (PC, PS4, Xbox One)

Saethu saethu saethu, hwyl hwyl hwyl. Nuff said.

Hei, Elidir, ma 1993 yn galw (teehee). (heh) Ma nhw (hihi) eisiau gem nhw nol (hahahahahaha).

Hei, Daf, ma 2005 yn galw, ma nhw eisiau joc nhw nol am pethau o’r gorffenol oedd arfer bod yn cwl ond nawr ddim yn.

Hei Daf, mae comedi yn galw, ma nhw eisiau i ti stopio siarad efo ti dy hun yn neud jocs meta crap.

Sori bobl mae na broblem bach efo Daf. Nawn ni drio drwsio fo yn y man.

Mirror’s Edge: Catalyst (PC, PS4, Xbox One)

Ar gyfer yr hipsters yn ein mysg, roedd y gêm cynta yn enwog am fod yn un o’r teitlau ‘na oedd yn dda gan nad oedd neb llawer wedi chwarae’r peth ac yn denu statws cwlt.

Roedd o’n dda. Ac os allen nhw gael gwared o’r system ymladd cwbwl uffernol, dwi’m yn gweld pam na ellith hwn fod gymaint gwell.

Unravel (PC, PS4, Xbox One)

Gêm blatfform 2D am ddyn bach wedi ei wneud o wlân (o’r enw “Yarny”) yn mynd ar antur. Fe fydd ‘na ddagrau.

Oooooooowwwww (translation i’r Saeson: Awwwwwwwwwww). CIWT!

No Man’s Sky (PS4)

Ein galaeth. Yr holl blincin peth. Gyd mewn un gem. Enwi planedau ‘da chi’n dod ar draws (caillfyd, pidleneia, cwdfawr), dod o hyd i fywyd newydd a’i, yrm, enwi nhw (bwbgron, drewdwll, gwylltferch…

Ydi, mae No Man’s Sky yn edrych yn chwyldroadol. Ond ‘da ni dal ddim cweit yn siŵr be yn union fyddwch chi’n treulio’ch amser yn ei wneud, oni bai am faglu o gwmpas y bydysawd. Ac wrth gwrs, roedden ni hefyd wedi cyffroi am No Man’s Sky flwyddyn diwetha

… llondtrons, mwdlwasgwyr, sdaenwyn…)

A egzglwsiv arall i PS4!

Sssssssshhhhhhh!

Cuphead (PC, Xbox One)

Ella’r un gêm sy’n fwy ciwt nac Unravel? Gêm blatfform 2D arall, wedi ei hanimeiddio efo llaw yn gyfangwbwl, ac yn edrych fel clasur Disney coll o’r 30au. Hyd yn oed ar ôl gwylio’r trelyr sawl gwaith, dwi dal ddim cweit yn coelio bod gêm mor brydferth yn bodoli.

ciwt. Ciwt. CIwt. CIWt. CIWT. CIWT!!!! EXPLODE

cuphead-flower1

Sea of Thieves (Xbox One)

Dyna gyd fi erioed wedi eisiau bod yw môr leidr: iechyd uffernol, rhyw achlysurol efo dynion heb ddanedd a loads a loads o rym. A dyma ni, stiwdio enwog Rare o’r diwedd yn cael y cyfle i greu rhywbeth nad sy’n rhan o dashboard yr Xbox. Ai dyma’r gem fydd yn gorfodi Daf (yrm, fi) i brynu Xbox One? Cawn weld.

Don’t do it Daf. Aros efo ni Daf, look into my eyes…

Bravely Second: End Layer (3DS)

Y deinosor yn y stafell i ddechra: ia, dyna’r enw mwya stiwpid ar gêm erioed. Ond roedd Bravely Default wedi cicio genre blinedig y JRPG i mewn i ryw fath o siâp eto (medden nhw – mae ‘nghopi i’n dal i ista ar y silff ers misoedd). Mae’r ail yn y gyfres yn siŵr o wneud yr un peth, ac am rhoi rheswm i fi gyfiawnhau prynu’r 3DS sgleiniog newydd ‘na…

Dishonored 2 (PC, PS4, Xbox One)

Bydd ail antur Corvo Attano yn fwy o’r gymysgedd ffantastig o stealth a phwerau lledrith mewn byd steampunk. Tro yma, cawn hefyd cymryd rhan Emily Kaldwin sydd â phwerau gwahanol ac yn siawns arall am gymeriad cryf benywaidd.

Superhot (PC, Xbox One)

Fi methu hyd yn oed disgrifio hwn. FPS sydd ond yn rhedeg pan ti’n symud. Y cyflyma ti’n symud y cyflyma mae amser yn symud yn ei flaen? Ydy hwnna neud sens? Na? Wel be chi’n feddwl ma YouTube yn dda ar gyfer de? Go, whisht, gogit!

The Legend of Zelda (Wii U)

Pryd, o pryd, ddeith y gêm yma allan? Pryd gawn ni fwy o wybodaeth amdani? Ac a fydd Link yn gwneud ei ymddangosiad nesaf ar y Wii U o gwbwl, ta fydd o’n neidio’n syth at yr NX? Ta waeth am hyn i gyd, pan fydd The Legend Of Zelda: Harp Of The Albatross (neu be bynnag ydi’r teitl) allan o’r diwedd, fyddwch chi ddim yn gallu fy reslo i ffwrdd o’r sgrîn. Mae’n swnio fel bod Nintendo isio mynd yn ôl i sylfaen y gyfres, a thrio ail-greu be oedd yn gwneud y gêm Zelda cynta ar y NES mor arbennig i ddechrau. Ac mae hynny’n rhywbeth i’w ddathlu.

Harp of the Albatross, ha ha ha, o da ‘wan. Aros, dim dyna enw go iawn y peth, na?

Battlefield 5 (PC, PS4, Xbox One)

Dwi’n cal ffantasis am Battlefield. Ydw, wir. Ffantasis tanciau a hofrennyddion a grenades ac ac ac ac a phopeth erchyll milwrol fel’na. Ma’n iawn os mae mewn gem siwr? Ond dwi’n casau Star Wars Battlefront am gymryd slot Battlefield newydd yn 2015. Ych, sawl cawod neith o gymryd i gal y sdinc oddi arnai? 12 parsec siwr o fod (fi ddim hyd yn oed yn deall y joc yma). Sdim manylion am hon nunlle ond plis plis plis gawn ni gêm Battlefield flwyddyn yma os gwelwch yn dda duwiau y gemau? Un go iawn heb jetpacs a sdwff gwirion fel’na.

Mass Effect Andromeda (PC, PS4, Xbox One)

Eto, mae ‘na gymaint o gwestiynau am hon. Be ydi’r stori? Sut mae’n ffitio dros seiliau Mass Effect 1 – 3? ‘Da ni ddim hyd yn oed wedi gweld y gêm yn rhedeg eto. Ond anaml iawn mae Bioware erioed wedi rhoi troed o’i le. Ac ar ben hynny, mae ambell un o griw f8 o’r farn mai byd Mass Effect ydi byd ffug-wyddonol gorau erioed. Ia, hyd yn oed yn well nac un Space PrecinctFedrwn ni ddim disgwyl i wneud ein ffordd o’i gwmpas unwaith eto.

God fi’n edrych mlaen am hwn – plis glania yn 2016.

Horizon: Zero Dawn (PS4)

Eggs clue sieve arall dagnabbit. Ma gan Elidir theori taw hon yw flwyddyn y bŵa saeth. Ma fe’n anghywir wrth gwrs ond dyma un gem fydd yn defnyddio’r mecanwaith. Yn y dyfodol pell ‘da ni gyd yn hipis yn byw mewn ogofâu (efallai taw dim hipis ydy nhw te, jysd pobl efo gwallt brwnt) yn hela … sut gallai ddweud hwn … robots megis deinasors enfawr. Mae sawl cwestiwn penodol yn deillio o’r senario yma ond dwi am ddweud SHUT UP! a gadewch i mi hela deinasors robotaidd efo bŵa saeth.

Reit. Horizon: Zero Dawn. Wild. Far Cry Primal. Ac mae pawb yn gwybod mai’r unig ffordd o chwarae Rise Of The Tomb Raider (hefyd allan ar y PC a’r PS4 flwyddyn yma) ydi sleifio o gwmpas y lle efo bŵa saeth. Dwi’n iawn eto, Prys. (wawi, 3 gem… grymbl grymbl)

A… dyna ni. Os nad oes ‘na gêm arall gyffrous yn llechu rhywle o dan y soffa ‘ma…

Aros! Wedi ffindio un!

…Jeez Louise…

Deus Ex: Mankind Divided (PC, PS4, Xbox One)

5 blwyddyn yn union ers Deus Ex: Human Revolution, bydd Mankind Divided yn cyrraedd Awst 2016. Bydd Adam Jensen efo hyd yn oed mwy o ddewisiadau wahanol i daclo sefyllfaoedd anodd, a gobeithio tro hyn fydd boss battles gwell.

Reit, iawn oce? Dyna ni? Whiw. Mae hwnna’n loo gemau. A cofiwch, fel arfer ar ddiwedd y flwyddyn mae danteithion go-iawn y flwyddyn eto i’w datgelu. Yr amser yma flwyddyn diwetha, er enghraifft, doedden ni ddim yn gwybod am fodolaeth gêm fach o’r enw Fallout 4.

Mae’n mynd i fod yn brysur rownd ffor’ma. Sticiwch efo ni.

– f8

3 comments

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s