gan Elidir Jones
Yn ein rhagflas mawreddog o’r flwyddyn i ddod, wnaethon ni rywsut glosio dros y newyddion mwya i daro byd y gemau ers… wel, erioed, o bosib. Roedd o unwaith yn ddim byd ond breuddwyd gwallgo mewn ffilmiau hynod o boblogaidd fel Tron Legacy a Johnny Mnemonic, ond bellach mae’r dyfodol bron yma go-iawn. Mae VR ar y ffordd.
Gyda chefnogaeth sylweddol Facebook y tu ôl iddo, fe fydd yr Oculus Rift yn ein taro ni tua mis Ebrill, ac ar werth am bris rhad. Wel… rhad os mai’ch enw chi ydi Donald Trump neu Rhodri Ogwen. £500 fydd y pris, ac ar ben hynny, mae’n rhaid i chi fod yn berchen ar gyfrifiadur eitha sbeshal er mwyn medru ei redeg. Fedrwch chi weld ydi’ch PC chi yn ddigon da draw ar wefan Oculus, ond – spoilers: dydi o ddim.
A wedyn dyna’r Vive gan HTC. Ferrari y rhithfyd, hyd yn oed yn fwy swanci na’r Rift. Fydd y Vive allan tua’r un pryd, a does ‘na ddim newyddion am y pris yma ym Mhrydain eto, ond draw yn America ‘da chi’n edrych ar orfod estyn $799 o gefn y soffa. Efo’r un costau i wella’ch cyfrifiadur ar ben hynny. Ond am y pris yna, ‘da chi’n cael bob math o drugareddau sy’n troi eich stafell fyw i mewn i’r holodeck o Star Trek. Wele.
Dwi’n meddwl bod ‘na gwpwl o bethau allwn ni ddweud yn sicr am dechnoleg VR.
1) Mae’n mynd i newid popeth. A dim o ran gemau’n unig, wrth gwrs. Fydd o’n newid, yn y man, sut ‘da ni’n gwylio ffilmiau a theledu, siarad efo ffrindiau, a gwneud ymarfer corff. Fyddwn ni’n medru “ymweld” â llefydd hanner ffordd ar draws y byd heb godi o’n soffas. Pan ‘da chi wir yn eistedd i lawr a meddwl am y peth, mae’n syfrdanol be allwn ni wneud efo’r dechnoleg yma. Ond…
2) Fe fydd y rhai sy’n prynu’r holl stwff ‘ma ar y diwrnod cynta fwy na thebyg am gael eu siomi. Ar ben yr holl bryderon sy’n dal i fod am y dechnoleg, a’r ffaith bod setiau VR y dyfodol yn debyg iawn o wneud i’r rhai cynnar ‘ma edrych fel rybish llwyr, dwi’n meddwl bod hi’n deg dweud bod ‘na ddim un killer app ar gael eto. I ddefnyddio enghreifftiau o fyd y gemau, does ‘na ddim Super Mario 64 neu Wii Sports sy’n crisialu’r holl brofiad. Mae ‘na gemau fel Elite Dangerous a System Shock 3 sy’n debyg o fod yn llawer gwell mewn VR, ond mae nhw ar gael i’w chwarae ar y PC beth bynnag. O ran gemau sydd wedi eu dylunio’n arbennig ar gyfer y dechnoleg newydd ‘ma… wel, profiadau ydyn nhw, deud y gwir, yn fwy na gemau llawn. Fydden nhw’n rhoi’r cyfle i chi wneud pethau fel dringo creigiau neu gerdded ymysg deinosoriaid. Neis iawn, ond fydd o’n ddigon i gyfiawnhau’r pris ‘na? Dwi ddim yn siŵr.
Ond wedyn dyna’r x-ffactor yn hyn i gyd: Playstation VR. Hyd yn hyn, ychydig iawn ‘da ni’n ei wybod am y set yma. ‘Da ni ddim yn siŵr o’r dyddiad rhyddhau, nac o’r pris – ond gan bod y dechnoleg ddim cweit yn cyrraedd lefelau’r Oculus Rift mewn sawl ffordd, dwi’n meddwl ei bod hi’n deg dweud fydd y gost ddim yn cyrraedd yr uchelfannau yna chwaith. Gwir, dyma’r un cwmni wnaeth lawnsio’r PS3 am £425, ond dwi ddim yn meddwl wneith Sony yr un camgymeriad eto.
A’r fantais anferth sydd gan Playstation VR, wrth gwrs, ydi bod dim angen tincro efo’ch system i wneud yn siŵr bod y peth yn gweithio. Mae popeth ‘da chi ei angen i’w redeg wedi ei gynnwys yn y bocs – ac mae ‘na bron i 40 miliwn o PS4s wedi eu prynu’n barod, sy’n nifer syfrdanol. Dyma yn sicr fydd y ffordd mwya hawdd o brofi VR eich hun, er na fydd y profiad yr un mor slic â be gewch chi ar gyfrifiadur.
Er bod Sony wedi bod yn weddol dawel amdano hyd yn hyn, mae’n bosib iawn y bydd Playstation VR yn curo’r frwydr gynta yn y rhyfel y rhithfyd. Fel bois sy’n fwy tueddol o chwarae ar gonsol na PC beth bynnag, dyma’r un ‘da ni yn f8 HQ yn cyffroi drosto yn sicr.
Be amdanoch chi? ‘Da chi wedi gwario’ch holl gynilion ar gael eich cyfrifiadur yn barod? Yn y farchnad ar gyfer profiad dipyn rhatach? Ta’n bwriadu aros yn glir o’r holl beth rhag ofn bod y rhithfyd yn toddi’ch ymennydd neu’n gwneud i’ch lygaid ffrwydro allan o’ch pen neu be bynnag? Rhowch wybod isod. Os ‘da chi hyd yn oed yn boddran efo’r byd yma bellach.
Os oeddwn i’n medru fforddio unrhyw un o’r ‘headsets’ VR, fyddwn i ddal yn osgoi’r pethau am y tro. Does dim digon yna i warantu’r price tag eithafol. Yr unig peth sy’n apelio ydir gêm EVE:Valkyrie, a’r unig rheswm i hynny yw fy obsesiwn â’r gêm mae’n seiliedig arni, EVE Online. Ta waeth, mae’n cyffrous i weld y technoleg yn datblygu!
Fe gymrodd hi ryw 2 eiliad ar ôl rhoi’r HTC Vive ymlaen i fi wneud fy meddwl i fyny bod rhaid i fi gael un. Mae’r dyfodol yma bois!!