Gadael Fynd

gan Elidir Jones

Mae’n rhaid i fi fod yn onest a chyfadde ‘mod i ddim wedi bod yn mwynhau gemau lot yn ddiweddar. Sydd yn dipyn o broblem i rhywun sy’n sgwennu i wefan fel hyn.

A’r rheswm pam? Wel, mae o i gyd yn dod yn ôl at y darn yma wnes i sgwennu bron i flwyddyn yn ôl. Am tua pum mlynedd bellach, dwi wedi bod yn gaeth i restr hir o gemau wedi hanner-gorffen a heb eu dechrau. Tra’i bod hi’n wir bod y rhestr yna wedi mynd yn lot llai yn ddiweddar, mae’n deg dweud ei fod o’n dal i daflu cysgod dros bopeth arall.

Dydw i ddim wedi bod isio deifio i mewn i’r blockbuster AAA diweddara oherwydd bod y copi ‘na o The Witcher dal ar ei hanner. Do’n i ddim hyd yn oed isio chwarae stwff mwy diddorol – a byrrach – byd y gemau annibynnol, rhag ofn i fi anghofio bod Fire Emblem Awakening yn dal i eistedd yn drist ar y silff.

Mae’n swnio fel problem reit fach. A mae o, wrth gwrs. Ond roedd hyn wedi dechrau effeithio yn ehangach ar fy mywyd. Chwarae gemau ydi fy hoff beth i wneud i ymlacio ar ddiwedd y dydd – a dros y wythnosau diwetha, prin ro’n i’n gwneud o gwbwl. Roeddwn i’n dechrau meddwl am daclo’r rhestr, penderfynu peidio, a neidio ar Youtube neu Twitch yn hytrach na gwneud rhywbeth o werth.

Ydw, dwi’n cyfri chwarae gemau fel “gwneud rhywbeth o werth”. Wna ddim oedi i gysidro be mae hynny’n ei ddweud am fy mywyd.

Beth bynnag, roedd yr holl beth yn fy ngwneud i hyd yn oed yn fwy swta a sarrug nac arfer. Sy’n dipyn o beth.

Y diwrnod o’r blaen, es i am dro bach ganol y diwrnod, fel dwi’n hoff o wneud. Ro’n i’n meddwl am y gwaith i ddod y prynhawn hwnnw, a hefyd yn trio penderfynu pa gemau i chwarae wedi hynny. Roedd y dewis rhwng y fersiwn HD o Turok: Dinosaur Hunter (fersiwn mymryn yn fwy sgleiniog o hen gêm sydd ddim wedi dyddio’n dda iawn) a Xenoblade Chronicles X (RPG enfawr ar y Wii U sydd yn dda mewn mannau, ond yn mynd ymlaen yn lot rhy hir). Do’n i ddim ar dân isio chwarae’r un ohonyn nhw.

A wedyn ges i syniad chwyldroadol. Fyddwn i ddim yn eu gorffen nhw o gwbwl. Fyswn i’n eu rhoi nhw i un ochr, a jyst… symud ymlaen. Ella bod hyn yn swnio fel syniad syml iawn, ond do’n i wir ddim wedi ei gysidro’n llawn o’r blaen. Mae gen i dipyn bach o OCD yn fy mhersonoliaeth, dwi’n meddwl – dwi’n cael cathod bach, er enghraifft, pan dydi fy DVDs ddim yn nhrefn yr wyddor. Dim dyma’r math o beth dwi’n ei wneud, fel rheol.

maxresdefault (1)

Ond erbyn i fi gyrraedd adre, roedd fy meddwl i’n llawn posibiliadau. Fyddwn i ddim yn anghofio am y gemau ‘ma – dim ond yn eu cadw nhw ar gyfer diwrnod glawiog. Ac fe fyddai’r rhyddid newydd ‘na’n rhoi cyfle i fi drio gymaint o bethau newydd, ac yn gadael i fi ddal i fyny efo’r holl gemau diweddar heb deimlad annifyr o euogrwydd yn cnoi gwaelod fy stumog o hyd.

Y noson yna, ges i ffansi chwarae’r clasur modern Bastion am y tro cynta. Ar ôl hynny, wnes i symud mlaen at Grow Home, gêm annibynnol o flwyddyn diwetha wnes i ei anwybyddu’n llwyr. Ac yna wnes i neidio mewn i Far Cry Primal. Gêm anferth – a ro’n i’n teimlo’n rhydd i grwydro bob modfedd. Teimlad anhygoel.

Disgwyliwch adolygiad fideo yn fuan, gyda llaw.

Mae’r newid wedi bod yn syfrdanol, deud y gwir. Dwi’n meddwl bod yr amser ymlacio ‘na ar ddiwedd y diwrnod wedi gwella fy ngwaith, a dwi hefyd yn teimlo’n hapusach yn gyffredinol. Dwi hyd yn oed wedi meddwl am ychydig o syniadau newydd ar gyfer Fideo Wyth, fyddwch chi’n falch o wybod. Mae’n syndod sut mae un newid bach yn gallu mynd yn bell iawn, iawn.

Mae ‘na ddigon o stwff newydd allan i ‘nghadw i’n brysur dros y wythnosau nesa, ond wedi hynny, mae unrhywbeth yn bosib. Ella wna i ddysgu sut i chwarae Civilization o’r diwedd, neu Starcraft 2. Ella wna i glirio dipyn ar y pentwr o hen gemau Star Wars D&D dwi wedi eu casglu dros y blynyddoedd. Neu ella wna i jyst chwarae Earthbound am y degfed tro, neu suddo mwy o amser i mewn i Hearthstone.

Oes ‘na neges i hyn i gyd? Nag oes, mae’n debyg. Fyswn i’n gallu mwydro am pa mor bwysig ydi hi i fyw yn y presennol yn hytrach na chanolbwyntio ar y gorffennol o hyd, ond mae hwnna’n swnio dipyn bach rhy Clinton Cards. Dwi jyst ddim wedi teimlo mor dda am gemau ers sbel, ac isio rhannu’r peth. Dwi’n bwriadu gwneud y gorau o’r sefyllfa.

Rŵan ta. I droi at y pentwr ‘na o lyfrau wrth ochr y gwely…

One comment

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s