gan Elidir Jones
Wel. Mae hi wedi bod yn sbel ers i fi wneud un o rhein.
Fel fyddwch chi’n gwybod os ‘da chi’n ddilynwr brwd, wnes i weipio’r llechen yn lân yn ddiweddar, stopio poeni am y rhestr llethol o hen gemau roedd gen i, a chychwyn eto. Fedrwch chi ddarllen am yr holl beth fan hyn.
Dyma ni, felly, y gemau cynta i fi chwarae ar ôl ennill fy rhyddid o’r pile of shame. Dydyn nhw ddim yn rhy ffôl chwaith. Weithiau, mae bywyd yn dda.
Bastion (PC / PS4 / Xbox 360 / iOS / Vita, 2011)
Wnes i dreulio noson ar ôl clirio’r holl hen gemau ‘na allan o’r ffordd yn ymchwilio i be ddylswn i droi ato fo nesa. Ro’n i isio rhywbeth indie, byr, do’n i ddim yn gwybod llawer amdano’n barod. A wnes i setlo ar Bastion.
Dyma gêm chwarae rôl, o fath, efo pwyslais cryf ar y brwydro, efo dewis eithriadol o eang o arfau ar gael – a dewis hyd yn oed yn fwy eang o ffyrdd o’u haddasu nhw. Fel rhywbeth i glirio’r palate, roedd Bastion yn gweithio’n grêt. Mae’n edrych yn hyfryd, ond hefyd mae’r gwaith sain a’r ysgrifennu yn benigamp. Mae’ch holl weithredoedd yn y gêm yn cael ei hadrodd gan hen ddyn efo llais cras sy’n eu cynnwys yn stori’r peth. Os ‘da chi’n neidio oddi ar glogwyn mewn camgymeriad (fel wnes i sawl tro), fydd hynny’n cael eu gynnwys yn y naratif, a hynny mewn ffordd eithriadol o ddigri. Dim rheswm i unrhywun beidio chwarae hwn, gan fod Bastion bellach ar gael ar amrywiaeth eang o systemau.
Roedd o’n gwneud i fi fod isio mynd ar ôl mwy o gemau gan y datblygwyr, Supergiant Games. Mae Pyre allan ganddyn nhw flwyddyn nesa, ac wrth gwrs, fe wnaeth ein Daf ni adolygu Transistor sbel yn ôl. Cwmni i gadw golwg arnyn nhw, yn sicr.
Grow Home (PC / PS4, 2015)
Gêm fach od ddaeth allan flwyddyn diwetha ges i ddim amser i’w chwarae. Tan rŵan.
Yn Grow Home, ‘da chi’n chwarae rhan robot bach sy’n cael ei ddympio ar blaned ac yn gorfod tyfu planhigyn enfawr i’r gofod er mwyn mynd yn ôl at ei long, gan grwydro amryw o ynysoedd yn arnofio yn yr awyr ar hyd y daith.
Mae’n gêm sy’n gyfareddol iawn, efo rhai o’r golygfeydd wrth i ni ddringo planhigyn cannoedd o droedfeddi uwch y llawr yn wirioneddol aruthrol. Cwpwl o oriau gymrith hi i chi wneud eich ffordd drwy’r prif gêm, er bod ‘na amryw o bethau ychwanegol i’w casglu ar hyd y daith. Yr unig reswm wnes i ddim gwneud hynny ydi bod y broses o ddringo – sy’n ran eitha canolog o’r gêm, wedi’r cwbwl – yn eitha llafurus ar adegau, a ddim hanner mor hwyl ag y dylsa fo fod. Sy’n dipyn o broblem.
Ond dyna ni. Mae’n werth eich hamser chi, beth bynnag, os oes ganddoch chi bnawn rhydd rhywdro.
Far Cry Primal (PC / PS4 / Xbox One, 2016)
Dim rhaid i fi sôn am hwn, nag oes? ‘Da chi gyd ‘di gwylio’r fideo, do?
DO?
Tom Clancy’s The Division (PC / PS4 / Xbox One, 2016)
‘Da ni wedi trafod The Division eitha dipyn ar f8, o’r golwg cynnar yma, i’r sylwadau gwasgarog fan hyn, i’r smorgasbord yma o nonsens ar Y Lle…
Dim llawr i’w adio, deud y gwir. Dwi’n mynd i drio cael cyfle i neidio nôl rwydro, er mwyn fy mharatoi fy hun at yr holl gynnwys ychwanegol sydd ar y ffordd. Ond mae ‘na gymaint arall i wneud, does? O, gwae.
Dark Souls 3 (PC / PS4 / Xbox One, 2016)
Fideo arall? Ia, go on ta.
Mae edrych ar y fideo ‘ma yn gwneud i fi fod isio chwarae Dark Souls 3 eto. Ac mi wna i. Ond dim rŵan. Dwi isio gadael i ddigon o amser basio gynta.
…
OK. Ella rŵan.
Salt And Sanctuary (PS4, 2016)
Ond mae gen i un gêm arall i’w thrafod gynta, does? Ochenaid.
A gobeithio dydych chi ddim wedi cael digon o Dark Souls eto, achos mae Salt And Sanctuary yn ripoff llwyr o’r gyfres yna, ond ar ffurf gêm 2D yn steil Metroid neu Castlevania. Ac mae’n cymryd pleser yn y peth. Fel Lords Of The Fallen, wnes i chwarae chydig fisoedd yn ôl, dydi o ddim yn cuddio’r ffaith bod o wedi dwyn fformiwla Dark Souls yn llwyr, efo un neu ddau o ychwanegiadau bach neis. Ond yn wahanol i Lords Of The Fallen, mae o’n wirioneddol dda.
Y peth grêt am y gêm ydi ei fod yn ddigon caled i roi sialens go-iawn, ond ddim yn dod yn agos at ddarnau anodda’r gyfres Souls. Mae’r gwaith celf yn hyfryd (er braidd yn dywyll ar adegau), ‘da chi’n cael gêm llawn o tua 20 awr o hyd am bris rhad, ac mae ‘na ddigon i’w wneud ar ôl gorffen. Yr unig broblem weddol sylweddol ydi ei bod hi’n hawdd iawn, iawn mynd ar goll. Wnes i dreulio oriau yn crwydro rownd, ddim yn siŵr lle i fynd nesa. Ac mae bywyd yn rhy fyr. Ond os allwch chi faddau hynny, mae o’n brofiad a hanner. Allan ar y PS4 rŵan, a’r PC a’r Vita yn fuan.