Gemau Diweddar, Rhan 11

gan Elidir Jones

Mae hi wedi bod yn sbel ers i mi redeg drwy’r gemau diweddara i mi eu chwarae. Dwi wedi dechrau lot fawr iawn ohonyn nhw, ond wedi symud ymlaen at rhywbeth arall yn amlach na pheidio. Ddo i nôl atyn nhw yn y man.

Dyma ni’r gemau wnaeth ddim dianc o fy rhwyd i…

Monument Valley (iOS / Android / Windows Phone, 2014)

Wnaethon ni drafod Monument Valley gynta nôl yn nyddiau cynnar y safle, ar ein trip i Sioe Gemau Cymru. Wnes i rywsut anghofio chwarae’r gêm ers hynny, tan cael fy atgoffa i wneud gan ffrind – sydd ddim yn chwarae gemau o gwbwl, gyda llaw – oedd wedi disgyn mewn cariad â’r profiad. Does dim argymhelliad gwell na hynny, sbo.

Fedra i weld pam bod Monument Valley yn apelio ato fo. Rhwng un a dwy awr mae’r holl beth yn ei gymryd i’w orffen, does ‘na ddim marwolaethau, ac mae’n fwy tebyg o’ch ymlacio chi na’ch gyrru i daflu’r ffôn yn erbyn y wal. Ar ben hyn i gyd, mae’n ticlo rhannau o’r ymennydd sydd ddim yn cael eu cyffwrdd gan gemau eraill, wrth i chi drio lapio’ch meddwl o gwmpas y lefelau sydd wedi eu rhwygo’n syth o waith M.C. Escher. Ddim yn gêm sy’n debyg o achosi obsesiwn, ond mae’n gyflwyniad da iawn i gemau ar ffôn neu dabled – ac i gemau yn gyffredinol, yn amlwg – os ‘da chi angen un.

Lords Of The Fallen (PC / PS4 / Xbox One, 2014)

Dwi’n cyfri’r dyddiau tan Dark Souls 3 ar Ebrill 12fed. Felly heb unrhyw gemau Souls newydd i’w chwarae yn y cyfamser, wnes i fynd i chwilio am gemau tebyg. A pan dwi’n deud “tebyg”… wel, “ripoffs llwyr” dwi’n ei feddwl mewn gwirionedd. Croeso i fyd Lords Of The Fallen.

lordsofthefallen

Dwi ddim yn cwyno am hyn o gwbwl, cofiwch. Ripoff o’n i angen. A tra bod Lords Of The Fallen yn pasio’r amser, ac yn werth y pris rhad wnes i dalu, dydi o ddim yn dod yn agos at y gyfres Souls. Does ‘na ddim chwarter gymaint o atmosffer. Mae’r stori’n gliriach, mewn ffordd, ond mae gan naratif dryslyd a gwallgo Souls gymaint mwy o apêl, rhywsut. Ac yn bwysicach na phopeth, dydi Lords Of The Fallen ddim yn teimlo mor dda i chwarae. Mae’ch cymeriad yn symud yn annifyr o ara deg, sydd ddim yn gwneud ymladd yn hwyl iawn. Y rhan fwya o’r amser, do’n i ddim angen gwneud unrhywbeth i guro’r bosys oni bai am guddio yng nghornel y stafell yn taflu peli tân atyn nhw am ryw chwarter awr. Oes ‘na unrhywbeth llai Souls-aidd na hynny?

Eto, dwi’n hoff o’r syniad bod mwy o gemau fel’ma yn bodoli. Ac os na wnaeth y gêm lot fawr iawn o argraff arna i, dwi yn edrych ymlaen at weld sut mae Lords Of The Fallen 2 am wella’r fformiwla flwyddyn nesa, o leia.

Metro 2033 (PC / PS4 / Xbox One / Xbox 360, 2010)

Metro: Last Light (PC / PS4 / Xbox One / PS3 / Xbox 360, 2013)

Mae’r gemau Metro ar gael mewn un pecyn, Metro Redux, ar y genhedlaeth newydd o gonsols – ac yn eithriadol o rhad erbyn hyn. Pwy all wrthod y gwahoddiad i gymryd trip i’r hen dwneli trên o dan Rwsia ôl-apocalyptaidd sy’n llawn bwystfilod? Hyfryd.

Ro’n i yn hoff o’r pecyn yma. Y peth mwya clên fedra i ddweud am Metro ydi ei fod yn teimlo, ar adegau, fel Half-Life mwy brawychus – mae’r un teimlad yma o fod yn styc ar siwrne hunllefus fedrwch chi ddim dianc ohoni. Ac er bod ychydig o’r actio fymryn yn wael, mae ‘na rannau o’r stori sydd hefyd yn cydio. Dim bod o’n briliant, ond fysech chi’n disgwyl ryw fath o stori ddealladwy, o leia, a chysidro bod y gemau wedi eu seilio ar gyfres o nofelau.

Fedra i ddim gweld llawer o fai ar Metro. Ond ro’n i hefyd wedi diflasu eitha dipyn ar adegau wrth chwarae. Dwi’n meddwl bod hynny’n dweud mwy amdana i na’r gemau – dwi ddim yn cael fy nghyffroi llawer gan gemau FPS dim mwy. Dwi angen mwy i gadw fy sylw i bellach na boi mawr efo gwn yn saethu bwystfilod. Dwi’n tyfu i fyny, yn amlwg. Ond os ‘da chi’n hoff o’r math yma o beth, fedrwch chi ddim mynd yn bell o’i le fan hyn.

Unravel (PC / PS4 / Xbox One, 2016)

Os fethoch chi fi’n adolygu hwn wythnos diwetha, wnaethoch chi fethu’r fideo mwya ciwt erioed. Gwnewch banad ac ymlaciwch. ‘Da chi’n ei haeddu o.

Firewatch (PC / PS4, 2016)

Bosib iawn y bydd Daf yn treulio dipyn o amser yn trafod Firewatch. Fedrwch chi hyd yn oed ei wylio’n dechrau chwarae’r gêm fan hyn. Wna i ddim camu gormod ar fodiau ei draed… er y byswn i’n gallu siarad am Firewatch am oriau, dwi’n meddwl.

Dwi ddim isio sbwylio unrhywbeth i chi. Es i mewn i’r profiad yn gwybod y nesa peth i ddim am y gêm. Ro’n i’n gwybod eich bod chi’n chwarae fel dyn sy’n gweithio ym mharc Yellowstone yn trio amddiffyn y lle rhag tanau… a dyna ni. Dim ond cwpwl o betha wna i sôn amdanyn nhw…

1) Dydi hi ddim yn cymryd unrhyw sgil i chwarae’r gêm. Fel Monument Valley, mae’n gyflwyniad da i gemau yn gyffredinol, ac yn fwy fel ffilm ryngweithiol nac unrhywbeth arall. Fedrith unrhywun sy’n berchen ar PC hanner-call ei fwynhau. Ac fe ddylien nhw, achos…

2) Mae Firewatch yn briliant. Hollol, hollol briliant. Mae’n orffwysol iawn ar y cychwyn, ac yn mynd yn fwy ac yn fwy sinistr wrth fynd ymlaen, tra’n ffitio dwy stori gariad hynod effeithiol i mewn hefyd. Mae ‘na ffilmiau wedi eu henwebu am Oscar flwyddyn yma sy’n edrych yn amaturaidd mewn cymhariaeth. Dwi’n meddwl y bydd hon yn agos iawn at dop ein rhestr o gemau’r flwyddyn…

3 comments

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s