Hanner Y Dwylo, Dwywaith Yr Hwyl

gan Elidir Jones

Ges i ddamwain yn ddiweddar. Achos dydi anrhegion 2016 jyst ddim yn stopio. Heb fynd i ormod o fanylion gwaedlyd, mae fy ysgwydd wedi ei daflu o’i lle ac mewn sling am fis ar ôl i fi lithro tra’n dringo i mewn i wely bync.

Ia, dyna’r ddamwain lleia roc a rôl erioed. Caewch hi.

Diolch byth, dydi chwarae gemau ddim yn ormod o broblem. Ond be os dwi angen rhoi dipyn bach mwy o rest i’r ysgwydd ar ôl – dwi’m yn gwbod – sgwennu gormod o erthyglau top-notch, fan hyn ar fideowyth.com?

Heb fwy o reswm na hynny, dyma restr o bump gêm allwch chi eu chwarae efo un llaw. Efallai’r peth mwya di-bwynt i ni ei gyhoeddi yma erioed.

A hei, os ydi un o’r rhain yn apelio, dwi’n siŵr y gallwch chi ddod o hyd iddyn nhw’n ail-law.

AIL-LAW. Dallt? Ha ha ha!

O diar. Dwi’n meddwl bod y lladdwyr poen ‘na’n dechra cicio fewn eto.

Wii Sports

Mae Wii Sports yn cael eitha dipyn o flak erbyn hyn. Ac mae’n ddigon gwir mai dim hon ydi’r gêm ddyfna erioed. Ond fe roddodd Wii Sports (a’r ail gêm, Wii Sports Resort) gymaint o hwyl i fi yn y coleg, wrth i’n criw ni o ffrindiau gasglu o gwmpas y Wii yng nghanol parti, neu ar ddyddiau Sul diog, a gwneud hwyl am ben ein gilydd am fethu bowlio’n syth mewn gêm fideo.

Digon gwir, allwch chi ddim chwarae’r gêm focsio efo un llaw. Ond doedd neb yn hoff o’r gêm focsio beth bynnag. Mae bowlio, tenis, pêl-fas a golff i gyd yn berffaith bosib. Jyst bod angen i fi wylio’r swing golff ‘na, rhag ofn i’r ysgwydd lithro o’i lle eto. Fysa hwnna wir yn anaf hyd yn oed mwy pathetic na’r un sydd gen i’n barod.

Micro Machines

microm2

Nôl yn y dydd, doedd hi ddim yn hawdd iawn chwarae efo pedwar chwaraewr ar yr un pryd. Doedd y we ddim wedi tyfu i fod yn fonolith briliant / dychrynllyd fel mae o heddiw, a dim ond dau slot ar gyfer rheolyddion oedd gan y rhan fwyaf o gonsols. Achos yn yr 80au a’r 90au, dim ond un ffrind oedd gan bobol, ar gyfartaledd.

Camwch yn eich blaen, Micro Machines. Yn y gyfres o gemau rasio eiconig yma, efo llwyth o gerbydau bach – yn seiliedig ar y teganau, wrth gwrs – yn gwibio ar hyd y bwrdd brecwast, y bath, ac yn y blaen, roedd pedwar chwaraewr yn medru chwarae ar ddau reolydd. Gwir, roedd o braidd yn anghyfforddus – roedd angen i chi fod yn wirion o agos at eich gilydd, efo un chwaraewr yn rheoli’r ceir wrth ddefnyddio’r D-Pad ar y chwith, a’r llall yn defnyddio’r botymau arferol ar y dde. Ond os ‘da chi, fel fi, yn cael trafferth gwadd pobol draw achos eich bod chi ddim yn gallu ymolchi’n iawn ac yn drewi eitha dipyn, dyma un ffordd o ddenu ffrindiau rownd eich gaff. A gwneud iddyn nhw glosio atoch chi.

The Secret Of Monkey Island

Neu unrhyw gêm point ‘n’ click, deud y gwir. Mae’r cliw yn nheitl y genre, dydi? Dim ond y llygoden ‘da chi isio.

Ond pam setlo am rhywbeth llai na pherffaith pan allwch chi chwarae’r clasuron Monkey Island? Y gyfres o lle cafodd y ffilmiau Pirates Of The Caribbean eu holl syniadau. Pob. Un. Wan. Jac. (Sparrow.)

Rheolwch y llipryn truenus Guybrush Threepwood (Orlando Bloom) wrth iddo fo wireddu ei freuddwyd o ddod yn fôr-leidr, achub y ferch (Keira Knightley), ac ymladd y capten LeChuck (Geoffrey Rush) a’i griw o’r meirw byw. I gyd efo un llaw! Bril. Ac wedyn chwaraewch yr ail gêm, os oes ganddoch chi amser. Ond gewch chi adael y gweddill fod. Mae nhw’n mynd oddi ar y rêls, braidd.

Eto. Yn union fel y ffilmiau Pirates Of The Caribbean.

Monument Valley

image_12-1800x1000

Mae fwy neu lai unrhyw gêm ar ffôn yn gwneud y tro, wrth gwrs. ‘Da ni ddim yn eu trafod nhw lot yma ar Fideo Wyth, ond does dim byd o gwbwl yn bod efo sticio rhywbeth difeddwl ar yr Android tra ‘da chi’n disgwyl am fws (arall) i’r ysbyty.

Mae ‘na stwff ar ffonau sydd ddim yn ddifeddwl, wrth gwrs, fel Monument Valley, sydd wedi cael sylw ganddom ni yma’n barod. Yn hon, ‘da chi’n rheoli merch fach (neu hogyn? Mae’n anodd dweud pan does ganddyn nhw ddim gwyneb…) o ran amryw o lefelau M.C. Escher-aidd, yn troi ac yn eu trosi nhw er mwyn cyrraedd eich nod. Dim ond cwpwl o oriau mae’r holl beth yn para hefyd, felly gewch chi ei chwarae yn y cyfnod hyfryd ‘na ar ôl i’r doctoriaid eich pwmpio chi llawn cyffuriau, pan ‘da chi fod yn cysgu. Siwpyrb.

Hearthstone

Dydw i ddim angen unhryw esgus i drafod Hearthstone. Dwi’n dal i’w chwarae bob bore dros bowlen o Crunchy Nut Corn Flakes, ac yn edrych ymlaen gymaint at yr estyniad sydd allan fis nesa, Mean Streets Of Gadgetzan. Sbiwch! SBIWCH!

Ahem. Hefyd, wrth gwrs, mae’n berffaith bosib chwarae’r gêm efo un llaw – un ai ar y ffôn (er bydd maint y ffeil yn llenwi’ch dyfais chi, fwy na thebyg), neu efo’r llygoden draddodiadol. Ac mae’n bosib codi i’r top ac ennill miliynau o bunnoedd wrth ei chwarae, oherwydd bod y gêm yn dibynnu’n llwyr ar finiogrwydd eich meddwl yn hytrach na chyflymder eich dwylo.

O, a lwc. Lot fawr iawn o lwc.

Unrhywbeth dwi wedi ei golli? Rhowch wybod drwy adael sylw efo’ch dwylo. Eich dwy law. Sy’n gweithio’n berffaith iawn.

‘Da chi’m yn deall pa mor lwcus ydych chi, bois.

One comment

  1. Oedd micro machines digon anodd gyda dwy ddwylo! Oedd i’n wastad yn hedfan bant o’r bwrdd neu disgyn lawr i’r toiled yn chwarae blydi peth…!

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s