gan Elidir Jones
Amser cymryd cipolwg eto ar yr holl gemau dwi wedi gorffen, am y… waw… y pedwerydd tro ar ddeg. Ddylswn i wir wedi rhoi isdeitlau i’r darnau ‘ma. ‘Gemau Diweddar 14: The Re-Re-Re-Revenge’.
Beth bynnag. Gafodd fy sylw ei dynnu gan y Playstation VR yn ddiweddar, a gan llwyth o gemau a phrofiadau dwi ddim wir yn bwriadu eu chwarae’r holl ffordd drwodd yn fuan. Math o buffet VR, os hoffech chi. Ond mae ‘na ddigon o stwff wedi ei orffen gen i. Voila.
Inside (PC / PS4 / Xbox One, 2016)
Gan yr un tîm wnaeth y gêm blatfform 2D arti Limbo – un o sawl gêm blatfform 2D arti sydd wedi ymddangos yn y blynyddoedd diwetha – mae Inside yn teimlo fel mwy o’r un peth, i fod yn onest. Lot, lot mwy, serch hynny, efo’r graffeg a’r gwaith celf wedi cymryd cam anferth ymlaen hefyd.
Dydi’r stori ddim yn berffaith glir yma. Be sy’n bwysicach ydi naws y peth, efo chi’n chwarae fel bachgen bach sy’n gwneud ei ffordd drwy goedwig dywyll a ffatri bygythiol, pawb ‘da chi’n eu cyfarfod yn ddynion efo gynnau ar ôl eich gwaed, neu’n bobol difeddwl yn shyfflo drwy’r byd fel pypedau. Mae ‘na fetaffor yna yn rhywle. Ddim yn berffaith siŵr lle, chwaith.
Mae’r beirniaid wrth eu boddau efo Inside, ac mae’n hawdd gweld pam ar lefel weledol, atmosfferig. Mae act olaf y gêm, yn enwedig, yn cynnwys rhai o’r delweddau mwya prydferth, mwya annifyr, dwi erioed wedi gweld mewn gêm fideo. Ond ar lefel y profiad chwarae, dwi ddim mor siŵr. Mae’n gwibio heibio, ac yn torri tir newydd ar adegau, a fydd y rhai oedd yn hoffi Limbo wrth eu boddau efo hwn… ond ella ‘mod i’n dechrau diflasu, jyst dipyn bach, ar y math yma o beth.
Shu (PC / PS4 / Vita, 2016)
Mae Inside yn cael mensh ar ddechrau fy adolygiad fideo o Shu, digwydd bod – gêm blatfform 2D arall, ond un sy’n teimlo’n hollol wahanol. Mae hon yn berl. Gwyliwch i ddarganfod pam.
Thumper (PC / PS4, 2016)
Adolygiad fideo arall. A gêm wych arall. Dydych chi’n lwcus?
Rise Of The Tomb Raider (PC / PS4 / Xbox One / Xbox 360, 2015)
Wedi ymddangos ar yr Xbox flwyddyn diwetha, a’r PC fis Ionawr, mae Rise Of The Tomb Raider bellach ar y PS4 o’r diwedd – efo cefnogaeth ar gyfer y PS4 Pro a’r PSVR yr un pryd. Whare teg.
Mae gen i atgofion melys o’r gêm Tomb Raider diwetha, er nad ydw i’n cofio lot fawr iawn am y profiad. Ac mae ‘na ddigon o stwff da yn Rise. Ond i fi, mae’n diodde dipyn oherwydd mai dyma’r gêm byd-agored cynta i fi chwarae ers cychwyn The Witcher 3, sydd heb os nac oni bai yn perffeithio’r fformiwla. Dim bod byd agored Tomb Raider yn debyg mewn unrhyw ffordd – mae’n debycach, efallai, i barciau chwarae Super Mario 64, a ddim yn teimlo’n fyw o gwbwl. Ond mae’n perthyn i’r un teulu, o leia.
Does dim byd mawr yn bod yma – mae’n teimlo fel gêm Uncharted arall ar adegau, ond un lle allwch chi grwydro’r byd yn hytrach na chael eich shyfflo’n ddidrugaredd ar hyd llwybr y gêm. Ac mae’r rhan VR – darn ar wahân o awr neu ddwy o hyd, lle ‘da chi’n crwydro cartref Lara Croft fel math o brofiad point & click 3D – yn addawol iawn o ran lle ellith y dechnoleg fynd, os nad yn eithriadol o hwyl.
Ond ‘na ni. Solet, os nad werth y pris llawn.
Everybody’s Gone To The Rapture (PC / PS4, 2015)
Rhan o’r genre sy’n cael ei alw, braidd yn nawddoglyd, yn “walking simulators”, sydd wedi cael dipyn o sylw ganddom ni yma ar f8 – gan gynnwys yn y fideo yma gan Daf.
Mae gormod o drafodaeth o Rapture yn bownd o gynnwys sbwylwyr, felly i roi pethau’n syml – ‘da chi’n chwarae gwyddonydd o’r Unol Daleithiau sy’n crwydro o gwmpas cwpwl o bentrefi yn Shropshire wedi i’r holl bentrefwyr ddiflannu. ‘Da chi’n gweld y gorffennol yn ailchwarae ei hun, ac yn rhoi’r holl stori at ei gilydd drwy’r tameidiau amrywiol sy’n cael eu cynnjg i chi. A dyna ni. Cerdded a gwrando, gwrando a cherdded. Ella bod “profiad theatrig” yn derm gwell na “walking sim”? Trafodwch.
Ac mae’n eitha briliant. Er dydi’r gêm ddim wir yn dal eich llaw, a ‘mod i’n ansicr be i wneud ar adegau, allwch chi ddim beio’r atmosffer sy’n llifo mewn tonnau o’r gêm. Mae’n teimlo fel ffilm ffug-wydd Brydeinig goll o’r 60au, neu bennod olaf, apocalyptaidd o The Archers, ac yn cyfleu syniad o le yn well nac efallai unrhyw gêm arall dwi wedi ei chwarae. Gwych. Ac os o’n i’n ffan o’r genre o’r blaen, dwi’n ffyrnig o’i blaid erbyn hyn.
Dishonored 2 (PC / PS4 / Xbox One, 2016)
Dilyniant hir-ddisgwyliedig i’r Dishonored cynta gan Bethesda. Gêm wedi ei chynllunio’n fwy cywrain nac ella unrhyw un arall flwyddyn yma, y gwaith celf yn bril, cyfrinachau wedi eu stwffio’n ddwfn ym mhob lefel, yn gwadd chi i fynd drwy’r holl beth fwy nac unwaith, efo steil chwarae cwbwl wahanol bob tro… a phrofiad wnaeth ddim cweit glicio efo fi.
Un peth syml iawn, uwchben popeth arall, wneith sbwylio Dishonored 2 i fi – y ffaith eich bod chi’n medru safio’r gêm, eto ac eto, ar unrhyw bwynt. Mae’n tynnu’r holl densiwn yn llwyr. Ar ben hynny, mae’n gymaint o strach safio yn y lle cynta, ar y PS4 o leia. Wnaeth yr holl gêm gymryd 16 awr i’w gorffen, ond dwi’n siŵr ‘mod i wedi treulio oriau ar ben hynny jyst yn safio ac yn ail-lwytho! Gwir, fysa unrhywun efo chydig o hunan-reolaeth yn medru rhwystro eu hunain rhag gwneud hynny, ond dim fi ydi hwnna.
Mae ‘na ambell broblem arall. Mae’r stori yn OK, y gwaith dylunio byd yn dderbyniol, ond dim yn adeiladu digon ar seiliau’r gêm cynta, yn fy marn i, oedd yn dangos cymaint o botensial. Er bod dinasoedd Dunwall a Karnaca, lleoliadau’r ddwy gêm, i fod yn lefydd hollol wahanol, dydyn nhw ddim yn teimlo felly. Beryg bod angen disgwyl am Dishonored 3 er mwyn i’w gyfres hedfan go-iawn yn hyn o beth.
Ond be dwi’n ei wbod? Mae ‘na lot fawr iawn o bobol wrth eu boddau efo’r profiad, ac yn cysidro Dishonored 2 yn un o gemau gorau oll y flwyddyn. Debyg iawn bod chwarae drwy’r peth yr ail dro yn pwysleisio cryfderau’r gwaith cynllunio yma. Ond does gen i ddim amser am y fath ddwli. Gormod o gemau, dim digon o amser.
Oes gennych chi farn am unrhyw un o’r gemau ‘ma? Ydw i ‘di cael pethau’n hollol rong, fel arfer? Rhowch wybod yn y sylwadau, a wela i chi tro nesa.