gan f8
Pennod 5 o’r podlediad, jest mewn amser ar ddiwrnod ola’r mis! Anghofiwch Trump. Mae mis Tachwedd wedi ei achub.
Yn y bennod yma:
– Trafodaethau ar Rise Of The Tomb Raider! Everybody’s Gone To The Rapture! Dishonored 2! Titanfall 2! Battlefield 1! Iasgob.
– Yn y newyddion: mae ‘na gêm newydd ar gael yn y Gymraeg! Mae ‘na stwff swmpus wedi ei ychwanegu i No Man’s Sky o’r diwedd! Ella bod y gêm Zelda newydd am gael ei wthio’n ôl… eto! A mymryn o newyddion annisgwyl am neb llai na Sonic the Hedgehog!
– Daf yn rhoi cyflwyniad i’r dechnoleg newydd sy’n mynd i wneud i’ch gemau edrych gymaint gwell ar eich teledu swanci: high dynamic range (HDR).
– Ac os doedd hynny i gyd ddim yn ddigon, ‘da ni’n trafod Doctor Strange, Daf yn mynd off ar un am ffilmiau superhero, fel arfer, cyn capio’r holl beth off efo llwyth o fwydro am Star Wars. Lyfli.
Ymddiheuriadau gen i (Elidir) am anadlu’n rhy ddwfn i mewn i’r mic ar gwpwl o bwyntiau yn y bennod yma. Wneith o’m digwydd eto. Ella.
Cofiwch hefyd bod y podlediad ar gael ar iTunes, Stitcher a TuneIn. Dyddiau da, bois bach.