gan Elidir Jones
Fyddwch chi’n ymwybodol, mae’n siŵr, bod gennym ni yn f8 HQ dipyn o hanes efo ffilmiau’n seiliedig ar gemau. Allwch chi weld ein eitemau ni arnyn nhw ar Y Lle fan hyn a fan hyn – a wir, roedd ymchwilio i’r eitemau yma mor boenus. Dydi’r ffilmia ‘ma ddim yn dda, folks, hyd yn oed ar lefel eironig.
Ar nodyn mymryn hapusach, dyma fi yn trio amddiffyn y ffilm Super Mario Bros… er bod fy nhafod yn sownd yn fy moch fan hyn. Dydi’r un yna ddim yn gampwaith, yn amlwg… a wir, does ‘na ddim gêm wedi ei throi’n ffilm sydd wedi bod yn agos at gampwaith hyd yn hyn. Mae’r Mortal Kombat cynta’n hwyl mewn ffordd camp, ac mae ambell i Resident Evil, Silent Hill a Tomb Raider yn olreit, sbo. Ella fydd Assassin’s Creed, allan fis Ionawr, yn newid pethau.
Neu ella – ella, ella, ella – bod y ffilm gwirioneddol dda cynta yn seiliedig ar gêm wedi ei rhyddhau yn gynharach flwyddyn yma, a prin bod y byd (neu’r gorllewin, o leia) wedi sylweddoli.
Wnes i ddim trafferthu mynd i weld Warcraft (neu Warcraft: The Beginning, i roi’r teitl llawn, braidd yn lletchwith) pan wnaeth y ffilm daro’r sinemâu ddiwedd mis Mai. Wnaeth ddim lot o bobol drafferthu, deud y gwir. Er ‘mod i wrth fy modd efo ffantasi, ac yn lled-gyfarwydd efo byd y gêm achos y sbin-off, Hearthstone… do’n i ddim yn meddwl bod y ffilm yn edrych yn rhy grêt. Ro’n i isio cyffroi am y peth, ond roedd y trelyrs yn gwneud iddo fo edrych fel cartŵn mawr llachar, digon di-nod. Wele:
Ond wnes i brynu’r ffilm ar Blu-Ray yn ddiweddar. Bellach, dwi wedi ei gwylio hi ddwywaith. Ac mae’n deg dweud bod fy marn wedi newid. Eitha dipyn.
Y stori, felly. Mae byd yr Orcs (y bobol mawr gwyrdd o bob ffantasi erioed) yn marw. Yn defnyddio hud dieflig, mae’r dewin Gul’dan yn llwyddo agor porthwll…
Waw, gair da.
… i fyd Azeroth, reit yng ngardd gefn y brenin Llane Wrynn, ac yn mynd ati i garcharu pobol y wlad, bwydo ei hud efo’u eneidiau, ac adeiladu porthwll llawer iawn mwy, er mwyn i bob un Orc allu croesi drosodd a rheoli’r byd newydd. Ar ochr y ddynol ryw, cawn ddilyn ymdrechion Anduin Lothar – gwas mwya ffyddlon y brenin – er mwyn rhwystro hyn rhag digwydd, efo cymorth gan y dewin ifanc Khadgar, yr arch-ddewin Medivh (oes, mae ‘na lot o ddewinod), a’u carcharor nhw, yr hanner-Orc Garona.
Ac ar yr ochr arall, dydi rhai o’r Orcs chwaith ddim yn fodlon dilyn y teyrn Gul’dan. Yn gudd, mae Durotan, ei wraig Draka, a’i ffrind Orgrim, yn mynd ati’n gudd i ymuno efo’r ddynol ryw er mwyn ymladd yn ôl. Ond, yn amlwg, dydi pethau ddim yn mynd yn hollol llyfn, ac mae ‘na fradwyr ym mhobman…
Yn gyffredinol, doedd y beirniaid oedd ddim yn gyfarwydd efo World Of Warcraft ddim yn rhy hapus efo’r ffilm – efo’r beirniad dylwanwadol Mark Kermode yn eithriad nodedig. Roedd ffyddloniaid WoW, ar y llaw arall, wrth eu boddau, yn colli eu cŵl yn llwyr dros y dwsinau o gags a chyfeiriadau sy’n dotio’r peth. Ac er, fel dwi’n deud, dwi ddim yn gwbod lot am fyd Warcraft oni bai am y llond llaw o gymeriadau a chreaduriaid o’r ffilm sydd hefyd yn gardiau Hearthstone, dwi’n dueddol o gytuno efo’r ffans.
I fod yn onest, dwi ddim yn meddwl bod hi’n bwysig pa mor gyfarwydd ydach chi efo’r gemau. Y genre ffantasi sy’n fwy tebygol o wahanu pobol fan hyn – ac mae beirniaid “parchus” o ffilmiau a llenyddiaeth ill dau yn nodweddiadol alergaidd iddo fo. Ta waeth amdanyn nhw – os ydi ffilm yn llawn cymeriadau efo enwau fel Archmage Antonidas a Magni Bronzebeard yn eich cyffroi chi, does dim byd yn eich rhwystro chi rhag mwynhau Warcraft. Os ddim… wel, debyg iawn eich bod chi wedi stopio darllen yn barod.
Ar wahân am hynny, dwi’n gweld sut ellith rhywun gymryd yn erbyn y ffilm. Mae ‘na ormodedd o CG, yn amlwg, ac mae’r penderfyniad i gael un Orc – Garona – wedi ei chwarae gan actores go-iawn tra bod y gweddill wedi eu creu ar gyfrifiadur yn parhau i fod yn un braidd yn od. Dydi lot o’r cymeriadau ddim yn cael lle i anadlu, chwaith. Dyma un ffilm ffantasi fyddai wir wedi gallu bod yn hirach, i ni gael mynd o dan groen cymeriadau fel Orgrim a Llane, ac i esbonio ambell agwedd o’r plot sy’n cael eu brysio, braidd.
Ond oni bai am hynny, mae ‘na gymaint i’w hoffi am Warcraft. Mae’n gwrthod deuoliaeth da-a-drwg syml Tolkien, yn dewis system foesoldeb llawer mwy amwys, bron yn Game Of Thrones-aidd. Mae’n cynnwys sawl perfformiad gwerth chweil, gyda Toby Kebbell (Durotan) a Ben Schnetzer (Khadgar) yn sefyll allan i fi. Er bod y CG yn mynd yn ormod, mae gweld byddinoedd o Orcs a dynion yn brwydro yn dal i gymryd eich hanadl ar adegau – mae ‘na bwysau go-iawn i’r Orcs sy’n eu codi nhw uwchben eich Turtles a’ch Transformers arferol. Ac, yn fwy na dim, mae’n gwneud i chi fod isio mwy. Mae ‘na gymaint o stwff o fyd y gemau all gael ei ddefnyddio mewn dilyniant, ac mae’r ffilm yn gorffen drwy bryfocio ffans yn wyllt wrth i ni gael ein cyflwyno i un o gymeriadau canolog y saga. Dwi wir yn gobeithio bod ‘na ail ffilm ar y ffordd.
Ac ella wir bod ‘na. Er bod Warcraft yn fflop ariannol anferth yn y gorllewin, roedd y stori braidd yn wahanol yn Tseina, sef y farchnad mwya ar gyfer ffilmiau erbyn hyn. Pa mor wahanol? Wel…
Dyna restr o’r ffilmiau mwya llwyddiannus yn Tseina erioed, efo Warcraft yn eistedd yn gyfforddus yn rhif wyth, uwchben Avengers: Age Of Ultron, Jurassic World, Avatar, Titanic, Star Wars: The Force Awakens… wel, uwchben bob un ffilm arall, deud y gwir. Oni bai am saith. Amser a ddengys a fydd hwn yn ddigon i demtio’r cyfarwyddwr Duncan “mab David Bowie” Jones yn ôl, ac a fydd y pwerau cudd sy’n rheoli’r pethau ‘ma’n gadael iddo fo wneud. Ond mae o isio gwneud un arall. Gadewch iddo fo, neno’r tad.
Dyma’r peth. Mae’n anodd iawn gwneud ffilm ffantasi dda. Mae ‘na gymaint wedi methu’n llwyr (Dungeons & Dragons, In The Name Of The King, The Beastmaster), efo’r clasuron (The Lord Of The Rings, The Princess Bride, Jason And The Argonauts) yn brin ofnadwy.
Dydi Warcraft ddim yn cyrraedd y lefelau yna. Ond mae o yn cyrraedd lefel rhywle’n y canol. Y lefel lle mae’r ffilmiau ‘na ‘da chi’n ddigon hapus i’w gwylio ar bnawn Sul – Willow, The Hobbit, Excalibur – yn llechu’n hapus efo’i gilydd. Ar yr un pryd, mae Warcraft yn teimlo’n fwy modern, yn fwy hwyl, ac yn fwy cymhleth na rheini i gyd. Ac o ran ffilmiau’n seiliedig ar gemau… dydi’r dewis ddim yn grêt, mae’n wir, ond alla i ddim meddwl am un arall sy’n dod yn agos at y safon yma.
Os ‘da chi’n ffan o ffantasi, ac yn ffan o’r gemau – neu’n gwbwl anwybodus ohonyn nhw, a ddim yn gwbod y gwahaniaeth rhwng eich Gorehowls a’ch Doomhammers – mae ‘na bethau lot gwaeth allwch chi wneud efo dwy awr na suddo i mewn i’ch soffa, a chymryd trip i fyd Warcraft.