Pam Dydi’r Ffilm Super Mario Bros. Ddim MOR Ddrwg

Wel. Os na wnaeth y teitl yna gael eich sylw chi, mae ‘na rwbath mawr iawn o’i le.

Os ‘da chi wedi bod yn gwatshiad ni ar Y Lle, fe fyddech chi’n gwybod bod ganddon ni obsesiwn bach efo ffilmiau wedi eu seilio ar gemau, a pa mor wael ydyn nhw. Gwyliwch ni’n cracio gags stiwpid amdanyn nhw fan hyn a fan hyn. Ac, ar ddiwedd y bennod ddiwetha, mae ‘na jôc bach am y ffilm Super Mario Bros., sy’n gyrru Daf dros y dibyn o’r diwedd.

Ond dyma’r peth. Dwi ddim yn meddwl bod y ffilm cweit yn haeddu cael ei golbio gymaint ag y mae hi dros y blynyddoedd. Dwi ddim yn honni ei bod hi’n ffilm dda, cofiwch. Ond mae ‘na bethau i’w hoffi amdani.

Os ‘da chi’n edrych yn ddigon caled.

Ella.

125fa3666769ffd8a4cc478ed8baa6690e70b015.jpg__846x0_q80

Yr hanfodion i ddechra. Cafodd Super Mario Bros. ei ryddhau yn 1993, yn cystadlu yn erbyn Jurassic Park yn y sinemâu (o diar), ac wedi ei gyfarwyddo gan y gŵr a gwraig Rocky Morton ac Annabel Jenkel.

Hmm… na. Na, fi chwaith.

Mae’n serennu Bob Hoskins fel Mario, John Leguizamo fel Luigi, Samantha Mathis fel Daisy (achos dwi’m yn meddwl byddai’r enw ‘Princess Toadstool’ cweit wedi gweithio), a Dennis Hopper fel y Brenin Koopa. Wel… dyn efo gwallt sbeici sy’n galw ei hun yn Koopa, beth bynnag. Dim y crwban mawr o’r gemau. O gwbwl.

Roedd y broses o ffilmio’r peth yn hunllefus, gyda’r sgript yn cael ei newid bob diwrnod, a’r cyfarwyddwyr yn ddi-glem ac yn gas efo’r actorion rownd y cloc. Fel canlyniad, fe gafodd Bob Hoskins a’r aelodau eraill o’r cast eu gyrru at alcohol er mwyn aros yn gall. Ac wedi rhyddhau’r ffilm, roedd yn fflop llwyr, gyda’r adolygiadau bron i gyd yn negyddol. Dyma hefyd oedd y ffilm cynta un i gael ei seilio ar gêm… felly doedd ‘na ddim llawer o siawns iddyn nhw lwyddo, reit allan o’r bloc.

Yn ddiweddarach, fe wnaeth Bob Hoskins ddisgrifo’r ffilm fel y peth gwaetha wnaeth o erioed, a’r ffilm wnaeth ei yrru o Hollywood ac i wneud ffilmiau llai.

Mae ‘na nifer diddiwedd o erthyglau a fideos yn esbonio pam bod y ffilm mor wael, felly croeso i chi chwilota am rheini. Wna i ddim eu hailadrodd nhw.

Pam felly dwi’n meddwl bod y ffilm ddim MOR ddrwg? Wel, mae’n hawdd rhestru’r pethau sydd o’i le yma. Ond be am edrych ar y camgymeriadau mae’r ffilm yn eu hosgoi? Ei gryfder mwya, dwi’n meddwl, ydi nad ydi’r ffilm yn trio ailgreu ‘stori’ Super Mario Bros. yn union. Rŵan, dyma hefyd pam gafodd y ffilm gymaint o feirniadaeth – dyma gêm lliwgar a joli i blant, wedi ei droi yn ryw fath o hunlle dystopaidd sy’n agosach at Blade Runner.

Ond ydach chi wedi darllen stori Super Mario Bros? Mae’r peth yn hollol nyts.

super_mario_bros_instruction_manual_story

Y blociau ‘na o gwmpas y lle mae Mario mor hapus yn ei malu’n ddarnau? Pobol ydyn nhw. Mae Mario yn lofrudd. Ac mae pethau’n mynd yn rhyfeddach ac yn rhyfeddach o fanna. Mae’r ail gêm yn freuddwyd, ac yn cynnwys y deinosor trawrywiol cynta mewn gemau. Dwi’n meddwl. Mae’r drydedd gêm yn berfformiad o’r cynta, ac mae gan Koopa saith o blant yn sydyn reit, er bod ‘na ddim golwg o fam. Ac mae pethau’n cario mlaen fel’na.

Mae gemau heddiw’n grand ac yn sinematig. Fedrwch chi ddychmygu ffilm wedi seilio ar The Last Of Us neu Assassin’s Creed yn gweithio. Ond doedd gemau ddim felly o gwbwl yn yr 80au. Stori oedd yn dod ola – yn rhoi ryw fath o esgus gwael pam bod y pixels ar y sgrîn yn symud o gwmpas yn herciog. Dim byd mwy. Yn ei hanfod, mae gwneud ffilm wedi ei seilio ar Super Mario Bros. fel gwneud un o Tetris.

(Er bod ‘na sôn bod ‘na rai o fwncwns Hollywood yn trio coblo ffilm Tetris at ei gilydd ar y funud. Mam bach.)

Ella – ella – y bysa rhai o elfennau mwy traddodiadol Super Mario Bros. wedi gweithio mewn ffilm gartŵn. Ond am ryw reswm, dim dyna ddigwyddodd. Felly os oes rhaid gwneud ffilm o’r peth, pam ddim mynd i’ch cyfeiriad eich hun yn llwyr? Cymryd rhai o’r ‘cymeriadau’ (os ga i iwsio’r term yna), a jyst rhedeg efo’r peth. Dyma pam bod y ffilm, ar ryw lefel (dwfn iawn, iawn), yn gweithio. Mae nhw wedi cymryd rhai o elfennau craidd y gemau – y prif gymeriadau, madarch hud, bydoedd paralel, deinosoriaid, ac yn y blaen – eu taflu nhw i mewn i blender, a gweld be sy’n dod allan. Mae hynny, i fi, yn beth llawer iachach na dilyn y gemau’n union. Allwch chi ddychmygu tysa’r ffilm wedi dilyn Bob Hoskins yn neidio rownd ryw fyd technicolor yn casglu darnau arian, ar gefn Yoshi, yn taflu peli tân o’i ddwylo, ac yn gweiddi “Woo-hoo!” a “Mamma mia!” hyd syrffed?

Hm. Deud y gwir, fysa hwnna yn briliant. Ond dwi’m yn feddwl fysa fo’n cynnal awr a hanner o naratif, chwaith.

Felly. Fyswn i’n argymell bod chi’n gwylio Super Mario Bros.? Wel, na. Mae lot o’r jôcs yn disgyn yn fflat, dydi’r deialog ddim yn wych, mae rhai o’r effeithiau chydig yn dodgy, ac erbyn hyn mae’r diweddglo braidd yn anghyfforddus i’w wylio. Ond ydi’r ffilm yn well na Mortal Kombat: Annihilation, Double Dragon, a ffilmiau Uwe Boll, a’r dwsinau o ffilmiau eraill wedi eu seilio ar gemau? O, ydi. Coeliwch neu beidio, dwi’n meddwl mai Super Mario Bros. ydi un o’r goreuon. Ac mae hynny braidd yn dipresing.

Mae’r ffilm yn dilyn ei lwybr ei hun, yn hytrach na thrio dilyn rheolau’n slafaidd. A pan ‘da chi’n meddwl am y peth… oes ‘na unrhywbeth mwy Mario na hynny?

– Elidir

One comment

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s