Clwb Llyfrau f8: Pe Symudai Y Ddaear

Amser eto i fynd yn ôl i fyd gwyllt gwyddonias yn Gymraeg, ac edrych ar nofel arall gan ein hen ffrind D. Griffith Jones.

Dyma’r drydedd nofel ganddo fo i ymddangos yn y Clwb Llyfrau. Os ‘da chi’n newydd i’r holl fenter nyts ‘ma, wnaethoch chi golli ein golwg ar Y Clychau, nofel dynn ac effeithiol, yn darllen fel cyfuniad o Romero a Lovecraft, am zombies o Gantre’r Gwaelod yn creu hafoc yng Ngheredigion. Ac yna fe wnaethon ni droi at Ofnadwy Ddydd, stori eitha creepy am y meirw yn codi o’u beddau, efo’r diweddglo gwan yn gadael yr holl beth i lawr.

Yr un nofel wyddonias arall ganddo fo, Pe Symudai Y Ddaear (1964), sy’n cael sylw heddiw. Ac mae’n bleser gen i ddweud mai dyma’r nofel fwya nyts dwi wedi ei ddarllen ers sbel. Does bron dim sens yn cael ei wneud yma. Ac mae o’n ogoneddus. Mewn ffordd dipyn yn embarasing.

Reit. Lle i gychwyn?

Mae’n anodd trafod Pe Symudai Y Ddaear o gwbwl heb sbwylio pethau. Ac, i fod yn onest, mae cychwyn y nofel (heb sôn am y teitl) yn rhoi syniad i chi o lle mae pethau’n mynd. Felly wna i ddim poeni am bethau fel’na. Dyna roi digon o rybudd i chi.

Mae’r stori’n canolbwyntio ar griw o athrawon mewn ysgol ramadeg yn Abertawe, sy’n cael eu dal mewn trasiedi pan fo daeargrynfeydd apocalyptaidd yn taro Cymru, ac yn ei rwygo oddi wrth Loegr. Am ryw reswm, mae pawb sydd ar ôl yng Nghymru yn rhedeg i Aberystwyth, sy’n wastio dim amser yn disgyn i mewn i’r môr, gan adael y lle’n wag. Oni bai am Ynys Môn, sy’n aros yn ei le, yn berffaith saff.

*anadl ddofn*

Ac yna, wedi ei guddio mewn niwl arallfydol, mae Cymru yn arnofio rhwng Iwerddon a Chernyw, heb i neb sylwi, ac yn stopio rhywle ym Môr yr Iwerydd. Ym… ia. Tasg yr athrawon dewr wedyn? Hwylio i’r lle a’i hawlio dan faner Cymru rydd, annibynnol, cyn i llywodraeth Prydain ddefnyddio’r lle i destio bomau atomig.

O, mam bach.

7470507

Fe ddylai fod yn amlwg, o’r disgrifiad byr yna, mai propaganda ydi Pe Symudai Y Ddaear, yn nhraddodiad Wythnos Yng Nghymru Fydd. Mae’n ddiddorol nodi mae Islwyn Ffowc Elis ei hun wnaeth sgwennu’r rhagair ar gyfer y llyfr, a dweud hyn:

“Camp anodd yw sgrifennu ffuglen wyddoniaeth (Science Fiction) yn dda. Er mwyn argyhoeddi rhaid gwneud i’r digwyddiadau ffantastig ymddangos yn bosibl, a gwneud y cymeriadau’n hynod fyw. ‘Rwy’n credu bod D. Griffith Jones wedi llwyr gyflawni’r gamp.”

Dwi ddim yn siŵr dwi’n cytuno! Yn un peth, dim cymeriadau byw sydd yma, ond ystrydebau. Y cenedlaetholwr dewr, y sosialydd cwerylgar, y pregethwr doeth, y comic relief, y Sais drwg (sydd hefyd yn anffyddiwr – bŵŵŵŵŵ!), ac yn y blaen. Dwy gymeriad benywaidd sydd yma – un ohonyn nhw’n wraig ffyddlon, a’r llall yna er mwyn i un o’r cymeriadau ddisgyn mewn cariad efo hi. Dydyn nhw ddim yn cyflawni unrhyw bwrpas arall.

A dydi’r “digwyddiadau ffantastig” ddim yn “ymddangos yn bosibl”. O gwbwl. Mae’n rhaid dweud, serch hynny, bod y gwaith disgrifiadol yma yn wych. Mae darllen am ffrwydradau o dân a chraciau enfawr yn ymddangos yn y ddaear a tonnau enfawr yn dinistrio’r pontydd ar y Fenai yn mynd a’ch anadl, ac mae ‘na ddarnau syfrdanol o dywyll yma, yn cyrraedd uchafbwyntiau nofelau eraill Griffith Jones. Ond fedrwn ni byth goelio y byddai’r pethau ‘ma yn gallu digwydd go-iawn. Ryw fath o alegori sydd yma, ond alegori heb esboniad llawn – dim ond lot o ryw drafodaethau hir rhwng y cymeriadau, yn troi mewn cylch am genedlaetholdeb a theoleg, ac yn cynnig bod yr holl beth yn digwydd oherwydd bod rhywun yn rhywle wedi penderfynu bod angen i Gymru gael bod yn rhydd unwaith eto. Ond does dim smoking gun yma – dim moment sy’n crisialu popeth. Ac felly, mae’r holl beth yn teimlo fel ffantasi hollol abswrd.

Erbyn i ni gyrraedd y diweddglo braidd yn fflat, mae’n chwilfrydedd a’n difyrrwch wedi diflannu, a diflastod wedi cymryd ei le. Mae ffaeleddau’r nofel wedi taflu ei ychydig gryfderau i mewn i’r cysgod bron yn llwyr. A dydi hi ddim fel bod ‘na nofel wych yn cuddio yma, o dan yr wyneb… mae’r prif syniad y tu ôl i’r peth mor nyts, mae’n anodd dychmygu sut y byddai’r math yma o beth wedi gallu gweithio.

Dim llawer mwy i ddweud na hynny, dwi’m yn meddwl. Dwi ‘di bod braidd yn gas, dwi’n gwbod. Ond mae llyfrau eraill D. Griffith Jones – yn enwedig Y Clychau – yn well. Onest.

Wel. Be wna i ddarllen tro nesa, ar ôl y bombshell yma? Bosib iawn mai ailymweld â rhai o glasuron y genre ydi’r peth gora i wneud, i weld ydyn nhw’n haeddu’r statws yna. Sticiwch efo ni. Lot mwy o’r Clwb Llyfrau i ddod.

– Elidir

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s