Clwb Llyfrau f8: Ofnadwy Ddydd

Mae ein taith drwy ffuglen wyddonias Cymraeg yn parhau – a tro ‘ma, mae gan y rhan yma o’r wefan enw! Croeso i Glwb Llyfrau Fideo Wyth.

OK, dwi’m yn meddwl fydd o cweit  yn dal sylw’r genedl fel clwb llyfra Richard & Judy. Ond ‘da ni’n trio, dydan?

Os fethoch chi’r rhifynnau cynta, dyma ni – ein golwg ar Y Dydd Olaf gan Owain Owain ac Y Clychau gan D. Griffith Jones. A nofel arall gan D. Griffith Jones sydd dan y chwyddwydr heddiw – Ofnadwy Ddydd (1966).

Wedi ei gyhoeddi chwe mlynedd cyn ei opus “zombies-o-Gantre’r-Gwaelod”, Y Clychau, mae Ofnadwy Ddydd hefyd yn sôn am y meirw byw, ond mewn ffordd eitha gwahanol.

RisingSpirits

Yma, mae’r Gweinidog Isaac Charles, yn chwerw achos tŵf anfyddiaeth, yn penderfynu codi dyn o farw’n fyw. Er mwyn profi pwynt. ‘Da ni i gyd yn gallu uniaethu, dwi’n siŵr. Ond, fel mae’r petha ‘ma’n mynd, mae’r syniad cwbwl foolproof yma yn mynd allan o reolaeth yn llwyr, ac o fewn dim mae’r holl feirw ym Mhrydain yn codi, yn dyddio’n ôl at oes y “barbariaid” a’r “canibaliaid”. Wps.

Dydi’r nofel ddim yn dal dŵr gymaint ag Y Clychau, yn fy marn i. Does ‘na ddim sail mor gry i’r holl bethau gwallgo sy’n digwydd. Ac mae ‘na dyllau yn y plot hefyd – er enghraifft, mae’r ffaith bod y meirw yn codi yn golygu bod neb arall yn gallu marw. Achos rhesymeg. Ond os felly, pam bod pawb yn poeni bod y “canibaliaid” yn dechra bwyta pobol? Hmm. Dydi’r portread o ferched yma ddim yn grêt. Dim ond un, Rebecca Branwell, sy’n ymylu ar fod yn gryf. Ac mae’r diweddglo i’r nofel braidd yn rhyfedd a siomedig a seicedelig. Ond wna i adael i chi gael eich drysu gan hwnna eich hun.

Ond mewn ffyrdd eraill, mae’r nofel ymhell o flaen ei amser, yn enwedig pan mae’n dod at ffilmiau arswyd. Dim zombies traddodiadol sydd yma o gwbwl – mae nhw’n debycach i ysbrydion ar adegau. Ond mae’r tebygrwyddau rhwng Ofnadwy Ddydd a ffilmiau enwog George Romero – doedd ddim wedi eu cynhyrchu eto yn 1966, cofiwch – yn drawiadol iawn. Mae’r cychwyn, er enghraifft, efo’r zombie / ysbryd cynta yn crwydro’r byd yn unig, yn teimlo’n union fel golygfeyddd agoriadol Night Of The Living Dead.

A nes ymlaen, mae’r meirw i gyd yn heidio’n ôl i’w cartrefi, eu swyddi, a’u hoff lefydd, yn atgoffa rhywun o Dawn Of The Dead, efo’r zombies yn dychwelyd i’r ganolfan siopa achos ryw reddf ddwfn. Oedd George Romero yn ffan o Ofnadwy Ddydd felly, sgwn i?

Nag oedd, siŵr. Fysa hwnna’n hurt. Ond mae o’n ddiddorol, beth bynnag.

Fe wnaeth o hefyd fy atgoffa o’r disaster movie – eich Independence Day a’ch 2012 a’ch San Andreas – efo popeth yn digwydd ar lefel lleol a chenedlaethol ar yr un amser, a’r “bobol fach” leol yn achub y dydd yn y diwedd, wrth gwrs.

Felly. Nofel efo’i broblemau, ond yn flaengar iawn mewn lot o ffyrdd hefyd. Gafodd o ei groesawu efo breichiau agored gan y sefydliad llenyddol yng Nghymru, medda chi?

Ym…

Naddo. Mae’r llyfr yn cychwyn efo ymateb gan D. Griffith Jones i Caradog Prichard, oedd braidd yn hallt ei feirniadaeth o Ofnadwy Ddydd ym meirniadaeth y Fedal Ryddiaith 1964, yn ei alw’n rhy erchyll a chableddus. Rŵan, i fod yn deg efo Mr. Un Nos Ola Leuad ei hun, mae ‘na ddarnau hynod o arswydus yn y nofel – fel yr un yma, lle mae’r meirw yn ymosod ar Lundain:

“Ceisia’r torfeydd ddianc i lawr i’r underground, ond i ddim pwrpas… Roedd yr ymddangosiadau’n dod i fyny o’r gwaelodion yn un fyddin aruthrol i’w cyfarfod. Aeth Piccadilly a Leicester Square yn banic gwallgof o ddynoliaeth yn sgrechian a llefain. … Roedd menywod hanner noeth yn sgrechian a hongian allan drwy ffenestri’r llofftydd yn gweiddi am help, a gadawyd hwynt i’w tynged gan eu dynion.”

Mam bach. OK, dim ffilm Disney ydi hwn na’m byd, ond mae o hefyd ychydig yn dipresing bod ‘na gymaint o ymateb chwerw i’r nofel wedi bod ymysg Cymry crefyddol adain-dde y chwedegau – yn enwedig oherwydd nad oedd gan D. Griffith Jones unrhyw amcanion “cableddus” yn sgwennu’r nofel o gwbwl, fel mae o’n esbonio yn y rhagair. Dydi hyn i gyd ddim yn syndod o gwbwl, wrth gwrs. Ond mae o’n dal i fod yn dipresing.

Ond gwnewch eich meddwl ei hun i fyny oedd Ofnadwy Ddydd yn haeddu’r holl hwpla. Ar gael, fel arfer, o’ch llyfrgell goleg leol. A nunlle arall.

Mwy o’r Clwb Llyfrau yn fuan, lle fyddwn ni ella’n mynd yn ôl i ddechreuadau ffuglen wyddonol yn Gymraeg…

– Elidir

6 comments

  1. Mae’n swnio’n debyg i ‘Kairo’ (neu ‘Pulse’), ffilm o Japan lle mae’r byd nesaf yn llawn meirwon, felly maen nhw’n dod yn ôl fel ysbrydion sy’n hanner materol. Ffilm go dda, ac mae’n ymestyn un agwedd o’r fformwla J-Horror cyfarwydd mewn ffordd eithaf diddorol.

    Yn ôl bob sôn mae’r fersiwn Americanaidd yn arswydus o wael, yn anffodus.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s