gan f8
Goeliwch chi ein bod ni bellach wedi cyhoeddi CANT o fideos ar ein sianel Youtube?
Gwir, dim ni sy’n gyfrifol am bob un wan jac – mae ‘na ambell bennod o’r rhaglen gwlt Mega yna, er enghraifft. Ond wnawn ni ddim ymddiheuro am hynny… achos bod ‘na ambell bennod o’r rhaglen gwlt Mega yna. Pa mor cŵl ydi hynny?
Ta waeth, dyma ni’r canfed fideo – ddim yn ecstrafangasa mawr, ond yn hytrach eitem bach yn trafod The Last Guardian gafodd ei dorri o Y Lle achos bod y gêm hir-hir-hir-hir-hir-ddisgwyliedig wedi ei gohirio. Eto. Ond mae ‘na rwbath eitha neis am y ffaith bod ein canfed fideo yn beth mor ffwrdd-a-hi. ‘Da ni’n meddwl bod ni’n ddigri, a dyna be sy’n bwysig.
Mae’r holl gyfres fan hyn, ac mae’r fideo mwya arbennig erioed fan hyn:
A tra ‘da chi wrthi, be am fwynhau ychydig o’n ôl-gatalog? Y stwff comedi cynnar fel Er Mwyn Byw a Huwcyn Yn Chwarae, neu un o’r eitemau ar Y Lle, neu adolygiad bach slei, neu’r tro ‘na wnaethon ni drio ailgreu Ewro 2016. Digon o ddewis.
Reit. Rhaid i ni stopio llaesu dwylo. Ymlaen at y mil.