Gemau 2017

gan Daf Prys, Elidir Jones a Joe Hill

Mae criw (gemau) f8 yn rhestru wyth gêm yr un maent wedi cyffroi amdanynt yn fwy na dim arall yn 2017. Hyd yn oed yn fwy na symud i America.

Ia, ond dim ond chdi sy’n gwneud hynny, Daf.

Shh, Elidir. Gad iddo fe gael yr un yma.

Gynta, y gemau ‘da ni’n gwybod sydd allan ar ddiwrnod penodol, a wedyn pob un arall. A pwy sy’n mynd gynta, felly, yn ôl y calendr? Hmm… o. Fi. Fi yw we. Dyna gyd-ddigwyddiad.

Ffor ffishcêcs.

Calm down, Elidir. Calm down.

Valkyria Revolution
PS4, PS Vita, Xbox One | Ionawr 19

Valkyria, i mi, oedd un o gemau gorau cyfnod y PS3 gan gyfuno elfennau gêm strategol, gwir-amser ac opera sebon. Mi oedd y boen o golli un o’ch milwyr ar faes y gâd yn boenus dros ben, yn enwedig os oedd hwnnw wedi cymryd ffansi at Henri, y gyrrwr tanc, ac mi oeddwn i eisiau gweld beth oedd am ddigwydd rhyngddynt damia!

Nioh
PS4 | Chwefror 8

Dwi’n sycyr am y fformiwla Dark Souls. Hyd yn oed pan mae’r gêm sy’n ei ddwyn yn eitha rybish – peswch Lords Of The Fallen peswch – dwi’n llwyddo ffeindio rwbath i’w fwynhau. Ond hyd yn hyn, dydi Nioh ddim yn edrych yn rybish. Mae’n edrych fel Dark Souls… ond efo ninjas. Ac mae’r fformiwla yna’n un sydd jyst yn swnio’n dda. Ella y bydda i isio snapio’r disg yn ddau erbyn cyrraedd y bos ola, ond ar hyn o bryd, dwi ‘di cyffroi’n lân.

Horizon Zero Dawn
PS4 
Mawrth 1

Roedd hon ar rhestr 2016 f8, ond fe gafodd ei ohirio tan Chwefror 2017. Mwy o amser i’r tîm tu ôl i Killzone i berffeithio yr antur newydd am ddynes yn hela ei gelynion robo-deinosor efo bwa a saeth. Dim picell ddringo tro hyn, felly gawn weld sut fecanig ddringo fydd gen hi (gweler trafodaeth Uncharted 4 a Tomb Raider am gêm y flwyddyn…).

Tom Clancy’s Ghost Recon: Wildlands
PS4, Xbox One, PC | Mawrth 7

Dyddiau yma mae rhywbeth am fedru profi gêm fel criw o gyfeillion wir yn atyniad i mi: medru neidio fewn i gêm am awren fach yn derbyn cyfarwyddiadau gan eich ffrindiau ac yn eich tro yn cynnig strategaeth ar sut mae trechu’r gelyn, hyd yn oed os mae’r peth yn troi yn ffrae.
‘Lle mae nhw?’
‘Draw fanna ar y chwith.’
‘Chwith pwy?’
‘Fy chwith i!’
‘Pa ffordd wyt ti’n edrych?’
‘Syth … Ymlaen.’
‘Syth ymlaen o le?’
‘O’R CASTELL!’
‘Sdim castell fan hyn.’
‘…’

Star Trek Bridge Crew (VR)
PSVR, Oculus Rift, HTC Vive | Mawrth 14

Star Trek, Byd Rhithiol #ByRh a taith argyfwng trwy’r gofod bell. Gyda elfennau cyd-weithiol efo tri chwaraewr arall yn profi ‘bridge’ llong ofod yr U.S.S. Aegis, bydd angen sgwrsio a chydlynnu efo randoms arlein, a pryd mae hynny erioed wedi bod yn beth drwg? Yr unig beth gwael am y gêm wela i yw na fydd modd neud Judo fflip a taflu alien dros fy ysgwydd a la Kirk. Siomedig. Ond woo! hefyd.

Mass Effect Andromeda
PS4, Xbox One, PC 
Mawrth 21

Bydd y 4ydd gêm yng nghyfres Mass Effect yn cyrraedd ein galaeth ni ym mis Mawrth, er bod y gêm yma wedi ei leoli yn y galaeth Andromeda. Ni fydd Commander Shepard yn rhan o’r antur bellach, a gawn weld os fydd unrhyw gydnabyddiaeth o ddebacl diweddglo Mass Effect 3

Yooka-Laylee
PS4, Xbox One, Switch, PC | Ebrill 11

Dychmygwch y sefyllfa. Mae’r gêm Mario newydd yn lawnsio, efo’r Switch, fis Mawrth (ella). Yna, yn Ebrill, mae Yooka-Laylee yn glanio. Ac yn sydyn, mae’r gêm blatfform 3D yn ôl efo bang, ac mae pawb yn partïo fel ei bod hi’n 1999. Dyna fyd.

Efo lot o’r tîm gwreiddiol tu ôl i Banjo-Kazooie yn gyfrifol am hwn hefyd, gawn ni weld bryd hynny a ydi’r fformiwla o redeg rownd byd lliwgar yn casglu llwyth o bethau efo llygadau gwgli arnyn nhw yn dal i weithio, ta ydyn ni’n edrych yn ôl ar Kazooie a’i deip drwy sbectol rose-tinted. ‘Da ni’n gwbod, i leia, bod y gerddoriaeth am fod yn bril. Ac mae hynny’n ddigon i roi cychwyn arni.

Whiw. A nawr, y gweddill. Y gemau sydd jest am lanio… rhywdro.

Wna i fynd gynta.

DAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAF!

The Legend of Zelda: Breath of the Wild
Wii U, Switch | 2017

The big one. Dyma flwyddyn Nintendo. ‘Dy nhw ddim yn digwydd yn aml, megis blwyddyn Olympics neu World Cup (ond heb y cyffuriau, a’r twyllo, a’r llygriad), prin anaml y daw y pethau yma rownd felly rhaid dathlu pan ddown. Ond yn fwy pwysig na caledwedd y Switch yw’r meddalwedd ac wrth gwrs pan yn sôn am feddalwedd Nintendo yna mae Zelda yn dod allan fel mild Tourettes. The Legend of Zelda: Breath of the Wild (T**T!) yw un o fawrion y flwyddyn (Y CL*ST!). Bydd PAWB yn profi hon. Pawb. A mae’r gem yn edrych yn wych: elfennau byd-agored! Coginio madarch! Magnetism! Oh ho ho ho hoooo Nintendo. Fy nghariad. (Ff**I B****G!!!)

[Mario Switch]
Switch | 2017

Dwi’n twyllo fymryn fan hyn. ‘Da ni ddim yn gwybod enw’r gêm yma. ‘Da ni ddim yn sicr y bydd y gêm Mario nesa, ar y Nintendo Switch, allan yn 2017. Yr unig beth ‘da ni wedi ei weld ydi tua pum eiliad o fideo yng nghanol hysbyseb glosi Nintendo ar gyfer eu consol newydd.

mario_heart

Ond mae ‘na gêm 3D Mario newydd yn bodoli. Rhywle. Mewn rhyw ffurf. A fyddwn ni’n cael cyfle i’w chwarae… rhywdro. Mae hynny’n ddigon i fi. Wa-hoo!

South Park 2: The Fractured But Whole
PS4, Xbox One, PC | 2017

Mae Trey Parker a Matt Stone yn ôl efo’u hiwmor ffraeth a’u hymosodiadau digyfaddawd ar ein cymdeithas ‘fodern’. Os nad ydyn nhw’n gallu neud ‘ffynis’ allan o 2016 yna man a man i ni alw pob adeilad yn Trump Tower nawr. O, a mi oedd y gêm cynta yn llawer o hwyl ac yn sypreis i bawb, yn dda i brofi hefyd.

Yiik: A Postmodern RPG
PS4, Vita, Wii U, PC | 2017

Fy uchafbwynt i o sioe EGX Rezzed flwyddyn diwetha, a gêm oedd i fod allan cyn hyn, ond sydd wedi ei ohirio oherwydd trafferthion personol ymysg y datblygwyr. Ond mae pethau da’n dod i’r rhai sy’n disgwyl, ac mae Yiik yn dal i edrych yn grêt. RPG sy’n teimlo fel croes rhwng Earthbound Shaun Of The Dead, efo systemau ymladd sy’n teimlo fel eu bod nhw wedi eu hysbrydoli gan y gemau Mario & Luigi gan Nintendo. Siŵr o diclo’ch holl esgyrn hipster. Ac mae gen i sawl un.

WiLD
PS4 | 2017

Un arall o’r rhestr 2016 fydd efo ni gobeithio rhywbryd yn 2017 (nid fel The Last Guardian, eh Daf??). Ecsliwsif i’r PS4, sy’n opsiwn arall i ni hela efo bwa a saeth. Neu hela fel arth, neu eryr, neu flaidd, neu…

Cuphead
Xbox One, Windows 10 | 2017

Pan yn ifanc dyma fi’n dod ar draws 8mm film reel bychan iawn mewn cwpwrdd sbâr oedd wedi dod o dŷ mam fy nhad o Wrecsam, tŷ Gran. Oni arfer edrych ar y reel yna yn meddwl taw rhywbeth unigryw, anhygoel oedd: trysor bychan! Os yn ofalus mi oedd yn bosib craffu ar y fframiau cychwynnol – a cofio meddwl ei fod yn rhyw fath o gysylltiad efo plentyndod fy nhad ac yn dychmygu y boi yn gwylio’r ffilm fer ar projector. Gwefr a hanner oedd edrych yn fanylach ar fframiau cyntaf o’r reel tynn yna: rhyw greadur digon tebyg i Mickey Mouse! Mae pawb yn adnabod yr animeiddio cynnar hynny. Siapiau mawr clir wedi tynnu efo phensil, lluniau aneglur, crafiadau ar hyd y ffrâm. Rhyw ugain mlynedd yn ddiweddarach fe gefais y syniad o fynd a’r reel i’r adran Sgrin a Sain yn y Llyfrgell Genedlaethol i weld os medren nhw wneud rhywbeth â hi. Llwyddiant oedd, a braf oedd meddwl am atgofion fy nhad yn llifo nôl wrth iddo wylio’r ffilm fer hyn am y tro cyntaf ers degawdau.
‘Beth yw hwn?’ oedd y cwestiwn cyntaf.
‘Aros, gei di weld nawr,’ oedd yr ateb. A cyn hir y ffilm fer yn darfod.
‘Beth oedd hwnna?’
‘Y ffilm fer oedd yng nghwpwrdd Gran. Ti’m yn cofio’r peth?’
‘Erioed wedi gweld y peth yn fy mywyd.’
‘O.’
A dyma pam Cuphead. Ac hefyd gan ei fod yn edrych yn unigryw a llawer o hwyl.

(Wele y ffilm Mickey Makes a Getaway oedd yn cuddio yng nghwpwrdd Gran islaw.)

[Spider-Man]
PS4 | 2017

Un arall heb enw swyddogol. A’r tro diwetha i fi chwarae gêm Spider-Man oedd Spider-Man 3 ar y Wii, a… wel, dwi ddim isio siarad am y peth, i fod yn onest. Ond os ydi’r gêm newydd yma gan Insomniac, yn ecsgliwsif i’r PS4, yn dal dim ond fymryn bach o brofiad Spider-Man 2 – oedd yn briliant o gêm, ac yn lot gwell na’r ffilm – fydda i’n fachan hapus iawn.

Red Dead Redemption 2
PS4, Xbox One, PC | 2017

Cawn ail-deithio i’r Gorllewin Gwyllt efo Rockstar Games yn yr Hydref. Roedd thema y gêm gyntaf o obaith am fywyd gwell yn cael ei chwalu dro at ôl dro yn Totes Emosh – rydym yn edrych mlaen i hwn yn fawr iawn.

Ni No Kuni 2: Revenant Kingdom
PS4 | 2017

Does dim dadl na sgwrs fan hyn. Eisteddwch lawr, gwrandewch a gwnewch. Archebwch Ni No Kuni 2. Dyna fo wir. O, a’r ffaith taw Studio Ghibli sy’n gosod y gwaith celf. Ie, yn union.

Dawn of War 3
PC | 2017

Rydym yn ffans o’r nerd-fyd Warhammer 40,000 yma yn Fideo Wyth. Siawns arall i ddilyn stori y Blood Ravens wrth iddynt ymladd yn erbyn yr Orks a’r Eldar arall-fydol. Tro hyn, fydd unedau newydd megis Imperial Knights a WraithKnights anferthol ar gael i ddinistrio eich gelynion. Mae hyn yn sicr yn golygu rhywbeth i mi felly caewch hi.

State Of Decay 2
Xbox One, PC | 2017

Wnes i chwarae mymryn o’r State Of Decay cynta – gêm byd-agored (arall) yn llawn zombies – sbel yn ôl, ond efo cymaint o stwff arall yn mynnu fy sylw ar y pryd, gafodd o ddim lot o degwch gen i. Ond diolch byth, ga i ail gyfle i gael fy nghoi’n ddarnau gan y meirw byw pan mae State Of Decay 2 yn lawnsio ar y PC a’r Xbox One flwyddyn yma. Does dim lot o wybodaeth am be fedrwn ni ddisgwyl yn wahanol tro ‘ma, ond c’mon. Zombies. Dydi zombies byth ddim yn cŵl.

Sea of Thieves
Xbox One, Windows 10 | 2017

Môr ladron, y Caribi, canu caneuon shanti’r môr, hela am drysor, brwydro llongau eraill a canu caneuon shanti’r môr. Pan oeddwn yn fychan (stori o dy blentyndod eto Daf, teimlo braidd yn melancoli?) bod yn ddyn tân oedd yr awch, wedi ei ddilyn gan fôr leidr. Nawr wrth gwrs wedi gweld tâl a phensiwn sâl dynion tân yna môr leidr amdani. Ond bydd rhaid i’r Xbox neud y tro.

Uncharted: The Lost Legacy
PS4 | 2017

Wedi sawl antur yng nghwmni Nathan Drake, dyma siawns i ni ddilyn stori o safbwynt Chloe. Roedd Uncharted 4 yn un o uchafbwyntiau 2016 ond nid y gyfres, felly gawn weld os fydd Naughty Dog yn dychwelyd i’r brig tro hyn.

Kingdom Come: Deliverance
PS4, Xbox One, PC | 2017

Wnes i gefnogi’r gêm byd-agored canoloesol yma – a canoloesol go-iawn ‘fyd, heb ddim o’ch nonsens hud a lledrith chi – dair mlynedd yn ôl ar Kickstarter, achos bod y peth yn edrych yn briliant. Do’n i ddim ar ben fy hun, chwaith, efo dros filiwn o bunnoedd yn cael ei godi.

Yn anffodus, yn fuan wedi hynny, wnes i ddarganfod bod un o’r prif ddatblygwyr yn gefnogwr uchel-ei-gloch o’r mudiad casineb Gamergate, a… wel… o diar. Felly dyma’r sefyllfa: fydd ‘na gêm yn glanio ar fy stepan drws flwyddyn yma all fod y peth gora ers bara sleis, ond wedi ei wneud gan bobol sy’n gwneud i George W. Bush edrych fel Noam Chomsky. Mae’n mynd i fod yn rolyrcostyr o emosiynau, bois. A gewch chi ddilyn yr holl beth fan hyn ar fideowyth.com.

Destiny 2
PS4, Xbox One, PC | 2017

Fe gafodd cannoedd o oriau eu gwario ar Destiny gan griw Fideo Wyth, ac fe fydd lawnsiad ei ddilyniant yn ddyddiad pwysig yng nghalendr gemau 2017. Wedi dweud hyn, tro yma bydd angen i Bungie gynnwys stori gwerth chweil, efo digon o amrywiaeth iddo er mwyn ein denu yn ôl i amddifyn y ddynol ryw yn erbyn yr hen Vex, Hive a Cabal.

Shenmue 3
PS4, PC | 2017

Un arall wnes i ei gefnogi’n ddifeddwl ar Kickstarter, cyn i fi chwarae’r un o’r gemau Shenmue blaenorol. Ond mae pobol wedi cynhyrfu am hwn. Lot.

Pwy ydw i i ddadlau? Rŵan, gawn ni fersiynau HD o’r gemau cynta, plis? Er mwyn i bobol fel fi allu deall be ddiawl sy’n mynd ymlaen? Ac er mwyn wastio cannoedd o oriau ar gemau bron yn ugain oed pan ddylien ni wir symud ymlaen efo’n bywydau? Diolch.

Star Wars Battlefront 2
PS4, Xbox One, PC | 2017

Efo llwyddiant Rogue One yn y sinema ac hefyd Episode VIII i edrych ymlaen ato Dolig nesa, mae yna lawer o gyffro am bopeth Star Wars. Roedd diffyg cynnwys y gêm cyntaf yn siomedig, felly dyma obeithio bydd llawer mwy i arwyr y Rebellion neu Stormtroopers yr Ymerodraeth Galactig ymladd drosdo tro hyn.

Ydych chi’n edrych mlaen at gêm nad sydd ar y rhestr uchod? Gadewch i ni wybod drwy @fideowyth neu yn y boscus gwag unig islaw. Galle chi hyd yn oed defnyddioi Ffesbwc os oes rhywbeth yn bod ‘da chi.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s