Pod Wyth #6: “Blincin’ Peru”

gan f8

Yr amser yna o’r mis eto, lle ‘da chi’n cael y cyfle euraidd i wrando ar Daf ac Elidir yn mwydro i mewn i’ch clustiau tra ‘da chi’n golchi llestri.

Be sydd ar y fwydlen tro ‘ma? Wel…

– Pow-wow bach am gemau’r flwyddyn a fu, cyn i ni symud ymlaen i drafod Watch Dogs 2, Batman: The Telltale Series, Titanfall 2, Warhammer: End Times – Vermintide.

– Edrych ymlaen at rhai o gemau mawr 2017, tra’n glafoerio’n awchus.

– Be yn union ydi’r gwahaniaeth rhwng datblygwyr a chyhoeddwyr? Daf sy’n esbonio.

– ‘Da ni’n colli’n meddyliau’n llwyr dros Rogue One, yn clywed am fwy o ffilmiau ar y ffordd yn seiliedig ar gemau Sega, ac yn mwydro am y ffilmiau Alien yn dilyn rhyddhau trelyr Alien: Covenant.

– Mwy o’r fallout yn dilyn eitem anffodus y rhaglen Hacio am gemau fideo.

Hyn i gyd, a Doc y gath yn chwarae silly buggers.

Roedd ‘na dipyn o ddewisiadau ar gyfer teitl posib i’r bennod yma, gyda llaw. Y gweddill oedd:

“Supreme Batmans”
“Llosgi Nhw I Gyd”
“Captain Man”
“Barddoniaeth Sells”

Wnaethon ni’r penderfyniad iawn? Dim ond un ffordd sydd o ffeindio allan. Gwrandewch, y ffyliaid.

Ac fel arfer, dyma eich atgoffa bod hwn hefyd ar gael ar iTunes, Stitcher a TuneIn. Hip hip hwre, a blwyddyn newydd dda.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s