Ymateb i’r Nintendo Switch

gan Elidir Jones

Neithiwr, os doeddech chi ddim yn gwybod, fe gafodd llwyth o fanylion eu datgelu ar gyfer consol newydd Nintendo, y Switch. ‘Da ni bellach yn gwybod ei fod o’n cael ei ryddhau, ledled y byd, ar y 3ydd o Fawrth. Yma yng Nghymru fach, £280 fyddwn ni’n ei dalu am y fraint o’i chwarae. Diolch, Brexit.

Ar ôl gwylio cyflwyniad (nodweddiadol o ryfedd) Nintendo neithiwr, wnes i fynd i’r gwely yn weddol hapus. Ella ‘mod i jyst wedi cyffroi am gael mynd i’r gwely. Dwi’m yn gwbod. Achos bore ‘ma… mae ‘na dipyn bach o flas drwg i’r peth, a’r teimlad bod Nintendo ella – jyst ella – yn gwneud yr un camgymeriadau eto.

Dyma’r cyflwyniad, er gwybodaeth:

Cyn mynd ymlaen, mae’n bwysig gwneud yn glir bod ‘na fwy o fanylion am ddod allan heddiw, a dros y wythnosau nesa. Ella fydd y darn yma yn dyddio’n eitha cyflym felly wrth i’r byd a’i Nain fy ngwrthddweud i. Ond mae pawb arall yn rhuthro i roi eu barn ar hwn, felly if you can’t beat ’em

Reit. Y pethau da i ddechra.

Mae’r gêm fawr yna, The Legend Of Zelda: Breath Of The Wild, yn cael ei rhyddhau ar ddiwrnod y lawnsiad. Mae hynny’n beth mawr, ac mae’n troi allan mai dyma’r rheswm gora o bell ffordd i gael eich dwylo ar y Switch yn syth. Mae’n dal i edrych i grêt, ac… ydi cymeriadau’r gêm yn siaradMowredd.

Mae ‘na gêm Mario newydd ar y ffordd!

Mae Super Mario Odyssey, wrth gwrs, yn edrych yn wych… oni bai am y darnau od ‘na wedi eu lleoli yn y byd go-iawn. Dwi ‘di cyffroi mwy am hwn na Zelda, os dwi’n onest. Dipyn o siom bod Odyssey ddim allan tan “y gwyliau”, sef diwedd y flwyddyn, ond ‘na ni. Dwi’n siŵr fydd y profiad yn werth y disgwyl.

Splatoon 2Dim diweddariad i’r Splatoon cynta, fel y disgwyl, ond dilyniant llawn, allan yn yr haf. Dyna syrpreis hyfryd. Splatoon oedd un o uchafbwyntiau’r Wii U. Wnes i chwarae llwyth o’r gêm yna, a dal ddim yn meddwl ‘mod i wedi gwneud digon. Fydda i dros hwn fel inc dros sgwid.

Mae’r syniad o allu chwarae Skyrim ar y go yn bril. Rhyfedd, serch hynny, bod neb wedi cadarnhau mai’r “Special Edition” newydd ydi hwn. Does bosib eu bod nhw’n sticio’r hen fersiwn fanila allan eto…

Ac, am y tro cynta yn hanes Nintendo, fe fydd gemau ledled y byd yn gweithio ar un o’u consols cartre, lle bynnag ‘da chi’n byw. Newyddion gwych i gasglwyr, a’r rhai ohonoch chi sydd ar dân isio chwarae gemau od o Siapan.

Roedd ‘na fwy o stwff da, ond mae’n bwysig hefyd pwyntio allan bod pethau ddim wedi mynd yn berffaith llyfn. Dim o bell ffordd.

Y pryder mwya i fi ydi’r casgliad o gemau allan ar y diwrnod cynta. Eto, fe all hyn newid, ond ar hyn o bryd, yr unig gemau sydd wedi eu cadarnhau ydi: Zelda, Just Dance 2017, Skylanders, 1 2 Switch (casgliad o gemau bach yn steil Wii Sports / Nintendo Land). Mae hynny’n chwerthinllyd o wael. Dim ond y diwrnod o’r blaen, ro’n i’n jocian efo Daf mai’r unig gemau ar gael ar lawnsiad y Nintendo 64 oedd Mario, Pilotwings, Turok. Mae’r leinyp yna, ar y funud, yn edrych yn well na leinyp y Switch.

Ddylai hyn ddim wedi bod yn broblem. Er enghraifft, mae ‘na fersiwn newydd o Mario Kart 8 allan llai na deufis ar ôl y lawnsiad, ar Ebrill 28. Dim gêm newydd o gwbwl, ond fersiwn chydig mwy swanci o gêm sydd wedi bod allan am bron i dair mlynedd. Dyma’r union math o beth ddylai fod ar y silffoedd ar y diwrnod cynta, i demtio’r lluoedd o bobol gafodd ddim profi’r gêm ar y Wii U. Penderfyniad hurt.

Y tu fewn i’r system, mae ‘na 32GB o le ar y dreif caled. Mae hynny’n union yr un peth â’r Wii U, a doedd hynny ddim yn agos at fod yn ddigon bum mlynedd yn ôl. Dydi’r 500GB sydd wedi ei gynnwys ar fodel cynta’r PS4 ddim yn ddigon, neno’r tad. Wrth gwrs, mae’n bosib ehangu hyn efo cardiau SD, ond mae hynny’n gost ychwanegol di-angen ar ben popeth.

A’r broblem arall, i fi, ydi’r gwasanaeth ar-lein. Ar ôl chydig o fisoedd am ddim i gychwyn, fe fyddwch chi yn y man yn gorfod talu i chwarae ar-lein, yn dilyn olion traed Sony a Microsoft. A tra’u bod nhw yn cynnig gemau am ddim i wneud hyn chydig yn fwy deniadol – tri neu bedwar o brofiadau llawn bob mis, a chithau’n cael eu cadw nhw am byth wedi hynny – mae Nintendo yn cynnig un gêm NES neu SNES am ddim bob mis… ac yna’n eu dileu nhw o’ch system. Chwerthinllyd o wael.

O, a dim Animal Crossing. Bŵŵŵŵŵŵŵŵŵŵŵ.

Y peth ydi, i fi’n bersonol, dydi lot o rhein ddim yn broblemau mawr. Mae consols Nintendo yn drydydd platfform i fi erbyn hyn. Mae’r PC yna ar gyfer profiadau dwfn a gemau annibynnol, y PS4 ar gyfer profiadau AAA, a consols Nintendo ar gyfer… pethau gwahanol, unigryw. Mario, Zelda, a’r gweddill… mae hynny’n ddigon i fi. Fe fydd y Switch yn eistedd yn bert o dan fy nheledu fis Mawrth, ac wfft i’r canlyniadau.

Ond o ran y diwydiant yn ei gyfanrwydd… dwi ddim yn meddwl bod hyn yn ddigon. Mae’n teimlo lot fel lawnsiad y Wii U i fi – consol diddorol, efo lot o nodweddion da, ond dim digon, ac wedi ei gyflwyno ar amser rhyfedd. Dwi dal yn disgwyl i bethau newid dros amser. Os ydi Nintendo wir yn bwriadu cyfuno eu holl systemau, cartref a symudol, i mewn i’r un platfform yma, fe gawn ni ddisgwyl lot mwy o gemau yn ymddangos na’r arfer. Ond o ran argraffiadau cynta, dwi’n meddwl bod ‘na dipyn o fynydd i’w ddringo.

Be amdanoch chi? Ydi’r Switch yn apelio, ta ‘da chi ‘di switchio ffwrdd (sori sori sori sori sori sori sori…) yn barod? Rhowch wybod yn y sylwadau, ar Twitter, ar Facebook, neu gyrrwch frân.

One comment

  1. Mae’r Switch yn apelio ata fi ond dwi’n cytuno yn llwyr fydd e’n ail neu thrydydd platfform i’r rhan fwyaf o bobl. Mae’r gemau Nintendo yn edrych yn grêt ond bydd rhaid i’r Switch cael y third parties i lwyddo yn fy mharn i. Mae’r pris yn drychinebus hefyd #brexit

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s