gan f8
Podlediad arall? Yr amser yma o’r mis? Ding dong.
Fel arfer, mae’r sioe yn cael ei recordio chydig o ddyddiau cyn diwedd y mis. Ond chydig o ddyddiau cyn diwedd y mis yma, mae Daf fymryn bach yn brysur yn symud i America, ac yn ymddwyn y byddin o robots hiliol mae Donald Trump am eu hadeiladu. Felly dyma ni – y podlediad ola am sbel lle y byddwn ni’n dau ar yr un cyfandir.
Yn y rhifyn yma!
– Yr holl gemau sydd wedi bod yn gwneud ein bywydau ni’n well mis Ionawr ‘ma. Shantae: Half-Genie Hero! Valkyria Chronicles! Valiant Hearts: The Great War! Overwatch!
– Talp anferth o’r podlediad yn mynd ar drafod ein gobeithion a’n pryderon ar gyfer y Nintendo Switch. Strapiwch eich hun i mewn.
– Cyflwyniad i fyd cyffrous(ish) motion control. Neu rheolaeth symudol, yn Gymraeg. Fel ‘da chi gyd yn wbod yn barod, wrth gwrs.
Yr holl nonsens ‘ma hefyd ar iTunes, Stitcher a TuneIn, fel arfer.