Ffarwel i’r Wii U

gan Elidir Jones

Mae’n anodd credu bod y Wii U dros bedair oed bellach. Dipyn haws yw credu bod Nintendo yn rhoi’r gorau i’r system – The Legend Of Zelda: Breath Of The Wild fydd y gêm mawr ola i ymddangos – ac yn symud ymlaen at y Switch. Dydi’r Wii U ddim wedi rhoi’r byd ar dân yn union, ac wedi bod yn destun mwy na digon o erthyglau a fideos digon nawddogol.

Ond i’r rhai sydd wedi bod yn driw i Nintendo ac wedi chwarae digon o’r system, mae’r Wii U wedi dod yn dipyn o ffefryn. Mae’n cael ei gymharu i’r Sega Dreamcast yn aml – consol gafodd byth lot o lwyddiant, ond â’i fri wedi tyfu eitha dipyn dros y blynyddoedd. Yn barod, mae’r Wii U yn boblogaidd efo casglwyr oherwydd maint cymharol fach y catalog.

Achos dyma’r peth: tra’i bod hi’n hawdd iawn teimlo’n rhwystredig yn ystod bywyd y consol ei hun oherwydd bod cyn lleied o deitlau mawr yn cael eu rhyddhau, fe fydd hynny’n dod yn gryfder o’r pwynt yma ymlaen. Wrth i brisiau ollwng, fe fydd hi’n dod yn ddigon rhwydd prynu Wii U a’r teitlau gorau i gyd am bris rhad iawn, ac mae’n debyg y bydd mwy a mwy o bobol yn dod i gydnabod bod y system wedi cael ei drin braidd yn annheg yn ystod ei fywyd byr.

Beth bynnag. Cyn i bethau fynd yn rhy felancolaidd yma, be am gael golwg ar uchafbwyntiau’r system? Y pum gêm sydd – yn ôl fy marn hynod wyddonol i, wrth gwrs – yn sefyll ben ac ysgwydd uwchben y gweddill. Y rhesymau gorau i gael gafael ar Wii U, bedair mlynedd yn hwyr. Rhag eich cywilydd chi.

5. ZombiU

zombiu_artscreenshots_120605_10am_zu_e3_screenshot_buckingham_meleeweapon-0002_156053

Fel arfer, dydi gemau sy’n cael eu lawnsio efo system – oni bai am eich Marios a’ch Zeldas – ddim yn rhy sbeshal. Ac yn wir, digon llugoer oedd yr ymateb i ZombiU, sydd bellach wedi mudo draw i’r PS4, Xbox One a’r PC dan yr enw Zombi. Ond i fi, y gêm yma’n fwy na dim arall wnaeth grisialu be oedd yn wahanol am y Wii U, a hynny ar y diwrnod cynta un.

Ro’n i wastad yn mynd i fod yn hoff o hwn. Dwi’n ffan o zombies yn gyffredinol. Mae’r profiad chwarae yn cynnwys rhai elfennau roguelikea rhai eraill sy’n debyg i Dark Souls. Grêt. Ac yna mae gennych chi rai o’r adegau mwya annifyr a dirdynnol dwi erioed wedi eu profi mewn gêm. Dychmygwch y peth: ‘da chi wrth ddrws, yn chwilio am y goriad, haid o zombies y tu ôl i chi. Ond yr unig ffordd o ddod o hyd i’r goriad ydi twrio yn eich pecyn, sydd ar sgrîn y rheolwr yn eich dwylo. Gêm arswyd sy’n eich gorfodi i edrych i ffwrdd, yn union pan ‘da chi ddim isio gwneud. Mae’n swnio fel peth bach iawn, ond roedd o mor effeithiol, ac yn unigryw i’r fersiwn ar y Wii U.

Bellach, mae ZombiU ar gael am bris potel gwael o wîn. Does ‘na ddim rheswm i beidio mynd amdani.

4. Mario Kart 8

Y gêm Mario Kart gora erioed.

OK. Ddylsa hynny fod yn ddigon i chi.

Ochenaid. Wel, os oes wir angen mwy o wybodaeth arnoch chi… dyma’r gêm wnaeth wneud i fwy o bobol brynu Wii U nac unrhyw un arall, efo gwerthiant y consol ym Mhrydain wedi chwyddo 662% o’i herwydd. Mae ‘na draciau newydd sy’n glasuron yn syth, dewis teidi o hen draciau (Moo Moo Meadows am byth!), 16 o rai ychwanegol i’w lawrlwytho, mwy o gymeriadau nac unrhyw gêm Mario Kart arall… ac ar ben popeth arall, mae’n cael yr effaith yma ar bobol.

O… ac un peth bach arall. Hwn.

3. NES Remix 1 & 2

Dwi’n twyllo fymryn bach yn rhoi dwy gêm efo’i gilydd. Ond fy rhestr, fy rheolau. Plys, mae nhw ar gael mewn un pecyn… ond pob lwc dod i hyd i hwnna.

Mae’r syniad tu ôl i’r gemau NES Remix yn bril. Cymrwch holl glasuron y Nintendo Entertainment System gwreiddiol, a jyst… ysgwydwch nhw o gwmpas. Donkey Kong yn serennu Link! Fersiwn cyfan o Super Mario Bros, yn rhedeg o’r dde i’r chwith, efo Luigi yn lle Mario! Trio mwynhau Clu Clu Land mewn unrhyw ffordd!

OK, dydi popeth fan hyn ddim yn taro deuddeg, ond mae digon yn gwneud i haeddu’r safle uchel yma ar y rhestr. Rŵan ta, Nintendo… gawn ni fwy, plis? Ar y Switch, er enghraifft. Ac… o, dwi jyst yn taflu syniadau allan fan hyn, ond… SNES Remix? You know it makes sense.

2. Splatoon

Do’n i ddim yn siŵr am Splatoon y tro cynta i fi weld y peth yn rhedeg. Ac oherwydd hynny, dwi am feddwl dwywaith am bob penderfyniad dwi’n ei wneud o hyn ymlaen.

Gêm saethu ar-lein lle dydi saethu’r chwaraewyr eraill ddim yn gonsyrn mawr. Yn hytrach, mae’r pwyslais ar orchuddio’r lefel efo paent. Mae’n swnio braidd yn ddiflas pan dwi’n ei ddeud o fel’na, ond mae’n rhaid i chi goelio fi pan dwi’n deud ei fod yn hwyl gwyllt. Mae’r profiad chwarae’n llyfn, y graffeg yn bril, y gerddoriaeth ymysg y gorau mae Nintendo wedi ei gynhyrchu mewn blynyddoedd, yr opsiynau o ran addasu eich cymeriad yn ddiddiwedd, yr ymgyrch single-player fwy neu lai yn berffaith…

A dwi newydd gofio bod Splatoon 2 ar y ffordd, a dwi’n teimlo fymryn yn benysgafn.

1. Super Mario 3D World

Mae pob gêm 3D Mario yn ddiweddar wedi bod yn wych. Y gemau Galaxy ar y Wii, wrth gwrs, a Super Mario 3D Land ar y 3DS. Mae’n anodd iawn penderfynu pa un ydi’r gora, ond mae 3D World yn cystadlu am y teitl, yn sicr.

Wnaeth y byd ddisgyn mewn cariad efo gwisgoedd cath y prif gymeriadau’n syth. Wnaethon nhw hyd yn oed ysbrydoli sioe bypedau ar-lein gan Nintendo, ond, y… ia. Symudwn ni ymlaen yn reit siarp, dwi’n meddwl.

Y peth hyfryd am 3D World, i fi, ydi’r ffordd ‘da chi’n mynd o grwydro’n rhydd o gwmpas lefelau agored a syml ar ddechrau’r gêm, cyn symud, yn y man, at gyrsiau hunllefus sy’n debyg o wneud i unrhyw ffan o Dark Souls fyrstio mewn i ddagrau. Rhwng hynny, y dewis o gymeriadau sy’n atgoffa rhywun o Super Mario Bros 2, llwyth o eitemau newydd, y cyfrinachau ym mhob lefel, ac ymddangosiad cynta Captain Toad, ac mae hwn yn haeddu ei lle ymysg y gemau Mario gora erioed.

O, ac mae’r gêm hefyd yn cynnwys y bos gora yn hanes y bydysawd.

Bowser. Wedi ei wisgo fel cath. Siwpyrb.

Mae ‘na fwy o gemau sydd ddim ar y rhestr yma, wrth gwrs. Fersiynau HD o The Wind Waker Twilight Princess, efo gwelliannau. New Super Mario Bros U. Bayonetta 2. Super Smash Bros. Donkey Kong Country: Tropical Freeze. Super Mario Maker.

Felly pam ddim rhuthro lawr i’ch tre / dinas agosa y funud yma a chael eich dwylo ar Wii U a chasgliad o’r gemau gora am bris sydd, fwy na thebyg, yn stiwpid o rad. Dydi hi byth rhy hwyr.

Wel… ella bod hi fymryn yn hwyr. Wir yr. Lle ‘da chi ‘di bod?

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s